Sicrhau dyfodol Cysgod-y-Gaer, Corwen

IMG_0296Rhaid cadw Cartref Cysgod-y-Gaer yn nwylo’r Awdurdod Lleol er lles y trigolion a’u teuluoedd. Dyna oedd cri Mabon ap Gwynfor, ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru yn Ne Clwyd wrth i Gyngor Sir Ddinbych drafod dyfodol Cartrefi Gofal yr Awdurdod.

Cyfeiriodd Mabon at y ffaith fod Cysgod-y-Gaer wedi cael adroddiad gloyw gan Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), corff rheoleiddiol Cartrefi Gofal yng Nghymru. Yn eu hadroddiad diwethaf o Gysgod y Gaer dywedwyd, fod y cartref yn cynnal “awyrgylch cynnes a chefnogol… (mae preswylwyr) yn cael eu cynnal gan staff gwybodus a gofalgar sy’n eu trin ag urddas a pharch. Mae’r gofal yn cael ei danategu gan systemau cynllunio, monitro, ac arolygu sy’n cael ei gynnal yn dda. Disgrifiwyd y staff fel rhai cyfeillgar a gofalgar… Rhoddwyd clod i’r bwyd… Yn gyffredinol gellir crynhoi barn y bobl drwy ddyfynu un preswylydd, ‘Rwy’n hapus yma, mae’n le braf i fyw'”.

Dywedodd Mabon ap Gwynfor, “Mae preswylwyr Cysgod-y-Gaer yn gartrefol yno ac yn cael gofal heb ei ail. Mae’r cartref yn drysor yng ngofal Sir Ddinbych, ac yn engrhaifft o arfer da y dylai cartrefi yn y sector breifat edrych ato. Dyma’r unig gartref sy’n darparu gwasanaethau Cymraeg o’r math yma i’w preswylwyr. Does dim llawer o amser ers i’r lle gael buddsoddiad sylweddol gyda chegin newydd i’r cartref, ac mae yna gegin newydd yn cael ei gwblhau yno rwan ar gyfer gwasanaeth ail-alluogi.

“Yn ogystal a gofal arbennig y cartref ei hun, mae Cysgod-y-Gaer hefyd yn ganolfan ail-alluogi, sy’n golygu fod pobl sydd adref neu yn yr ysbyty ac angen cefnogaeth i’w galluogi i aros adref yn medru dod i Gysgod-y-Gaer a chael asesiadau a chymorth. Yn ogystal a hyn mae’n cael ei ddefnyddio gan Therapyddion Galwedigaethol a Gweithwyr Cymdeithasol sy’n gweithio yng nghylch Corwen, sy’n golygu eu bont yn agosach at eu clientiaid gan fedru ymateb ynghynt i’w hanghenion.

“Rydym eisioes wedi gweld gwasanaethau yn cael eu israddio yno, gyda gofal dydd a gwasanaeth ymolchi wedi mynd eisioes. Byddai colli Cysgod-y-Gaer yn gam gwag iawn ac yn golygu gwasanaeth israddol i henoed yr ardal yma sydd angen gofal o’r math yma. Rwy’n anog pawb i gysylltu a’r Cyngor i siarad o blaid y Cartref er mwyn sicrhau ei fod yn aros yng Nghorwen ac yn nwylo cyhoeddus.”