Am ymgyrch!
Mae’r tywydd yn braf ac, os ydyw’r ymateb yr y’n ni’n ei gael ar y drws i’w gredu byddwn ni’n ennill o filltir!
O ddifri, mae’r ymateb wedi bod yn rhyfeddol. Mae yna ambell un swrth wedi bod, ac ambell un diflas; ond mae’r rhelyw o bobl yn barod i siarad, rhanu gofidiau, a gwrando ar ein neges. Mae hyn yn hollol wahanol i’r ymateb y byddai Plaid Cymru wedi ei gael yn y parthau yma genhedlaeth yn ol.
Rwy’n falch dweud ein bod ni wedi denu cefnogwyr newydd o ar draws yr etholaeth, gyda phobl o bob cefndir yn danfon negeseuon ebost, Facebook, Twitter, neu neges destun i ddweud eu bod nhw’n ein cefnogi. Rwy’n dra ddiolchgar i lwyth o elusenau a sefydliadau am eu gwaith yn anog pobl i gysylltu a’u hymgeiswyr. Hyd yma rydym ni wedi cael nid yn unig cefnogwyr ond gwirfoddolwyr newydd trwy Amnest Rhyngwladol, Cyfeillion y Ddaear, RSPB, BHF Cymru, Cancer Research UK ac eraill, oll yn datgan mai Plaid Cymru sydd wedi ymateb orau i’w cwestiynau ac yn cael eu argyhoeddi y byddai Cymru yn le gwell o dan law y Blaid.
Yna rwy wedi derbyn negeseuon gan bobl o bob oedran ar Facebook neu drwy e-bost wedi iddynt fynychu un o’r hystyngau a gafwyd yr wythnos diwethaf. Yn anffodus does yna ddim rhagor i ddod. Mae hyn yn bechod garw oherwydd dyma’r cyfle gorau i argyhoeddi pobl i gefnogi Plaid Cymru, ac mae pobl yn ymateb yn dda bob tro. Wele, er enghraifft, y postiad yma gan Plaid Wrecsam.
Cyn belled ag y mae De Clwyd yn y cwestiwn mae’n anodd iawn gweld unrhyw arwydd fod yna etholiad ymlaen o du’r pleidiau eraill Ag eithrio’r anerchiadau etholiadol, ac ambell i boster ffenest di-fflach gan y Blaid Lafur mae’r pleidiau eraill yn boenus o dawel. Mae’n ymddangos i mi fod peirianwaith y Llafur ar chwal. Un peth sydd o’u plaid yw fod ganddyn nhw fas data sylweddol yn medru adnabod eu cefnogwyr ac eu bont yn llwyr ddibynol ar dargedu unigolion drwy’r post ac ar y ffon. Dydi hyn ddim yn gynaladwy. Does dim pwysicach na cherdded y stryd a siarad efo pobl. Ryn ni wedi bod yn eithriadol o ffodus o gael tomen o wirfoddolwyr parod i gerdded degau o filltiroedd i ledaenu neges y Blaid. Mae un ohonyn nhw wedi bod yn cario pedomedr sydd yn dangos iddi gerdded rhwng 6 a 12 milltir bob diwrnod yr wythnos diwethaf! Am ymroddiad!
Rwy wedi cael amryw o bobl yn dweud, eto fyth, mai dim ond y Blaid sydd wedi ymweld a nhw. Y gobaith yw sicrhau ein bod ni’n eu gweld nhw eto cyn yr etholiad.
Mae ein harwyddion wedi cael eu gosod a balchder ar hyd a lled gwrychoedd yr etholaeth, gyda llwyth o gefnogwyr newydd yn gofyn am rai, i’r graddau ein bod wedi gorfod archebu yn agos i ddwy-waith yn gymaint a’n harcheb gwreiddiol!
Ond os ca i orffen ar un neges trist, dyma ymateb gan un ddynes ddoe:
Fi: “Ga i ofyn os wnewch chi ystyried pleidleisio dros Blaid Cymru os gwelwch yn dda?”
Hi: “Na wnaf – Llafur ydw i”.
Fi: “Diolch am eich amser”
Hi: “Llafur oedd fy nhad, a Llafur mae fy nheulu wedi pleidleisio erioed.”
Fi: “Dydy hynny ddim yn golygu fod yn rhaid i chi bleidleisio Llafur”
Hi: “Ydy. Dydw i ddim wedi cael problem erioed. Rydw i’n iawn. Llafur fydda i’n pleidleisio. Bydd Llafur yno i fi os fyddai i ish.o”
Fi: “Felly rych chi’n hapus efo safon addysg ein plant?”
Hi: “Dio’n poeni dim arna i, mae mhlant i wedi mynd, a does genna i ddim plant yma”.
Fi: “Beth felly am ddarpariaeth y gwasanaeth iechyd?”
Hi: “Rw i’n reit iach, does dim angen i mi boeni amdanyn nhw”.
Fi: “Ond beth am blant y gymuned yma, a chleifion y gymuned yma?”
Hi: “Beth amdanyn nhw? Yli, cyn belled a mod i’n iawn dwi’n poeni dim am neb arall. Mi fydda i’n fotio Llafur.Bydd Llafur yno i fi, dio rotsh am neb arall, cyn belled a mod i’n iawn!”
A dyna wrth gwrs yw ffrwyth cenhedlaeth o dan Thatcher a Blair – unigolyddiaeth rhemp heb ddim affliw o ots am eu cymdogion na’u chymuned. Os ydy’r blaid sydd mewn grym am wneud yn siwr eu bod hi’n iawn ar drail pob dim arall, yna does yna ddim problem. Trist iawn. Diolch byth mai mond un sydd wedi dweud hynna wrth a i.
Gobeithio cael bod lan ‘na eto cyn bo’ hir – pob lwc!