Hat Tip (fel mae blogwyr yn ddweud!) i Valleys Mam am ein hatgoffa nad yw prynwyr eitemau dridfawr megis antics, iechyd preifat, addysg breifat, hofrenyddion ac yn y blaen yn gorfod talu’r un cyfradd TAW a nwyddau eraill. Gyda TAW yn cynyddu i 20% mae’r gwahaniaeth am fod gymaint a hynny’n fwy amlwg.
Unwaith eto ry’n ni’n gweld y cyfoethog yn cael cadw eu cyfoeth ar draul cyfranu at les cymdeithas, tra fo’r gweddill ohonom ni yn gorfod talu cyfran llawer yn uwch i ad-dalu methianau’r cyfoethog a’u banciau.
Am ba hyd ydyn ni am ganiatau i anghyfiawnderau fel hyn barhau? Mae yna ffordd arall.
—————————
Diweddariad: Mae Plaid Wrecsam wedi ysgrifennu blogiad am hyn yma.