Prowd iawn o blant Clwb y Sul, Bethel, Cynwyd.
Mae’n nhw wedi llwyddo i gasglu tomen o fwyd ar gyfer Banc Bwyd Matt, Llangollen, sy’n gwasanaethu cymunedau o Gorwen i’r Waun.
Diolch o galon i Siop y pentref am adael i ni gael blwch bwyd yno hefyd.
Mae hyn yn gam pwysig ymlaen i aelodau’r Clwb. Mae’n nhw wedi bod yn dysgu a chlywed straeon o’r Beibl ers peth amser, ond mae’n un peth i adnabod adnodau a straeon, ond nid yw Cristnogaeth yn ddim os nad yw’n cael ei weithredu.
“Fy mrodyr, pa les yw i ddyn ddweud fod ganddo ffydd, ac yntau heb weithredoedd? A all ei ffydd ei achub ef? Os yw brawd neu chwaer yn garpiog ac yn brin o fara beunyddiol, ac un ohonoch yn dweud wrthynt, “Pob bendith i chwi; cadwch yn gynnes a mynnwch ddigon o fwyd”, ond heb roi dim iddynt ar gyfer rheidiau’r corff, pa les ydyw? Felly hefyd y mae ffydd, os nad oes ganddi weithredoedd, yn farw ynddi ei hun.”
(Iago 2: 14-17)
Mae hefyd yn anos cadw diddordeb yr aelodau hŷn. Gobeithio trwy ddatblygu prosiectau diriaethol fel hyn y gallwn ni nid yn unig eu cadw nhw ond defnyddio gallu pob aelod fel y gall pawb gyfrannu.
Gallwch chithau gyfrannu at Fanc Bwyd Matt Llangollen trwy fynd a chyfraniadau i Ganolfan Ni Corwen, neu i’r Banc Bwyd ar Brook Street, Llangollen.
Mae’n nhw’n arbennig o awyddus i dderbyn: grawnfwyd brecwast, bisgedi, pasta sych, reis sych, smash, siwgr, a bwydydd tun, megis pysgod, cig, llysiau, cawl, ffa, spageti, ffrwythau, pwdin reis, llaeth anwedd, cwstard, coffi, te, a llaeth ‘long-life’.