Isadeiledd
Mae’r etholaeth hon wedi dioddef yn ddybryd o dan wariant cyson yn ei hisadeiledd. Mae Cyngor Gwynedd wedi gwneud pob dim posib i ddenu buddsoddiad a datblygu ffyrdd, pontydd, ac adeiladau cyhoeddus, ond nid yw’r ymroddiad yma gan yr Awdurdod Lleol yn cael ei gyfateb gyda chymorth o du’r ddwy Lywodraeth ar bob pen i goridor yr M4.
Mae gwariant ar isadeiledd yn lluosogydd, ac amcangyfrifa’r IPPR fod buddsoddiad mewn isadeiledd yn dod ag X1.4 o’i werth yn ôl i’r economi.
Mae angen felly sicrhau fod gwariant y Llywodraeth ar isadeiledd yn cael ei rannu’n deg trwy wledydd y Deyrnas Gyfunol a thrwy Gymru.
Mae’r etholaeth hon yn etholaeth forol, ac iddi nifer o drefi porthladd bychan. Ond eto trefi glan mor ydynt bellach, ac nid porth i’r byd. Mae angen rhaglen o fuddsoddiad yn ein porthladdoedd bychain er mwyn datblygu eu rôl draddodiadol.
Byddai gwella argaeledd band-llydan a derbyniad ffon yn chwyldroadol i economi’r ardal.
Yn ol yr ystadegau diweddaraf mae 17.1% o holl weithlu Dwyfor-Meirionnydd yn hunangyflogedig. Mae hyn i’w gymharu a 5.8% trwy Gymru a 7.1% trwy’r Deyrnas Gyfunol.
Mae cynllun Llywodraeth Cymru i dalu BT i sicrhau bod ein cymunedau yn derbyn Band Llydan wedi methu nifer o’n cymunedau gwledig. Er hyn mae nifer o gymunedau wedi mynd ati ar eu liwt eu hun i greu rhwydwaith ddigidol well na’r hyn a gynigir gan BT/Llywodraeth Cymru. Mae cwmni Guifi yng Nghatalunya wedi arwain y ffordd wrth ddatblygu rhwydweithiau telegyfathrebu cymunedol yng nghefn gwlad Catalunya.
Mae angen dilyn model Guifi, ac i Lywodraeth Cymru gyfrannu cyfalaf ac arbenigedd i alluogi ein cymunedau ni i ddatblygu rhwydwaith gyffelyb yma. Byddai hyn yn galluogi gweithwyr i weithio o adref; ac yn galluogi entrepreneuriaid y fro i ddatblygu cwmnïau lleol yn hyderus fod ganddynt y gallu i gyfathrebu yn ddiffwdan gan gael eu cynnyrch i’r farchnad.