Gwefru Gwynedd
Mae Cymru eisoes yn allforio fwy o drydan na’r hyn yr ydym yn ei ddefnyddio. Mae Cymru ymhlith yr allforwyr mwyaf o drydan yn y byd. Mae’r un yn wir am Ddwyfor-Meirionnydd hefyd. Mae potensial yr ardal yma i gynhyrchu trydan yn anferthol.
Mae’r isadeiledd a chapasiti yma eisoes i gynhyrchu 20,000kw o drydan drwy Hydro yn unig. Mae hyn yn ddigon i ddiwallu anghenion trydan bron pob tŷ yn yr etholaeth. Hydro yn unig yw hyn. Mae capasiti presennol photovoltaic yr etholaeth gyda’r gallu i gynhyrchu tua’r un maint. Heb son am wynt a llanw a thrai.
Ond nid cymunedau Dwyfor-Meirionnydd sy’n elwa o hyn.
Un drafferth y mae mentrau o’r fath yn ei gael ydy cael tir. Dylid felly sicrhau fod Llywodraeth Cymru yn rhyddhau tir sydd y neu ofal at ddibenion datblygu cwmnïau o’r fath.
Mae menter newydd Ynni Twrog yn dangos sut all cymunedau gydweithio er budd cyffredin. Mae Ynni Llyn, Ynni Ogwen, a Chwmni Trydan Corwen yn enghreifftiau y gellir eu dilyn.
Ond ymhellach i hyn, mae angen datblygu gridiau lleol. Mae angen datganoli OFGEM yn llwyr a rhoi’r gallu i Gynulliad Cymru i redeg y rhwydwaith Trydan yma. O wneud hyn, byddai llai o drydan yn mynd ar goll (mae dros 5% o drydan yn cael ei golli wrth deithio pellteroedd o’r man cynhyrchu i’r cartref).
Byddai cwmnïau ynni cydweithredol lleol yn darparu refeniw cymunedol sylweddol. Ond o ddatblygu gridiau lleol, gellir darparu ynni yn syth i’r cartref, gan olygu mwy o arian a llai o wariant, a chreu swyddi cynna a chadw.
Amcangyfrifir fod pob cymuned yng Nghymru yn gwario ar gyfartaledd tua £2m y flwyddyn ar drydan i gartrefi. Byddai’r arian yma felly yn cael ei fuddsoddi yn ôl i gymuned sydd yn datblygu’r gallu i gynhyrchu ei thrydan ei hun.
Yn ogystal â hyn dylid gwahodd Prifysgol Caerdydd i ymestyn eu hymchwil i’r defnydd o wres dwr ein mwyngloddiau.
Mae prosiectau llwyddiannus wedi cael eu datblygu ar draws y byd yn defnyddio’r gwres o dan y ddaear i wresogi tai. Mae natur ôl-ddiwydianol rhannau o’r etholaeth yn berffaith i ddatblygu prosiect o’r fath, fydd yn arwain at wresogi tai yn yr ardaloedd hynny gan dynnu pobl allan o dlodi tanwydd a rhyddhau fwy o’u harian iddynt wario’n eu cymunedau. Bydd hyn yn ei dro yn cynnal swyddi manwerthu lleol yn ardaloedd megis Ffestiniog a Chorris.
Byddwn hefyd yn ymladd i sefydlu campws ar gyfer Prifysgol Mondragon yn yr etholaeth, i ddathlu rôl cwmnïau cydweithredol yr etholaeth ac i’w caniatáu i chwarae rhan yn y campws er mwyn rhannu arfer da.