Curo cleddyfau yn sychau aradr – Heddwch

Yfory, dydd Sul 9fed Tachwedd 2014, yw Sul y cofio.

Cafodd bron i bob un teulu yng Nghymru eu cyffwrdd gan y Rhyfel Mawr – y rhyfel i ddiweddi pob rhyfel. Ers hynny wrth gwrs rydyn ni wedi cael bron i 100 mlynedd di-dor o ryfela. Mae yna amryw o deuluoedd ar draws y byd heddiw yn dioddef yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o ganlyniad i ryfel.

Taid yn ymuno
Taid, rheng flaen, trydydd o’r chwaith, yn Northampton yn paratoi i ymadael i ffosydd Ffrainc bron ganrif union yn ol

Fe ddechreuodd y ‘Rhyfel Mawr’ 100 mlynedd yn ôl i eleni, a chan mlynedd yn ôl i’r Hydref yma aeth rhai o fy nheulu i allan i ffosydd Ffrainc. Roedd Wnwcl Oli y Bryn yn un ohonyn nhw, ac mae’n debyg iddo gael ei ddarganfod ar hap wrth i rywun gerdded heibio mynydd o gyrff marw a digwydd clywed anadlu’n dod o’u plith – Wncwl Oli. Diolch byth cafodd ei achub, ond nid yr un dyn ydoedd ar ol y rhtfel a beth ydoedd cynt. Un arall oedd fy hen Daid, Dan Tomos, aeth allan i Ffrainc. Doth yn ôl o Ffosydd brwydr Neuve Chapelle ym 1915, wedi ei glwyfo’n ddifrifol. Wedi gwella cafodd gomisiwn i fod yn recriwtiwr ar hyd a lled Cymru a Lloegr.

Dyma ddyn a welodd ac a brofodd erchyllterau rhyfel. Mae un hanesyn o’u eiddo wedi cael ei gyhoeddi ar ddiwedd yr erthygl yn y linc yma.

1915 Harrogate Casualty Hospital
Taid yn gwella yn ysbyty Harrogate

Cyn mynd ymhellach rhaid dweud mod i’n heddychwr. Doedd Taid ddim yn heddychwr yn ei ddyddiau cynnar (yn amlwg). Cafodd ei argyhededi i ymuno a’t Terriers (y Territorial Army) yn Wrecsam gan ei fos yn y banc, George M Ll Davies. Ychydig wedyn fe gafodd George M Ll droedigaeth a throi’n heddychwr. Pwysodd y ffaith iddo argyhoeddi Taid i ymuno a’r fyddin yn drwm arno ac fe gafodd fymryn o ‘breakdown’, ond aeth ymlaen i fod yn un o Heddychwyr pwysicaf ei oes a gwneud gwaith rhyfeddol. Roedd y jingostiaeth yn drwm bryd hynny. Rhoddwyd pob mathau o esgusodion dros gyfiawnhau’r lladdfa, a defnyddiwyd yr Eglwysi a’r Capeli i’r eithaf i wthio achos rhyfel. Rwy’n hynod falch bod Undeb yr Annibynwyr wedi gwneud ymddiheuriad swyddogol am eu rhan yn recriwtio pobl i’r fyddin bryd hynny. Ta waeth. Ei brofiad yn y rhyfel a oedd un o’r ffactorau pwysicaf wrth i Taid droi at heddychiaeth.

Wrth i ni gofio’r ‘Rhyfel Mawr’ a phawb sydd wedi gorfod dioddef o ganlyiad i orffwylldra Rhyfel, fedra i ddim meddwl am well darn o lenyddiaeth i nodi a choffau’r peth na’r llythyr yma gan Taid at un o’r gweinidogion oedd ar y pryd yn clodfori a chyfiawnhau’r rhyfel.

1914-09 Dan Tomos (2)
Taid

Ar un ystyr mae’n ymdebygu i gan rhyfeddol Edward H Dafis, Mistar Duw.https://www.youtube.com/watch?v=guS9cbrFLRY
Ond yn y gan honno cawn berson yn dechrau amau ei Grewadwr. Tystiolaeth rhyfeddol dyn yn ail-ddarganfod ei Gristnogaeth a’i Heddychiaeth sydd yma. Cofiwch, wrth ysgrifennu’r llythyr ei fod ar y pryd yn parhau i fod yn aelod o’r fyddin, a bod y Rhyfel Byd Cyntaf yn ei hanterth. Mae’r geiriau canlynol yn gofnod rhyfeddol o ddyn yn troi at Heddychiaeth, yn herio’r drefn, ac yn darganfod Crist eto.

