Creisis datganoli

Mae yna lawer iawn o bethau yn digwydd yng ngwleidyddiaeth Cymru’r dyddiau yma, pethau sy’n ein gosod arwahan i wleidyddiaeth Brydeinig/Lloegr.

  • Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu problemau mawr yn sgil achos hunanladdiad y diweddar Carl Sargeant, gyda Carwyn Jones o dan bwysau difrifol.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhai penderfyniadau hynod amhoblogaidd, megis cwtogi grant Dillad Ysgol i deuluoedd tlotaf Cymru, heb son am y problemau sy’n parhau yn y gwasanaeth iechyd (meddyliwch Tawelfan a mesurau arbennig Bwrdd Iechyd y gogledd, neu ganoli gwasanaethau yn y de orllewin). Mae tlodi ar gynnydd aruthrol yma.
  • Mae gwleidyddion Llafur Cymru yn gwneud ac yn dweud pethau sydd yn mynd yn gwbl groes i arweinyddiaeth Llafur Lloegr/Prydain – edrychwch ar Syria neu Brexit er enghraifft.

Hynny yw, ar yr un llaw mae’n dangos fod gwleidyddiaeth Cymru yn aeddfedu ac yn dechrau datblygu ar hyd trywydd gwahanol iawn i’r un Prydeinig – mae yna wleidyddiaeth Gymreig go iawn yn blaguro yma.

Mae hyn yn beth da.

Ond y pryder yw ei fod wedi ei gyfyngu i’r bybl gwleidyddol yn unig ac nad yw’n treiddio i’r cyhoedd.

Wn i ddim sawl gwaith yn ystod y bythefnos diwethaf rwy wedi gorfod esbonio i bobl ar Wefannau Cymdeithasol nad oes yna etholiadau lleol yng Nghymru ym mis Mai. Mae’r bobl yma’n rhai sydd yn ymddiddori yng ngwleidyddiaeth!

Pe bai hyn yn digwydd mewn gwladwriaeth ddemocrataidd iach buasai polau piniwn yn dangos symudiadau yn erbyn y llywodraeth ac o blaid y gwrthbleidiau.

Hyd yma dydy hyn ddim wedi digwydd yma.

Nawr gellir dadlau mai’r gwrthbleidiau sydd yn aneffeithiol yw’r broblem yma. Efallai’n wir. Ond rwy’n gwrthod y ddadl yma.

Mae nifer o bolau piniwn yng Nghymru wedi cynnwys y cwestiwn “Beth yw eich barn chi am yr arweinydd gwleidyddol yma” a gofyn i bobl nodi gwerth o 0-10, neu ‘ddim yn gwybod’.

I mi mae’r cwestiwn yma yn ffon fesur hynod bwysig i weld faint o ddealltwriaeth sydd yna o wleidyddiaeth yng Nghymru.

Rwy wedi edrych trwy’r polau piniwn diweddar sy’n cynnwys y cwestiwn yma (diolch i Roger Scully).

Yr arweinwyr gwleidyddol mwyaf adnabyddus o bell ffordd yw Carwyn Jones a Leanne Wood. Ond er gwaethaf hyn mae dal i fod yn agos i chwarter o boblogaeth Cymru yn methu mynegi barn amdanyn nhw. Mae Carwyn Jones wedi bod yn wladweinydd ers bron i ddeng mlynedd; yn weinidog yn Llywodraeth Cymru ers deunaw mlynedd, ac yn aelod etholedig ers 1999, ond eto nid yw chwarter poblogaeth Cymru yn teimlo fod ganddyn nhw ddigon o wybodaeth neu ddealltwriaeth i fynegi barn.

Mae Andrew RT Davies wedi bod yn arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru ers 7 mlynedd, ac yn aelod etholedig ers deuddeng mlynedd, ond eto mae 44% , bron i hanner hanner poblogaeth Cymru, yn dweud nad ydyn nhw’n gwybod digon amdano i fynegi barn!

Noder hefyd fod yr adnabyddiaeth o Leanne Wood wedi cynyddu’n sylweddol ar ôl ei hymddangosiadau teledu adeg etholiadau San Steffan 2015. Cyn hyn roedd 40% o boblogaeth Cymru yn dweud nad oedd ganddyn nhw ddigon o wybodaeth i fynegi barn, ond erbyn Ebrill 2015 disgynnodd y ffigwr hwnnw i 22%. Mae’r adnabyddiaeth wedi dod yn sgil ymddangosiadau a sylw ar y cyfryngau ac yn y wasg Lundeinig.

