Adeiladu

Adeiladu

Nid yw cwmnïau lleol yn aml yn medru cystadlu gyda chwmnïau mawrion, allanol wrth wneud cais am waith adeiladu sylweddol. Yn ogystal â hyn mae gan gwmnïau adeiladu mawr ddigon o gyfalaf, neu gredyd, wrth gefn i’w galluogi i ddatblygu ystadau mawr neu brosiectau mawr. Mae hyn yn golygu fod cwmnïau lleol yn colli allan.

Rhaid newid y drefn gynllunio a chontractio felly. Dylid edrych ar sut y gellir torri’r contractau yma i fyny, pan yn bosib, a rhoi trefn mewn lle i alluogi casgliad o gwmnïau bychain i ddod at ei gilydd i wneud cais. Gellir rhoi mwy o bwysau ar werth economaidd cwmni lleol yn hytrach na’r gwerth ariannol eu cais.

Pan fo’n dod i ddatblygu tai rhaid edrych ar y posibilrwydd i ganiatáu i’r system hyrwyddo cwmnïau adeiladu lleol, ac nid cwmnïau adeiladu mawr o’r tu allan.

<– Blaenorol | Amaeth

–> Nesaf | RiverSimple