Cronfa Drawsnewidiol

Bermo

Cronfa Drawsnewidiol

 Mae’r galw am annibyniaeth yn cynyddu’n ddyddiol. Ond daw gwir annibyniaeth wrth i ni feddwl a gweithredu fel cenedl annibynnol. Dyna beth mae cymunedau Dwyfor-Meirionnydd wedi bod yn eu gwneud ers sawl cenhedlaeth wrth i bobl ail adeiladu eu cymunedau o’r gwaelod i fyny.

Dyna hanes Awen Meirion, Antur Aelhaearn, Antur Stiniog, Nant Gwrtheyrn, Hufenfa De Arfon, Tafarn y Fic, Tafarn yr Heliwr, Tafarn y Plu, Pengwern a nifer o enghreifftiau eraill. Mae pobl – ein hadnodd mwyaf gwerthfawr un – wedi mynd ati i gymryd rheolaeth a buddsoddi’r ychydig sydd ganddynt, boed yn gyfalaf, yn amser neu’n allu, i fyny nad yw eu cymunedau am farw.

Mae’r rhain yn enghreifftiau o arfer da y dylid eu rhannu er mwyn datblygu eraill.

Oherwydd y ffordd orau o gryfhau’r economi yw trwy ei adeiladu o’r gwaelod i fyny. Mae mentrau cydweithredol cymunedol yn llawer mwy cadarn ac wedi eu gwreiddio yn y gymuned, yn hytrach na chwmnïau rhyngwladol sydd yn cael eu denu gydag addewidion o bres am ddim cyn ail-leoli i rywle arall pan fo’r gefnogaeth ariannol yn sychu i fyny.

Mae staff a chwsmeriaid mentrau o’r fath hefyd yn llawer mwy ffyddlon a thriw, gan fod y busnes yn rhan mor bwysig i’r gymuned.

Mae’n gwneud synnwyr economaidd o ran buddsoddiad arian cyhoeddus hefyd. Dim ond 44% o gwmnïau preifat sy’n goroesi blynyddoedd cyntaf eu bodolaeth, tra bod dros 80% o gwmnïau cydweithredol yn llwyddo ac yn mynd ymlaen i fodoli am flynyddoedd.

Rhaid felly buddsoddi yn ein cymunedau. Dylai Llywodraeth Cymru neilltuo £0.5bn ar gyfer datblygu a chynorthwyo prosiectau cydweithredol cymunedol, wedi cael eu harwain gan y cymunedau eu hun. Mae hyn yn gydnaws gyda chamau sydd eisoes ar droed. Mae’r Llywodraeth eisoes yn ariannu Sefydliadau Gofal Cydweithredol, tra bod disgwyl i awdurdodau lleol gefnogi datblygu cwmnïau cydweithredol yn y sector gofal.

Ni fyddai’r arian yn cael ei ragnodi, gan y byddai’n llwyr ddibynnol ar y sector a’r gymuned.

Byddai rhaglen o’r fath, wedi ei weinyddu yn gywir, gyda’r gallu i greu cannoedd o swyddi yn Nwyfor-Meirionnydd.

<– Blaenorol | Rhagair

–> Nesaf | Gwefru Gwynedd