Yr economi a sut mae cael yr economi i weithio i ni ydy’r prif her sy’n wynebu Dwyfor Meirionnydd, a dyma bydd prif ffocws fy ymgyrch ar gyfer yr etholiad ar Fai 6ed.
Pam yr economi? Os ydym ni o ddifri am fynd i’r afael a newid hinsawdd – sef yr her mwyaf sy’n wynebu y gymuned rhyngwladol – neu am sicrhau fod ein diwylliant yn parhau; os am wneud yn siwr fod pobl ifanc yn aros yn ein cymunedau, efo tai fforddiadwy a safon byw da – os am hyn ol a mwy, yna rhaid sicrhau fod gennym yma economi sy’n gweithio o blaid y bobl ac er budd ein cymunedau.
Beth ydyn ni’n feddwl pan ydyn ni’n son am yr economi? Beth ydy’r economi a pha ran mae o’n chwarae yn ein bywydau?
Er mwyn ateb hyn a chael sgwrs eang ar yr economi a gobeithio ysbrydoli rhai, dw’i wedi dechrau ar gyfres o bodlediadau i drafod yr economi.
Yma, yn y bennod cyntaf rwy’n cael sgwrs ddifyr iawn efo’r economegydd Dr Ed Jones, i drafod beth ydym ni’n ei olygu wrth ein bod yn son am yr economi.
Gobeithio y gwnewch chi fwynhau y gyfres.