Rwy wedi ysgrifennu ambell i waith erbyn hyn am y diffyg cyfryngau Cymreig a’r effaith y mae hyn yn ei gael ar wleidyddiaeth yng Nghymru.
Sefydlwyd ymgyrch Newsnight Cymru i drio mynd i’r afael a rhan o’r broblem yma, oleuaf.
Mae’r mater wedi cael sylw dipyn o weithiau erbyn hyn.
Diwedd y flwyddyn ddiwethaf cyhoeddwyd traethawd gwych gan Dr Dan Evans yn trafod y mater ar wefan open democracy, a gafodd ei bigo i fyny gan yr IWA ac yna newyddion y BBC yr wythnos hon.
Yna ddoe cyhoeddodd Ifan Morgan Jones ei fwriad clodwiw I geisio sefydlu rhywfath o blatfform newyddion cyfrwng Saesneg ar gyfer Cymru, Nation.Cymru. Pob lwc iddo (gallwch gefnogi ei brosiect yma).
Ond rwy am gymryd un cam bach yn ôl o hyn, er mwyn rhoi cyd-destun pellach i’r diffygion a’r ‘information deficit’ fel y mae Dan Evans wedi ei alw.
Yn dilyn y bleidlais Brexit mae perthynas y Deyrnas Gyfunol a’r Undeb Ewropeaidd wedi bod ar frig yr agenda newyddion bron yn ddyddiol. I’r rhai hynny ohonoch sy’n gwylio Question Time ar BBC 1 byddwch wedi sylwi mai Brexit yw’r prif destun trafod wedi bod ers blwyddyn a rhagor.
Bob tro mae’r mater yn codi ei phen mae pobl o’r ddwy ochr yn dweud fod yn rhaid I ni barchu ewyllys y bobl.
Yn y trafodaethau lu sydd wedi bod am Brexit ac yn wir etholiad Trump yn yr UDA, mae sylwebyddion, academyddion, newyddiadurwyr ac eraill wedi nodi (fel yr wyf innau wedi nodi ar y wefan hon) fod yna ymdeimlad cyffredinol nad yw’r gwleidyddion yn gwrando ar y cyhoedd. Mae’r ymdeimlad yma yn ei dro wedi bragu atgasedd at y sefydliad gwleidyddol. Roedd y bleidlais Brexit a phleidlais Trump yn rhannol (rhannol, nodwch) yn adwaith i hyn – yn gic i sefydliad oedd yn gwrthod gwrando ar eu barn a phryderon. Mae’n sylw sydd wedi cael ei ddweud droeon gan bobl o bob cefndir
Ar Bloomeberg, er engrhaifft, pan ofynwyd y cwestiwn “What was Brexit about?” dyma ddywedodd Gina Miller,
“…it was a cry from people who were saying, ‘I’m feeling neglected, I’m feeling worried, I’m feeling concerned, and the politicians aren’t listening to me.” https://www.bloomberg.com/news/videos/2016-11-18/miller-brexit-was-a-cry-to-politicians-not-listening
Yn yr erthygl “Brexit happened because politicians were not listening” a gyhoeddwyd yn y Kennedy School Review, meddai Patrick White,
“Voters need to see politicians respond to their concerns.”
Neu hyd yn oed bapur newydd myfyrwyr Prifysgol Lincoln,
Brexit and Trump are the result of not listening and not learning
O ganlyniad mae gwleidyddion o bob lliw wedi neidio ar hyn, gan ei ail adrodd fel pe bai’n rheol wleidyddol newydd. Dyma David Davies, AS:
The people want Brexit and elitist politicians need to start listening to them
neu Ed Miliband,
Ed Miliband: Labour needs to listen to Brexit voters
Y wers (yn ôl rhai) neu yn sicr un o’r gwersi yw y dylid gwrando ar bryderon yr etholwyr.
Fel rheol gyffredinol rwy’n cytuno gyda hyn.
Ond mae’r rheswm sy’n cael ei ddyfynnu i gyfiawnhau’r mantra wleidyddol newydd yma yn peri pryder i mi.
Sylwch ar fanylion sylwadau David Davies uchod,
“They had better listen to people like father-of-three Harry Boparai who told the Prime Minister during the EU referendum TV debates that uncontrolled immigration had caused his family’s quality of life to plummet.” David Davies
Drosodd a thro mae’r gwahanol gyfryngau a sylwebwyr yn dweud wrthym mai Mewnfudo oedd un o’r prif resymau paham y pleidleisiodd pobl o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Rhaid i wleidyddion wrando ar etholwyr ynghylch eu pryderon am fewnfudo.
Mae gwleidyddion yn methu gwrando ac allan o gyswllt. Rhaid I chi wrando. Rhaid rheoli mewnfudo.
Gwrandewch. Rydym ni’n poeni am fewnfudo.
Dyma sy’n cael ei ddweud.
Ond…
Ond.
Roedd y bleidlais fwyaf dros adael yn yr ardaloedd gyda’r nifer lleiaf o fewnfudwyr o’r tu hwnt i wledydd Prydain. Dyma’r un ardaloedd sy’n pryderi fwyaf am fewnfudo tramor.
Felly’r ardaloedd sydd a’r lleiaf o brofiad o fewnfudo sy’n poeni fwyaf amdano, ac y nhw yn eu tro y mae’n rhaid i wleidyddion wrando arnynt.
Ydy hyn yn glir?
Beth sydd a wnelo hyn a’r brawddegau agoriadol am y cyfryngau?
Wel, yn hytrach nag ein bod ni’n cymryd y mantra o ‘rhaid gwrando’ yn ddi-her, gadewch i ni ofyn pam fod y bobl yn dweud yr hyn y maen nhw’n ddweud; ydy’r hyn y maen nhw’n ei ddweud yn gywir; os nad ydyw paham; a beth ellir ei wneud i wella hyn?
Yn gyntaf rwy’n derbyn fod pobl yn poeni am fewnfudo, beth bynnag eu profiad a’r dystiolaeth.
Ond pan eu bod nhw’n cael eu boddi gan dudalennau blaen fel hyn drosodd a throsodd, yna pa syndod eu bod nhw’n poeni am fewnfudo!
Mae tystiolaeth a ffeithiau yn dra gwahanol i sgrechiadau aflafar papurau fel y Daily Mail a’r Sun (y ddau bapur mwyaf poblogaidd ym Mhrydain a Chymru).
Felly ai mewnfudo yw’r broblem yntau ai’r newyddion sy’n cael ei fwydo i’r etholwyr?
Gwrando, ie – ond gwrando ar bwy, yn union? Pryderon pwy ydy’r rhain mewn gwirionedd?
O adnabod y broblem go iawn mae’n haws ceisio darganfod meddyginiaeth i’r afiechyd.
Un cam yn sicr ydy’r hyn mae Ifan Morgan Jones yn ceisio ei gyflawni.
Yr ail ydy i geisio darganfod ffordd i atal y celwyddau.
Mae hyn yn anos, ond adnabod yr afiechyd yw’r cam cyntaf 🙂
DIWEDDARIAD – 09-01-2017
Mae hwn, gafodd ei gyhoeddi yn yr Independent ddoe, yn dweud rhywbeth tebyg (ond yn well – ac yn Saesneg):
The argument that politicians have no choice but to submit to vague notions of public opinion ignores one crucial fact. Public opinion isn’t formed independently, but driven by narratives from the political class and the media