Mae lot o drafod wedi bod dros yr wythnosau diwethaf am yr etholiad arweinyddol ym Mhlaid Cymru.
Mae gan y Blaid dri ymgeisydd abl iawn, ac fel aelod a Chynghorydd Sir dros Blaid Cymru byddwn yn hapus iawn i gydweithio gyda’r tri unigolyn.
Ond mae’r etholiad yn fwy nag etholiad i ddewis person — mae’n gyfle i drafod syniadau, polisïau a chyfeiriad y Blaid.
#FakeNews
Rhywbeth sydd wedi dod yn ffenomenon yn ddiweddar ydy beth mae Donald Trump yn ei alw’n Fake News.
Dydy o ddim yn ffenomenon newydd — rhaid ond edrych ar bapur newydd y Daily Mail dros y degawdau i weld beth yw newyddion ffug, ac mae propaganda, ‘spin’, a gwahanol dechnegau i fanipiwleiddio’r drefn wleidyddol trwy’r cyfryngau torfol yn mynd yn ôl sawl canrif. Edrychwch ar yr Ymerodraeth Rufeinig a sut mae’r syniad o Pax Romana yn parhau hyd heddiw — ddwy fil o flynyddoedd yn ddiweddarach! Mae’n eithaf sicr nad oedd pobl Asturias yn gweld cleddyf Rhufain yn arbennig o heddychlon!
Mae canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd yn enghraifft o sut mae posib gwyrdroi canlyniad etholiadol gyda ‘fake news’ a phropaganda crai ond effeithiol.
Wrth feddwl am hyn, mae’n bwysig nad ydym ni yn y Blaid yn disgyn i’r un fagl, gan gael ein dylanwadu gan anwireddau.
Methiant Glweidyddol
Un naratif sydd wedi cael ei wthio ers misoedd bellach — yn wir ers ymhell cyn i unrhyw un o’r ymgeisyddion roi eu henwau ymlaen ar gyfer yr arweinyddiaeth — yw’r naratif o fethiant gwleidyddol.
Mae hon wedi bod yn naratif sydd wedi fy mhoeni ers i mi ddod ar ei thraws gyntaf, oherwydd tra’n ymgais i niweidio’r arweinydd presennol, y gwir ydy ei fod yn gwneud llawer mwy o niwed i’r Blaid yn ehangach. Mae hefyd yn feirniadaeth o nifer fawr ohonom aelodau cyffredin sydd wedi bod yn cerdded y strydoedd ac yn cnocio’r drysau dros y blynyddoedd.
Mae hefyd yn dangos ein gwendid ni fel pobl. Rydym fel dynoliaeth am ryw reswm bob amser yn trio canfod bwch dihangol; rhoi’r bai ar rywun yn y gobaith fod hynny am wella pethau, heb yn gyntaf edrych ar y problemau sylfaenol ac, weithiau, edrych yn y drych.
Ond mae’r naratif yma o fethiant etholiadol yn un ffals, a rhaid i ni ei ddiystyru. Nid sylw ar unrhyw un o’r ymgeisyddion arweinyddol yw hyn, ond ymdrech i gywiro’r camargraff.
Mae yna sawl ffon fesur etholiadol — Cynulliad, San Steffan, Cynghorau ac eraill.
Ac ar bob un o’r rhain mae’r cyhuddiad o fethiant etholiadol yn anghywir.
Etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol
Yn etholiad 2011 cafodd y Blaid 182,907 o bleidleisiau, a 169,799 o bleidleisiau rhestr.
Yn 2016 cafodd y Blaid 209,376 pleidlais a 211,548 pleidlais rhestr. Mae’r cynnydd yn y rhestr yn fwy nodedig, oherwydd ei fod yn dangos fod yna ddealltwriaeth o’r drefn wleidyddol ar waith. Wrth gwrs mae’n bwysig gweld cynnydd yn y nifer o bleidleisiau etholaethol, ond gellir gweld cynnydd anferthol yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr a Dwyfor Meirionnydd, er enghraifft, fyddai’n gwneud dim gwahaniaeth i’r nifer o ACau, ond mae cynyddu’r nifer o bleidleisiau ar y rhestr yn gamp sylweddol.
Ar ben hyn bydd disgyblion hanes yr SNP yn gwybod mai trwy gynyddu’r bleidlais rhestr yn sylweddol yn 2007 y llwyddodd yr SNP i gipio grym yn yr Alban. Rhaid ennill mwy o ACau ‘FPTP’ wrth reswm, ond mae’n anos cipio grym drwy ganolbwyntio ar FPTP. Mae angen cynllun sydd am sicrhau twf sylweddol yn yr ail bleidlais yn ogystal ag edrych i ennill etholaethau. Dyna beth wnaeth y Blaid yn 2016.
Yn ogystal â hyn mae’r beirniaid yn hapus i bwyntio allan pa mor agos oedd y Blaid i golli ambell i sedd mewn gwahanol etholiadau, gan ddefnyddio hyn fel ‘prawf’ o fethiant. Ond dydyn nhw byth yn pwyntio allan pa mor agos oedd y Blaid i ennill. Roedd y Blaid o fewn trwch blewyn i ennill pedair sedd ychwanegol yn etholiadau 2016. Byddai 2,500 o bleidleisiau wedi dod a phedair etholaeth arall i gorlan y Blaid.
Ac eithrio UKIP (amgylchiadau cwbl unigryw refferendwm Brexit) dim ond Plaid Cymru llwyddodd i gynyddu eu pleidlais yn yr etholaethau ar draws Cymru — cynnydd o 1.3% tra bod pob plaid arall wedi gweld canran eu pleidlais yn disgyn. Roedd yr un peth yn wir gyda’r bleidlais ranbarthol (+3%).
