Gwlad fach iselgeisiol

cs3012_d3_gcwg_weightlifting-571f70ec01866Dydw i erioed wedi bod yn ffan o’r Gymanwlad.

Byddai’n well gen i fod fel Gweriniaith yr Iwerddon yn fedru gwrthod cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd sy’n perthyn i rwysg ymerodraethol.

Ond wedyn, nid Iwerddon mo Cymru. Mae athletwyr Gweriniaith yr Iwerddon yn medru gwisgo crys eu gwlad gyda balchder yn y Gemau Olympaidd. Dim ond yng Ngemau’r Gymanwlad y gall athletwyr Cymru gynrychioli eu gwlad.

Yr wythnos hon cawsom arddeall na fydd Cymru yn gwneud cais i groesawi gemau’r Gymanwlad yn 2026. Mae amseri’r cyhoeddiad yn rhyfedd. Gwnaed y cyhoeddiad gan y Llywodraeth ar ol i’r Cynulliad dorri i fyny am yr haf heb gyfle i’r Cynulliad gwestiynnu’r penderfyniad. Hefyd gwnaed y penderfyniad tua 18 mis cyn i unrhyw gais orfod cael ei gyflwyno. Pam gwneud y penderfyniad nawr felly?

Rhai wythnosau yn ol fe gyhoeddodd y gweinidog dros yr economi, Ken Skates, fod Cymru ar agor i fusnes er gwaethaf canlyniad y refferendwm Ewropeaidd – neges o hyder yn gofyn ar i fusnesau preifat barhau i fuddsoddi yng Nghymru.

Ond eto yr wythnos yma mae’r un Gweinidog wedi datgan na all Cymru wneud cais am y gemau Olympaidd oherwydd canlyniad y Refferendwm Ewropeaidd. Felly tra ei fod ef a Llafur yn gofyn ar i fusnesau preifat fuddsoddi yng Nghymru, mae o a’i blaid yn gwrthod gwneud hynny eu hun.

Pam mod i’n son am fuddsoddi?

Cynhaliwyd y gemau diwethaf yng Nglasgow yn 2014. O ddarllen adroddiad Llywodraeth yr Alban yn dilyn y gemau hynny mae’n amlwg iddyn nhw fod yn hynod lwyddiannus. Fe gostiodd Gemau Glasgow £543m. Amcangyfrifir i’r gemau gyfrannu £740m i GVA yr Alban, ac mae arian yn parhau i ddod i fewn (e.e. isadeiledd y gemau yn cynhyrchu dros £18m yn y flwyddyn gyntaf yn dilyn y gemau). Ond oddi fewn i’r gost o £543m gwariwyd 76% ohono yn yr Alban ei hun, ac amcangyfrifwyd i’r gemau greu, ar gyfartaledd, 2,100 o swyddi bob blwyddyn rhwng 2007 a 2014.

Dyma fuddsoddiad uniongyrchol yn yr Alban.

Amcangyfrifir y byddai gemau Cymru yn costio hyd at £1.5bn. Ffugwr sylweddol, bron i dair gwaith yn fwy na gemau yr Alban. Bydd rhai yn dadlau fod chwyddiant yn golygu fod y gemau yn naturiol am fod yn fwy drud. Eraill yn honni nad oes gan Gymru yr isadeiledd angenrheidiol i gynnal y gemau fel ag y mae hi, ac felly ei fod am fod yn ddrytach i’w cynnal gan fod angen adeiladu’r holl isadeiledd.

Oll yn ddadleuon teg a chryf, ond yn anghywir.

Yn gyntaf hyd yn oed o ystyried chwyddiant o 3% bob blwyddyn ‘accumulatively’, byddai hynny’n rhoi cost o £775m. Rydym ni’n byw mewn oes o ddim chwyddiant (ac yn wir, peryg go iawn o weld chwyddiant negyddol).

Yn ail, yn ol rhagamcanion costau cynnal y gemau, byddai £154m wedi cael ei wario ar isadeiledd yn ymwneud a gwaddol y gemau, a tua £200m ar adeiladu neu wella canolfannau (stadia ayb). £235m oedd cost datblygu stadia a gwasanaethau i gemau Glasgow (Audit Scotland).

