Cynllun 9 pwynt i gryfhau economi etholaeth Dwyfor-Meirionnydd
Mae Dwyfor-Meirionnydd yn gyforiog o gyfoeth naturiol – boed yn adnoddau naturiol neu adnoddau dynol. Ond eto mae gogledd orllewin Cymru yn parhau i fod yn un o ranbarthau tlotaf gogledd a gorllewin Ewrop.
Yn wir yr etholaeth hon sydd gyda’r incwm y pen isaf drwy holl wledydd Prydain, £420 yr wythnos ar gyfartaledd, ond ar y llaw arall roedd cyfartaledd pris ty yn Abersoch ac Aberdyfi yn y flwyddyn diwethaf yn £325k.
Canlyniad hyn yw bod canran uchel o’n hieuenctid yn symud allan i ganfod gwaith, ac mae’r cyflogau isel sydd yn cael eu cynnig yma yn golygu na all pobl leol gystadlu am dai, yn aml iawn, oherwydd nad yw’r farchnad yn cael ei reoleiddio.
Pen draw hyn ydy colli iaith a diwylliant.
Rhaid felly mynd i’r afael a’r cwestiwn economaidd a chymryd camau i ddatblygu economi gryfach.
Mae’r Cyngor Sir, o dan arweiniad Plaid Cymru, yn gweithio’n ddygn i ddenu buddsoddiadau ac i sicrhau fod cyfleodd yma i ddatblygu busnes. Mae’r ffaith bod Gwynedd wedi cynyddu cyflogau isaf gweithwyr y Sir i fod yn gyflog byw go iawn, a pholisïau caffael yn cefnogi busnesau lleol i’w croesawi. Ond mae gwaith clodwiw Plaid Cymru ar y Cyngor yn cael ei lesteirio gan ddiffyg arweiniad gwleidyddol o du Llywodraeth Cymru a diffyg diddordeb llwyr Llywodraeth San Steffan.
Bwriad y cynllun yma yw canfod ffyrdd o fuddsoddi yn ein doniau a chyfoeth naturiol gynhenid tra hefyd yn sicrhau ein bod yn chwarae ein rhan yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Mae hanes diweddar Ford ym Mhenybont ar Ogwr yn dangos, eto fyth, y perygl o fuddsoddi mewn cwmniau mawr tramor. Rhaid dangos hyder yn ein pobl a’n cymunedau. Dyna fwrdwn y ddogfen hon.
Yn y ddogfen hon byddaf yn cyflwyno rhai syniadau – 9 pwynt – fyddai, o’u gweithredu, yn cryfhau ein heconomi, yn arwain at greu swyddi, ac yn rhoi fwy o bres ym mhocedi pobl Dwyfor-Meirionnydd.
- Cronfa Drawsnewidiol
- Gwefru Gwynedd
- Isadeiledd
- Datganoli
- Rheilffyrdd
- Amaethyddiaeth
- Adeiladu
- RiverSimple
- Perchnogaeth
Gallwch ei ddarllen drwy glicio ar y penawdau uchod, neu drwy glicio ar y linc isod.
Cynllun Economaidd – CYM – TERFYNOL