Mae hyd at ddwsin o ambiwlansis neu ragor yn ciwio y tu allan i’n Ysbytai Cyffredinol, ac mae’r adran Gofal Brys a Damweiniau yn methu ymdopi gyda’r galw.
Mae Gogledd Cymru wedi colli 400 o wlau ysbyty rhwng 2009 a 2014
Mae 4 ysbyty cymunedol wedi cael eu cau, gan olygu colli 53 o wlau cymunedol o ganlyniad (Llangollen, Fflint, Blaenau Ffestiniog, Prestatyn)
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar i Lywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i agor gwlau cymunedol a gweithio’n agosach gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol i ddefnyddio gwlau yn y sector gymdeithasol.