Mae Ed Milliband yn son o hyd am anghenion ‘Middle Britain’, a’i fod ar grwsad iw hamddiffyn!
Ond pwy yn union yw’r bobl yma?
Diolch i’r Guardian Data Blog ac i Experian, mae’n bosib i ni weld pwy, ac yn bwysicach ym mhle y mae’r bobl yma’n byw:
Fel y gwelwch chi mae’r mwyafrif helaeth yn byw o fewn 100 milltir i Lundain. Mae yna ambell i eithriad, yn eu plith Gogledd Iwerddon. Efallai fod Ed M am dargedu y fan hyn am ei fod yn meddwl ei fod yn dir ffrwythlon iddo – rhaid bod yn bositif wedi’r cyfan!
Dyma’r ardaloedd, mewn coch tywyll gogoneddus, y mae Ed M a’r Blaid Lafur yn anelu i’w amddiffyn. Dyma ardaloedd blaenoriaethau amlwg y Blaid Lafur…ac nid yw Cymru ynddi o gwbl.
Felly pan glywch chi Ed M a’r Blaid Lafur yn hefrio drosodd a thro am amddiffyn ‘Middle Britain’ cofiwch nad yw’n son amdano ni yma yng Nghymru.
Mae’r Blaid Lafur wedi troi eu cefn ar Gymru ers blynyeddoedd. Mae’n bryd fod Cymru yn troi cefn ar y Blaid Lafur.