Mae gen i golofn fisol Gymraeg yn y Denbighshire Free Press.
Hon yw’r drydedd golofn i mi ei chyfrannu:
Mae’r gwasanaeth iechyd yn ofnadwy! Mae’r system addysg yng Nghymru yn methu ein disgyblion!
Dyma’r mathau o benawdau yr ydym yn eu darllen yn llawer rhy aml. Mae yna reswm da am hyn, mae gwahanol ystadegau cyrhaeddiadau y gwasanaeth iechyd o’u cymharu a chanlyniadau Lloegr yn dangos nifer o fethianau; mae canlyniadau arbrofion addysg plant yn dangos disgyblion Cymru yn methu cyrraedd lefelau disgyblion gwledydd eraill.
Ond mae profiadau personol o’n gwasanaethau iechyd ac ysgolion yn amlach na pheidio yn rhai hynod foddhaol. Mae’r meddygon; nyrsus; arbenigwyr iechyd; athrawon; cymorthyddion dosbarth ac yn y blaen bron yn ddi-eithriad yn llafurio y tu hwnt i’r hyn sy’n ddisgwyliedig er mwyn lles y claf neu’r disgybl.
Yng nghanol yr holl gecru, mae moral y gweithwyr cyhoeddus hanfodol yma yn mynd yn is, sy’n creu cylch seithig, gan mai ni fydd yn dioddef oherwydd hyn yn y pendraw.
Mae’n bwysig nodi’r diffygion er mwyn sicrhau nad yw pobl yn dioddef yn ddiangen. Ond diffygion pwy ydyn nhw?
Nid bai y gweithwyr rheng-flaen yw bod ysbytai cymunedol yn cau, neu bod safonau glendid rhai ysbytai yn wael oherwydd fod unedau ynysu cleifion â heintiau wedi cael eu trosi i fod yn swyddfeydd. Nid bai athrawon chwaith yw bod y system addysg yn fethedig.
Wrth feirniadu’r methianau yma rhaid sicrhau ein bod ni’n pwyntio’r bys at y rhai hynny sy’n gwneud y penderfyniadau sy’n arwain at y methianau – gwleidyddion a rheolwyr ar gyflogau bras.
Ond, mae yna un haen arall sy’n gyfrifol. Ni’r etholwyr. Mae’r rheolwyr yn atebol i’r gwleidyddion a nhwythau’n atebol i ni. Ni sydd wedi eu rhoi nhw yn y sefyllfa breintiedig o wneud y penderfyniadau yma ar ein rhan. Y cwestiwn felly yw, ai’n diffygion ni yw’r diffygion yma? Os felly beth ydyn ni am wneud i wella pethau?
Clywch clywch. Gwir bob gair.