Dyma fy ngholofn yn y Denbighshire Free Press yr wythnos hon:
“Prevention is better than a cure”. Dyna ddywed yr hen ddihareb Saesneg.
Os ydyn ni’n derbyn hyn fel gwireb, oni ddylai ein glanhawyr gael fwy o glod na llawfeddygon? Sawl bywyd y mae glanahwr yn ei achub bob blwyddyn drwy ymatal heintiau rhag lledu?
Rwy’n lled gellwair. Ond y pwynt yw pwy sy’n penderfynu ar werth arianol cyfraniad rhywun i gymdeithas ac i ddynoliaeth?
Pe byddai Marshan yn ymweld a’r ddaear heddiw byddai’n ddigon teg iddi feddwl fod pêl-droedwyr o Uwch-Gyngrhair Lloegr yn cyfranu fwy at gymdeithas nag athrawon neu weinidogion.
Yr wythnos hon pasiwyd fod ychydig o fancwyr ym Manc Barclays am rannu pot bonws o £2.4bn rhyngddyn nhw. Pam eu bod nhw’n haeddu tâl o’r fath tra bo eraill sy’n gweithio’n ddygn ac yn gydwybodol yn cael cwta canrhan o’u cydnabyddiaeth hwy?
Ac yna yr wythnos diwethaf clywsom fod Prif Weithredwr Sir Ddinbych (ynghyd a Phrif Weithredwyr siroedd eraill mae’n deg dweud) yn debygol o dderbyn bonws hael ar ben y gydnabyddiaeth arianol sylweddol y mae eisioes yn ei dderbyn.
Nid euddigedd sy’n cyflyru pobl i son am y gwahaniaethau mawr yma mewn cyflogau, ond yr angen am gydraddoldeb. Mae adnoddau’n brin, ac arian yw’r ymgorfforiad amlycaf o’r adnoddau hynny. Heddiw mae’r gwahaniaeth rhwng y tlawd a’r cyfoethog yn fwy nag y mae wedi bod erioed yn hanes dynoliaeth, sy’n dipyn o gamp os ystyriwch gyfoeth a thlodi yr oes ddiwydianol, er enghraifft.
Mae’r Prif Weinidog wedi hawlio mai ‘gwlad’ Gristnogol yw’r Deyrnas Gyfunol. Math rhyfedd iawn o Gristnogaeth sy’n caniatau i’r holl gyfoeth yma groni mewn ychydig iawn o ddwylo, tra fo pobl yn gorfod mynychu banciau bwyd yn Llangollen a Dinbych.
“‘Arglwydd,’ gofynnant, ‘pryd y’th welsom di’n newynog neu’n sychedig neu’n ddieithr neu’n noeth neu’n glaf neu yng ngharchar heb weini arnat?’ A bydd ef yn eu hateb, ‘Yn wir, ‘rwy’n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi beidio a’i wneud i un o’r rhai lleiaf hyn, nis gwnaethoch i minnau chwaith.'”