Datganoli

Datganoli

Mae Plaid Cymru wedi bod o blaid datganoli erioed. Un cam ar hyd ffordd hir iawn oedd buddugoliaeth ymgyrch 1997 i sefydlu Cynulliad Cenedlaethol a datganoli peth grym i Gymru. Ond nid terfyn y daith yw Caerdydd. Fel plaid sydd yn credu mewn datganoli, rhaid i ni weld y datganoli hwnnw yn parhau y tu hwnt i Gaerdydd.

Mae angen i Lywodraeth Cymru ddatganoli grym pellach i’r Cynghorau Sir, a sicrhau’r ariannu cyfatebol. Mae angen i Lywodraeth Cymru anelu i gynyddu’r arian i Lywodraeth leol i o leuaf 1% uwchben chwyddiant, er mwyn sicrhau fod gan y Cynghorau Sir gapasiti i fuddsoddi mewn prosiectau lleol. Dylai’r arian yma gael ei roi fel rhan o’r RSG heb ei glustnodi gan y Llywodraeth, gan roi’r rhyddid i’r Cynghorau Sir i’w wario yn unol â’u blaenoriaethau hwy. Byddai hyn yn golygu miliynau yn ychwanegol y flwyddyn i Gyngor Gwynedd.

Yn ogystal â hyn rhaid dod a swyddfeydd a swyddi ein cyrff cyhoeddus i Wynedd. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar eu bod nhw am sefydlu Arolygydd Cynllunio annibynnol i Gymru. Dylid sefydlu’r swyddfa yn yr etholaeth hon. Nid yn unig fod cam o’r fath yn dod a swyddi o ansawdd i’r ardal, ond mae hefyd yn golygu fod gan y swyddogion fyd-olwg wahanol. Mae’n fyd-olwg trwy brism cymunedau Cymraeg, yn hytrach nag un y ‘bybl’ yng Nghaerdydd.

Mae gan Llywodraeth San Steffan dros 500 o gyrff cyhoeddus a hyd braich, ac mae gan Llywodraeth Cymru tua 30 o gyrff. Ble mae’n bosib dylid sicrhau fod y cyrff yma, ynghyd a sefydliadau cyhoeddus eraill, yn cael eu lleoli y tu allan i Gaerdydd.

<– Blaenorol | Isadeiledd

–> Nesaf | Rheilffyrdd