Mae’r adnabyddiaeth o Nigel Farage yn llawer, llawer iawn gwell yng Nghymru – fel y mae’r graff uchod yn ei brofi – na’r un o arweinwyr pleidiau gwleidyddol Cymru, er gwaethaf y ffaith mai Aelod Seneddol Ewropeaidd dros ranbarth yn ne ddwyrain Lloegr ydyw!

Yr hyn sy’n amlwg yw nad oes gan ganran sylweddol o bobl Cymru ddealltwriaeth o wleidyddiaeth Cymru.

Mae hyn yn sefyllfa beryglus. Tra bod gwleidyddiaeth Cymru yn dechrau mynd ar hyd un llwybr mae pobl Cymru yn dilyn llwybr wleidyddol cwbl wahanol, ac yn cael eu gadael ar ôl. Os ydy pethau am barhau ar hyd y trywydd yma yna mae yna beryg y cawn ni greisis go iawn yng Nghymru. Gall Llywodraeth fynd ati a gweithredu fel y mynnant, gan wybod fod canran fawr o’r bobl yn anwybodus.

Gellir gweld hyn i raddau yn barod trwy weithgareddau’r Blaid Lafur. Sylwch y ffordd y mae’r Blaid Lafur yng Nghymru yn dweud ac yn gwneud yn gwbl i’r gwrthwyneb i Blaid Lafur Corbyn, ond eto mae cefnogwyr Corbyn a Llafur yng Nghymru ar y cyfan yn gwbl ddall i hyn.

Byddai sinig yn dweud fod sefyllfa o’r fath yn siwtio plaid mewn Llywodraeth yn iawn, ac y byddai yn eu diddordeb i’w gynnal.

Dyma ble mae rôl y wasg mor ofnadwy o bwysig, er mwyn rhannu gwybodaeth ac addysgu pobl.

Fel y nodais uchod, petai’r sefyllfa yma’n bodoli mewn unrhyw ddemocratiaeth arall yna byddai rhywun yn disgwyl gweld y polau piniwn yn newid yn sylweddol. Hyd yma does dim newid wedi bod. Bydd yn ddiddorol gweld y polau nesaf pan fyddan nhw’n cael eu rhyddhau. Yn anffodus rwy’n rhagweld mae newid bach iawn fydd yno – canran neu ddwy yma ac acw.

Os ydy hyn yn wir yna bydd yn rhaid i reolwyr cyfryngau Cymru feddwl yn ddwys am eu methiannau a beth yw eu rôl nhw mewn gwirionedd.

Dyna pam fod yn rhaid i ni ddatganoli darlledu.

Wrth gwrs byddech yn disgwyl i fi fel Pleidiwr i ddweud pethau fel hyn – ond mae hyn yn mynd ymhell y tu hwnt i wleidyddiaeth bleidiol. Mae’n mynd i galon datganoli a’n democratiaeth ni.

Mae’r sefyllfa bresennol yn gwbl afiach ac yn gwneud drwg i wleidyddiaeth Cymru ond yn bwysicach fyth yn niweidio llywodraethiant.

Ddoe fe ddywedodd y cyfrif Trydar Desolation Radio

Mae peth gwir yn perthyn i’r gred yma, a hynny oherwydd methiannau’r Llywodraeth.

Ond gellir mynd i’r afael a’r broblem pe bai ganddom ni wasg a chyfryngau cenedlaethol go iawn.

Gwendid go iawn datganoli  – a’r hyn sydd wedi arwain at y drefn lwgr bresennol – yw gwendid gwasg a chyfryngau Cymreig, a’r diffyg sgriwtini cyhoeddus o ganlyniad i hyn.

Does dim iws achwyn nad yw’r gwrthbleidiau’n sgriwtineiddio’n ddigon effeithiol – maen nhw yn. Ond beth yw’r pwynt os nad oes yna fforwm ar gael i ddwyn y gwaith yma i sylw cyhoeddus a dwyn pwysau poblogaidd? Mae unrhyw sgriwtini wleidyddol yn absenoldeb y wasg yn ddibwynt.

Diolch byth am Nation.Cymru a gwaith Ifan yn hyn o beth. Ond mae angen cefnogaeth arno.

Sut mae mynd i’r afael a hyn wn i ddim, ond mae’n berffaith amlwg fod yna broblem sylweddol ganom ni, ac os nad ydym ni’n mynd i’r afael a’r broblem yn fuan yna fe fyddwn yn talu pris trwm iawn. Mae digwyddiadau’r wythnos yma yn dangos ein bod eisoes yn mynd i dir peryglus iawn.

Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s