Dyfodol Cymru?

bedd-cymru(Roeddwn i wedi bwriadu postio hwn dros yr haf – gwell hwyr na hwyrach sbo!)

‘When Was Wales?’ Campwaith yr hanesydd Gwyn Alff Williams, a gyhoeddwyd yn 1979.

Cyn ateb y cwestiwn hwn, mae’n werth gofyn ‘beth yw Cymru?’ yn gyntaf.

O ateb y cwestiwn hwnnw, efallai y byddwn yn agosach at gael ateb i gwestiwn Gwyn Alff.

Os ydym yn derbyn mai’r ateb i Beth yw Cymru ydy ‘cenedl’, yna mae lle i gredu/ofni mai’r ateb i gwestiwn rhethregol Gwyn Alff yw 383 – 2020.

Oherwydd yn dilyn canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd nol ym mis Mehefin mae Cymru yn wynebu bygythiad go iawn i’w bodolaeth (existential threat).

Un o nifer o nodweddion hyll y natur ddynol yw’r angen i feio rhywun arall drwy’r amser am ein methiannau. Mae’r byd gwleidyddol wedi datblygu i fod yn hynod fedrus ar fanteisio ar y gwendid yma, yn ogystal â’i feithrin.

Rheol 8 yn llyfryn hunan-ddysg y gwleidydd yw: Beth bynnag y camwedd rhywun arall sydd ar fai.

Beth bynnag yw gwendidau neu rinweddau bod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, tra fo’r Deyrnas Gyfunol yn rhan ohoni roedd ganddi gorff allanol hawdd i’w beio am ei methiannau.

Drwy gydol fy mywyd prin ydy’r penawdau da yr ydwyf wedi eu darllen ynghylch yr Undeb Ewropeaidd. O ddarllen y newyddion yn unig mai’r Undeb Ewropeaidd yn gyfystyr a gorfodi rheolau dwl ac yn groes i bob synnwyr cyffredin. O orfodi bananas i fod yn syth; gorfodi’r system fetrig; cael gwared ar y Nadolig; banio corgwn; banio lluniau o adeiladau cyhoeddus; a llwyth o honiadau di-sail eraill, roedd hi’n hawdd iawn i Lywodraeth y DG ac unrhyw gorff arall o ran hynny i osod y bai am unrhyw beth wrth draed yr UE, yn enwedig gyda gwasg a chyfryngau oedd mor barod i gydymffurfio.

Does yna ddim syndod i bobl benderfynu nad oedden nhw am fod yn rhan o’r UE ar ôl dros ddeng-mlynedd ar hugain o fwydo’r gwenwyn yma’n gyson.

Ond rŵan rydym ni allan (wel, ddim cweit – ac efallai na fyddwn ni allan o gwbl, pwy a ŵyr – ond mater arall yw hynny i’r hyn yr ydw i am ei godi yma).

Pwy felly fydd y ‘buffer’ rhwng Llywodraeth San Steffan a hawlio’r bai o hyn ymlaen? Pwy fydd y sefydliad yn pwyntio’r bys ato nawr nad ydy’r UE yno?

Rydym ni wedi cael rhagflas dros yr haf eisoes.

Mae yna gwestiynau wedi dechrau codi ynghylch dilysrwydd ein sefydliad democrataidd cenedlaethol eisoes.

screenshot_20160921-165221screenshot_20160921-165315Cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn does yna ddim amheuaeth mai San Steffan yw’r drwg yn y caws am ein gwendid cenedlaethol; am wendid ein heconomi; am y ffaith fod cyflogau mor isel, fod cyflwr iechyd mor wael, ac yn y blaen. Does a wnelo’r Undeb Ewropeaidd nac ychwaith ein Cynulliad Cenedlaethol (na’u Llywodraeth, er tegwch) ddim byd a’r methiannau yma sydd a’u gwreiddiau yn mynd yn ôl degawdau lawer. San Steffan a neb arall sydd yn gyfrifol am y methiannau yma sy’n fethiannau a gwendidau hanesyddol.

Ond eto eisioes rydym yn gweld y bys yn dechrau cael ei bwyntio at ein Cynulliad Cenedlaethol.

Mae hyn yn rhoi pobl fel fi mewn sefyllfa cas iawn.

Mae gennym wendidau amlwg a sylfaenol, er enghraifft, yn ein gwasanaeth iechyd, ac rydw i wedi gwneud pwynt o bwyntio hynny allan dros y blynyddoedd diwethaf. Yn yr achos yma llywodraeth Cymru sydd ar fai. Ond gwyddom nad yw etholwyr Cymru yn gwahaniaethu rhwng Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cymru, ac o ganlyniad mae rhai lleisiau yn cwyno mai’r Cynulliad a datganoli sydd ar fai gyda rhai hyd yn oed yn dweud y byddai pethau’n well pe bawn yn mynd yn ôl i’r hen drefn o gael ein rheoli gan San Steffan. Nifer bychan (a’r criw disgwyliedig) ond a ydy beirniadaethau cyson yn bwydo i mewn i’r naratif yma?

Rhaid yw beirniadu methiannau ein Llywodraeth ym Mae Caerdydd. Rhaid gwella ein gwasanaethau, ac mae hefyd yn arwydd o ddemocratiaeth aeddfed, ond ar y llaw arall gallai fod yn niweidiol i’r prosiect cenedlaethol.

Mae’n gwestiwn felly o pwy sy’n medru beio pwy am beth yn fwyaf llwyddiannus.

Yn absenoldeb yr Undeb Ewropeaidd gallwch fod yn sicr y bydd Ceidwadwyr gwrth-ddatganoli (oes yna fath arall o Geidwadwr?), Ukip a’u tebyg yn beio’r ‘Cynulliad’ am bob dim. Gallwch chi weld y bws yn teithio o amgylch Cymru yn dweud y gellir rhoi £15bn ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd bob blwyddyn trwy gael gwared ar y Cynulliad!

flag_of_england_and_wales_by_hosmich-d80grjoYr her i ni felly yw sicrhau mai San Steffan sy’n cael eu beirniadu a’u beio am ein gwendidau.

Os nad ydym yn llwyddo i wneud hynny yna yn ddi-os caiff Cymru e hamsugno fwyfwy i mewn i’r uned newydd honno Englandandwales, ac ymhen hir a hwyr fydd yna ddim ‘andwales’ chwaith.

Y gwendid ydy, yn absenoldeb unrhyw gyfryngau Cymreig go iawn mae’n anodd gweld sut fedrith y ras i bwyntio bys bai gael ei hennill gan y criw sy’n beirniadu San Steffan.

Mae Cymru yn wynebu her go iawn am ei bodolaeth

 

1 Comment

Comments are closed.