River Simple
Gwyddonydd o Gymro, William Robert Grove, o Abertawe, ddyfeisiodd y gell danwydd hydrogen, ac mae Cymru yn parhau i arwain y byd yn y defnydd o hydrogen fel ffynhonnell ynni. Mae cwmni Riversimple, yn Llandrindod, wedi datblygu car hydrogen ac wrthi’n gorffen eu cynlluniau i ddod a’r car i’r farchnad agored. Maent yn y broses o ddatblygu fan hefyd. Eu bwriad yw agor ffatri yn Llandrindod i adeiladu 5,000 o geir y flwyddyn. Byddai hyn yn creu 400 o swyddi uniongyrchol a thua’r un faint o swyddi anuniongyrchol Byddai hefyd yn golygu fod hyd at 13,000 tunnell o garbon yn cael ei dynnu allan o’r amgylchedd bob blwyddyn, gan fod 5,000 yn llai o geir tannwydd ffosil ar ein ffyrdd.
Mae’r cwmni yn gwbl ymrwymedig i Gymru. Rhaid sicrhau fod y cwmni yn dod yn rhan o Gais Twf Canolbarth Cymru er mwyn eu galluogi i gael y £60m angenrheidiol i ddatblygu’r ffatri a chael y car i’r farchnad. Byddwn hefyd yn datblygu’r berthynas rhwng y cwmni a Pharth Menter Eryri er mwyn eu galluogi i orffen eu gwaith ymchwil ar y fan ac agor eu ffatri yn yr ardal hon, fyddai’n arwain at greu cannoedd o swyddi o safon uchel yn yr ardal hon.