Ond y cwestiwn pellach, yw faint o’r arian yma fyddai’n cael ei wario beth bynnag? Oherwydd roedd y £154m a neulltiwyd ar gyfer isadeiledd cyffredin i gael ei wario ar orsafoedd tren a bysiau newydd, parcio a theithio a phethau cyffelyb.

Ond hyd yn oed o gymryd y gost uchaf un o £1.5bn, y wers arall yr ydym wedi ei ddysgu o gemau’r Alban yw fod 80% o’r gwariant wedi digwydd yn ystod y ddwy flynedd yn arwain i fyny at y gemau.

Yng nghyd-destun Cymru byddai hynny’n golygu fod £1.2bn o’r swm am gael ei wario yn 2024-2026. Mae hynny’n rhoi wyth mlynedd i roi £200m y flwyddyn o’r neulltu ar gyfer y gemau.

Ond y siom mwyaf yw’r diffyg uchelgais. Rhoddwyd tair opsiwn: gemau Cymru gyfan; gemau gogledd a de ddwyrain Cymru; a gemau de ddwyrain Cymru yn unig.

MapGymanwaldCymruGyfanRoedd yr opsiwn Gemau Cymru gyfan yn gyfle gwirioneddol wych. Byddai wedi golygu chwaraeon yn cymryd rhan ym Mangor, Bae Colwyn, Wrecsam, Y Waun, Llandrindod, Sennybridge ayb. Byddai’r cystadleuthau trac wedi bod yn Wrecsam, gyda phentref athletwyr newydd yn cael ei hadeiladu yno. O ystyred fod y Cyngor Sir wedi mabwysiadu Cynllun Datblygu newydd oni fyddai hyn wedi bod yn gyfle i ddatblygu tai fforddiadwy i gael eu defnyddio ar ol y gemau fel tai o dan berchnogaeth gyhoeddus?

Byddai wedi golygu cael stadiwm o safon rhyngwladol yn y gogledd ddwyrain – stadiwm athletau genedlaethol yng ngogledd ddwyrain Cymru.

Byddai hefyd wedi bod yn blatfform rhyngwladol heb ei ail i Gymru. Ystyriwch fod dros 1.5bn o bobl ar draws y byd wedi gwylio gemau Glasgow yn 2014, a bod gwerth brand yr Alban wedi cynyddu yn y flwyddyn honno? Meddyliwch y cyfleon fyddai yna i ddenu rhagor o fuddsoddiad i Gymru? i fusnesau Cymru fanteisio ar hyn?

Ble mae’r uchelgais? Mae hyn yn rhoi neges glir nad ydym yn genedl o entrepreneriaid, yn genedl ddiogel sy’n ofn bras-gamu.

Ond y gwir, am wn i,  yw hyn. Gyda’r pryder o amgylch gadael yr UE mae’r bwrdwn gwaith ar weisio sifil Bae Caerdydd yn llawer, llawer iawn mwy.

Mae’n debyg felly nad ydy’r capasiti yno i ymdopi a phrosiect o’r fath.

Yn ei hun mae hyn yn ddealladwy. Ond mae yna bwynt amgenach. Mae Llafur Cymru wedi paffio yn erbyn rhagor o ddatganoli bob cam o’r ffordd, yn enwedig datganoli y gallu i godi arian. Mae nhw wedi pleidleisio yn erbyn Cymru bob tro. Dro ar ol tro mae nhw’n gwrthod caniatau i Gymru i reoli ei dyfodol ei hun.

Y gwir trist felly yw tra bo Llafur mewn grym fyddwn ni fel cenedl byth mewn sefyllfa i gynnal digwyddiadau rhyngwladol o bwys, oherwydd nad yw’r capasiti yma gan fod Llafur wedi gwrthod y cyfle i ledaenu adennydd ein cyw Senedd.

Y wers? Mae angen cael gwared o Llafur.