Rheilffyrdd

Rheilffyrdd

Er gwaethaf ymdrechion Beeching, mae’r etholaeth yn parhau i gael ei gwasanaethu gan ddwy reilffordd, ac mae rheilffyrdd arfordir y gogledd a chanolbarth Cymru yn cynnig cyfleoedd economaidd o bwys hefyd. Y Deyrnas Gyfunol ydy’r unig wladwriaeth yn Ewrop sydd ddim yn defnyddio ei rhwydwaith trenau ar gyfer ffreit. Daeth hyn yn sgil preifateiddio’r rhwydwaith yn yr 1980au.

Byddai datblygu’r gallu i gario ffreit ar hyd rheilffyrdd y gogledd a’r canolbarth yn rhoi hyder i fusnesau fedru agor ffatrïoedd yn yr ardal, tra ar yr un pryd yn rhoi hwb economaidd i fusnesau ffreit ffordd leol megis Hughes Ffestiniog ac OJ Jones, Porthmadog.

Mae yna alwadau wedi bod eisoes i gynyddu llwyth a chapasiti Rheilffordd Ffestiniog. Mae sawl adroddiad eisoes wedi cael eu cyhoeddi yn son am fanteision hyn. Mae angen rhagor o waith ymchwil i weld beth yw’r posibilrwydd o ddatblygu capasiti rheilffyrdd Ffestiniog a Phwllheli oherwydd problemau strwythurol fyddai’n golygu buddsoddiad arianol anferthol. Byddwn yn galw am astudiaeth ddichonoldeb i’r ddwy linell yma er mwyn gweld beth fyddai gwerth economaidd datblygiadau o’r fath.

Ond yn sicr rhaid mynnu fod Terminalau Intermodal yn cael eu datblygu ym Mangor a/neu Gyffordd Llandudno ar reilffordd y gogledd a ger Caersws ar reilffordd Cambrian. Mae gan y ddwy reilffordd yma’r gallu eisoes i ddatblygu gwasanaeth ffreit. Rhaid ond datblygu’r terminalau (gelwir yn ‘intermodal terminals’ neu Trans-shipment Terminals’ pan fo’r ffordd yn dod i gyfarfod a’r rheilffordd).

Mae datblygiadau o’r fath yn cael eu harwain gan alw yn y farchnad, ond o fuddsoddi arian cyhoeddus i ddatblygu’r terminalau, byddai hyn yn rhoi hyder i gwmnïau gan greu awyrgylch ffafriol i’r farchnad fedru fuddsoddi.

Nid yn unig y byddai o fudd ar gyfer y farchnad Brydeinig, ond byddai’n golygu fod cynnyrch o Wynedd yn medru cyrraedd y farchnad Ewropeaidd ynghynt, trwy fod y rheilffyrdd yn cysylltu yn syth a thraffig rhyng-gyfandirol Iwerddon-Twnel y Sianel.

Ymhellach i hyn byddai datblygu Terminal Intermodal yn creu nifer o swyddi uniongyrchol yn y terminalau hynny, a hefyd yn ychwanegiad pwysig i’r frwydr amgylcheddol drwy olygu fod mwy o gynnyrch yn cael eu cario ar hyd ein rheilffyrdd.

<– Blaenorol | Datganoli

–> Nesaf | Amaethyddiaeth