O ganlyniad cynyddodd nifer ACau Plaid Cymru.


Mae’n werth edrych ar hanes etholiadau San Steffan a’r Blaid yng Nghymru.
Yn 1970 roedd gan y Blaid ymgeisyddion ym mhob un o etholaethau Cymru am y tro cyntaf erioed.
Ers hynny mae hanes yn dangos fod pleidlais y Blaid yn disgyn bob tro mae’r Ceidwadwyr mewn grym. Mae hyn yn dweud nifer o bethau i ni.
- Yn gyntaf fod ein pleidlais ni’n feddal iawn i Lafur ac vice-versa.
- Yn ail mai Llafur yw’r ffynhonnell fwyaf tebygol o bleidleisiau i ni o bell ffordd.
- Yn drydydd, mai celwydd pur yw honiad Llafur fod pleidlais i’r Blaid yn gyfystyr a phleidlais i’r Torïaid.
Ta waeth am hynny.
Y ffaith yw bod y Blaid yn colli pleidleisiau i Lafur pan fo’r Ceidwadwyr mewn grym, a bod y Blaid yn perfformio’n well pan fo Llafur mewn grym.
Cafodd Plaid Cymru ei nifer fwyaf o bleidleisiau yn etholiadau San Steffan yn 2001 (195,000), tra boLlafur mewn grym. Pryd hynny hefyd roedd Cymru’n dal i fwynhau oes Cŵl Cymru a’r syniad o ddatganoli a’r tŵf o Gymreictod a ddaeth yn sgil hynny.
Yn 1970, gyda Llafur unwaith eto mewn grym, fe gafodd y Blaid 175,000 o bleidleisiau. Ac yn 2005 (Llafur mewn grym eto) fe gawsom ni 174,000 o bleidleisiau.
Ond yn 2015, fe gafodd y Blaid 181,000 o bleidleisiau. Yr ail fwyaf o bleidleisiau i Blaid Cymru erioed mewn etholiad San Steffan, a hynny gyda’r Ceidwadwyr mewn grym.
Roedd 2017 yn flwyddyn anos, a hynny oherwydd Brexit a natur unigryw’r etholiad. Ond er hynny, cafodd y Blaid fwy o bleidleisiau yn 2017 nag a chafodd yn etholiadau 1979, 1983, 1987, 1992 ac 1997. A chwta mil yn llai nag a chafodd yn 2010, yn ystod dyddiau du Gordon Brown! Yn wir y nifer lleiaf o bleidleisiau erioed oedd o dan arweinyddiaeth Dafydd Elis-Thomas yn 1987, pan gafodd y Blaid 123k o bleidleisiau.
Cynghorau Sir
Mae gan y Blaid heddiw fwy o Gynghorwyr Sir nag erioed o’r blaen. Ar ben hyn mae’n rheoli neu yn arwain y nifer fwyaf o gynghorau erioed — pedair i gyd.
Mae Cyngor Caerfyrddin yn ddarlun gwych o dŵf diweddar y Blaid. Yn 2008 enillodd y Blaid 17 sedd ar Gyngor Sir Caerfyrddin. Erbyn 2012 cynyddodd hynny i27, ac erbyn heddiw mae’n 37.
Ar ben hyn oll llwyddodd Plaid Cymru i ennill dau o’r pedwar etholiad am Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd.
Ceffyl blaen
Ai record o fethiant yw’r uchod? Ydy’r Blaid yn aros yn llonydd?
Ddim o gwbl, ac mae’r holl dystiolaeth yn profi i’r gwrthwyneb.
Mae dweud fod y Blaid wedi methu’n etholiadol yn y cyfnod diweddar yma felly yn anghywir, ond yn bwysicach fyth mae’n niweidiol.
Mae pob astudiaeth i mewn i seicoleg pleidleiswyr yn dangos fod pobl yn hoffi cefnogi ‘ceffyl sy’n ennill’ (o ddefnyddio idiom Saesneg). Dyna pam fod y Rhyddfrydwyr yn llythrennol ddefnyddio’r darlun yma ar eu taflenni, ac yn defnyddio ‘bar chart’ yn eich hysbysu fod un o’r prif bleidiau yn ‘methu ag ennill yma’.

Mae etholwyr yn gyndyn o rannu eu pleidlais gyda rhywun sy’n debygol o golli, oherwydd eu pont yn teimlo y byddant yn gwastraffu eu pleidlais. Mae hyn yn berffaith ddealladwy, yn enwedig mewn trefn FPTP (First Past The Post). Ychydig iawn o bobl sydd bellach yn driw i blaid wleidyddol, ac mae’r rhelyw yn barod i newid eu pleidlais yn dibynnu ar yr amgylchiadau.
Pam felly gwthio naratif ffals fod y Blaid yn methu yn etholiadol gan niweidio unrhyw obaith o gynyddu pleidleisiau yn y dyfodol?
Nid dweud hyn fel cefnogwr i Leanne ydw i. Mae hyn am niweidio gobeithion pwy bynnag fydd yn arwain o fis Medi ymlaen, boed yn Leanne, Rhun neu Adam.
Mae hefyd yn torri calonnau ymgyrchwyr llawr gwlad sydd yn gwneud eu gorau glan i hyrwyddo achos y Blaid.
Gadewch i ni drafod polisïau a chyfeiriad ar bob cyfri. Ond rhaid i ni ddiystyru’r naratif ffals yma fod y Blaid wedi methu’n etholiadol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Dydy hi ddim wedi methu. Os rhywbeth mae mewn sefyllfa gwell heddiw nag y mae hi wedi bod ers degawd neu fwy.
Gwaith adeiladau ar seiliau cadarn sydd o’n blaenau, nid palu’r seiliau allan a dechrau o’r newydd.