Dyma’r ail golofn i mi ei hysgrifennu i’r Denbighshire Free Press. Wna i ddim eich diflasu gyda’r gyntaf!
Clywsom yr wythnos hon fod Canolfan Hamdden Plas Madoc am gau ei drysau ym mis Ebrill ar ol i’r Cyngor lleol benderfynu troi cefn ar y lle am amryfal resymau amheus, nad oes lle gennyf fan hyn i’w trafod.
Bydd nifer o ddarllenwyr y papur hwn yn ddefnyddwyr cyson o’r Ganolfan, sydd rhwng Llangollen a Wrecsam, ond sy’n gwasanaethu ardal lawer ehangach.
Plas Madoc ydy’r gwasanaeth diweddaraf i gael ei dorri wth i fesurau llym y cyni ariannol wasgu’n fwy nag erioed ar ein cymunedau.
Ond er gwaethaf y cyni yma sy’n gweld gwasanaethau o bob math yn cael eu torri neu eu cwtogi, ysgwn i ai economeg yn unig sy’n gyrru’r toriadau?
Edrychwch ar ein gwasanaethau iechyd, gydag ysbytai cymunedol a rhai gwasanaethau arbenigol yn cael eu cau; neu ein hysgolion, gydag ysgolion bach gwledig o dan fygythiad cyson a nifer yn cau. Ar yr un pryd mae poblogaeth cefn gwlad yn crebachu a’r trefi mawrion a dinasoedd yn tyfu.
Ychydig wythnosau yn ol rhyddhawyd gwaith ymchwil gan Centre for Cities yn dangos bod dinasoedd fel pwll du yn amsugno buddsoddiad a phobl. Mae hyn wrth gwrs ar draul ein trefi a’n cymunedau gwledig.
Rwy’n pryderu nad cyd-ddigwyddiad yw’r ddeubeth, ond yn hytrach bod bwriad pwrpasol ideolegol yn gyrru’r cwtogi yma ar wasanaethau sydd yn cael eu canoli yn ein trefi mawrion a’n dinasoedd. Mae iddo adleisiau o’r Oes Oleuedig, a’r anogaeth i ni roi heibio ein hen ffyrdd a mabwysiadu moderniaeth gan symud ymlaen. Ond y perygl gyda symud ymlaen yn rhy sydyn yw bod nifer helaeth, yn enwedig y mwyaf bregus, yn cael eu gadael ar ol, yn cynnwys pobl a chymunedau.
Cynnydd sy’n gyrru’r newidiadau hyn, ac, fel yn yr oesoedd a fu, mae Llywodraethau Dinesig Eingl-Americanaidd a’r syniadaeth sy’n eu gyrru yn ein gweld ni fel rhwystr sy’n eu dal yn ol. Ond pa fath o gymdeithas a chymuned ydyn ni am eu traddodi i’n plant?
Pa bris cynnydd?