Amaeth
Mae sector amaeth yn wynebu’r dyfodol mwyaf ansicr mewn hanes amaethyddiaeth fodern. Rhwng Brexit ar yr un llaw a Llywodraeth Lafur sydd ddim yn deal y gymuned amaethyddol ar y llall, mae dyfodol llwm iawn i’r ffermwyr mynydd. Mae Brexit a’n tir, papur y Llywodraeth ar drawsnewid amaethyddiaeth yn sgil Brexit yn wirioneddol frawychus, a gall hwn ar ei ben ei hun arwain at nifer o ffermydd yn methu a pharhau.
Wrth gwrs fod gan y sector gyhoeddus rôl i’w chwarae. Rhaid sicrhau fod polisïau caffael cyhoeddus yn gryfach, gan sicrhau mai cynnyrch amaethyddol Cymreig sydd ar gynnig yn y sector gyhoeddus.
Os ydym yn aros yn yr UE neu yn rhan o raglen ariannu Brydeinig Newydd, rhaid i’r gyfundrefn fod yn fwy hyblyg, a galluogi ein ffermydd i ddatblygu cynnyrch sydd yn gydnaws a’r tir.
Hyd yma mae’r UE yn rhoi sybsidi i gynhyrchu cig oen ac eidion. Mae llaeth yn ei chael hi’n well ar hyn o bryd, ond dim ond rhai blynyddoedd yn ôl roedd llaeth yn dioddef yn aruthrol oherwydd grym y cwmnïau prynu mawrion.
Mae angen i’r RDP (Rhaglen Datblygu Gwledig) gael ei rannu’n decach er mwyn i bob fferm gael budd ohono. Dylid hefyd defnyddio’r pres yn well er mwyn helpu i ddatblygu cynnrych a marchnadoedd newydd, gan roi fwy o hyblygrwdd i’r fferm.
Dywed adroddiad gan Brifysgol Bangor fod tir Cymru yn berffaith ar gyfer tyfu cnwd fflacs, ond nad oedd yn broffidiol i wneud hynny. Byddai rhoi hyblygrwydd yn y system er mwyn galluogi ffermydd i arbrofi gyda thyfu cnydau fel yma, ynghyd a datblygu cynnyrch eraill a defnyddio technegau newydd, yn agor marchnadoedd newydd i ffermydd Cymru gan roi gwell sicrwydd, yn lle bod eu hwyau i gyd ym masged y cig coch. I’r diben yma bydd angen i’r Llywodraeth sicrhau fod Prifysgolion a cholegau amaethyddol yn cael y buddsoddiad cywir i’w galluogi i weithio gyda’r sector amaeth i ddatblygu’r cynnyrch mwyaf addas.
Mae’n gwbl hanfodol i ni sicrhau parhad y fferm deuluol Gymreig, gan eu bont yn chwarae rhan mor bwysig yn ecoleg ddiwylliannol y genedl.