Perchnogaeth
Mae cwmni Brighter Foods, Tywyn, yn enghraifft o sut mae rhoi rheolaeth i’r gweithlu yn medru gwyrdroi llwyddiannau cwmni yn dilyn ymadawiad Halo Foods chwe mlynedd yn ôl.
Mae angen i Lywodraeth Cymru sefydlu adain Newydd i Fanc Datblygu Cymru gydag arbenigedd a chronfa wrth gefn, fydd yn cynghori a chynorthwyo gweithlu busnesau sydd yn mynd i’r wal er mwyn ceisio sicrhau parhad y busnes a bod y sgiliau lleol sydd wedi cael eu datblygu yn aros yn y cwmni a’r ardal.
Byddai datblygiad o’r fath wedi bod o fudd i gwmni trydanol Falconer, wrth i’r cwmni yno ddirwyn i ben. Mae’n wych fod y gweithwyr wedi cael Gwaith gyda AER, cwmni lleol arall, ond byddai rhoi cymorth iddynt gymryd perchnogaeth o’r cwmni ai ail strwythuro wedi golygu fod yna le i 6 trydanwr arall yn yr ardal.
Diwedd