Er cof annwyl am Taid a phawb a ddioddefodd o ganlyniad i’r Rhyfel erchyll honno a phob Rhyfel mewn hanes . x

Tanybwlch Llanuwchllyn

24ain Rhagfyr 1917

Annwyl Dr. Williams,

Fe synnwch at fy hyfdra, eto at bwy yr ysgrifennaf mewn cyfyngder os nad at arweinydd yn Eglwys Crist?

Milwr wyf ar hyn o bryd, neu o leiaf ’rwyf yn swyddog ym myddin Brenin Lloegr, er nad wyf yn addas i ymladd mewn canlyniad i’m gwasanaeth yn ystod gaeaf cyntaf y rhyfel yn Ffrainc. Ond i ddod at fy mlinder.

Pan dorrodd y rhyfel allan es megis miloedd eraill i ymladd, fel y tebygwn, dros y gwan; ond mae ofn ar fy nghalon heddiw fod y moesau uchel a roddwyd gerbron yr adeg honno wedi mynd yn angof. Mwy na hynny, mae braw ar f’enaid nad yw rhyfel yn iawn o gwbl, ac na ddylai un dyn sydd yn preffesu Crist gymryd rhan ynddi na rhoddi cefnogaeth iddi?

Y mae geiriau yr Arglwydd lesu mor eglur – “Gorchymyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi ar garu ohonoch eich gilydd, fel y cerais i chwi, ar garu ohonoch chwithau bawb eich gilydd. Wrth hyn y gwybydd pawb mai disgyblion i mi ydych, os bydd gennych gariad i’ch gilydd”. Wel, os yw cariad i’n gilydd yn profi cariad at ein Gwaredwr, onid yw casineb o’n gilydd yn brawf o’n casineb ohono Ef? Beth yw’r swn aflafar a rwyga’n clustiau a’n calonnau heddiw? Dychrynllyd daranau y magnelau a ruant, myrdd neuaddau a gleciant yn eu cwymp, llwon-floeddiadau penaethiaid, cri’r babanod a dolef y mamau trist sydd drech. Ac nid oes gobaith diwedd, canys dial! dial! dial! yw bloedd ein gwlad.

‘Roedd gweled effaith yr alanas yn Ffrainc yn ofnadwy, ond y mae gweled dylanwad y rhyfel ar ymarferiadau milwrol, yngyd a’r bywyd yn y gwersylloedd, ar foes dynion a bechgyn o dyner oed yn waeth – yn ddychrynllyd. ‘Chredech chwi ddim y difrod sydd yn cael ei gyflawni.

A’r hyn a wna imi ryfeddu, ac anobeithio bron, yw nad yw’r eglwys mewn cyffyrddiad a’r trueiniaid hyn, ac nad yw’r bechgyn eu hunain yn teimlo parodrwydd ‘chwaith i droi am gymorth at yr eglwys am yr ofnant na chant gydymdeimlad. “Onid yw’r eglwys yn selog dros ryfel?” mèddant. Maent braidd yn ofni mai gwaith yr eglwys y dyddiau hyn ym mhob gwlad yw bod yn was bach i’r llywodraeth, ac nid yn hafan i bechaduriaid ac i waredigaeth i greaduriaid crwydredig.

A oes gan ein heglwysi yma rywbeth i’w roddi i ni, sydd yn ymbalfalu am oleuni, yn wahanol i’r hyn sydd gan eglwysi’r Almaen? Os nad oes, yn wir bydd raid inni droi yn ein hangen i rywle arall i chwilio am y Crist tyner hwnnw y soniai fy mam amdano – a ddioddefodd gam, a’i faddau, a roddodd le i ddigofaint bob amser, ac a orchmynnai i ninnau wneuthur yr un modd. Ni ddywedodd, fel y mae’r eglwysi yn crybwyll yn fynych y dyddiau hyn (hyd yn oed y rhai a fwriadai unwaith ymgysegru i ledaenu Efengyl Hedd ar y ddaear) “Ewch, gwasanaethwch Dduw Rhyfel, a Duw Ofn a Chreulondeb; cyhoeddwch i’r byd, canys felly y carodd Duw y byd fel y lladdodd efe dros ddeng miliwn o’i bobl”. Gwelwch fel yr ymbalfalaf. ‘Rwyf yn byw mewn ofn. Naill ai mae Crist yn ffug, neu ‘rym ni a’i eglwys yn ei wadu.

Ai ffug y llyfr a roes i ni y Dyn Bach a gawsant yn y preseb, neu al ffolineb aberth Calfari? Yn sicr, Dr. Williams, chwi a wyddoch. Dysgwch fi ac eraill. Ewch ar hyd a lled y wlad i ddatguddio’r gwir ac i arbed y byd rhag ail-groeshoelio’r Crist – dyna yw, os yw yn bod?

Mae fy mhryder yn fawr, felly maddeuwch i mi am eich blino. Ydwyf mewn helbul,

A. Dan Thomas