Rwyf wedi trydar y bore ymamai canlyniad is-etholiad Heywood a Middleton neithiwr yw’r mwyaf arwyddocaol, er gwaethaf y ffaith fod Llafur wedi cadw’r sedd honno abod Ukip wedi ennill is-etholiad Clacton.
Er gwaethaf y ffaith fod yn sawl rheswm pamfod pobl yn mynd allan i bleidleisio mewn etholiad, a phaham eu bod nhw’n dewis plaid arbennig, maeymchwil yn dangos yn glir mai’rprif reswm sydd o dan yr wyneb yw gallu plaid/gwleidydd i wneud gwahaniaeth. ‘Competence’.
Er mai dim ond un o 4 ASE yr ennillodd Ukip yng Nghymru yn yr etholiadau Ewropeaidd ymmis mai, roedd yr etholiadau hynny’n drawiadol ac yn lwyddiant rhyfeddol iddyn nhw. Yn yr ardal hon, gogledd ddwyrain Cymru, fe ddaeth Ukip i’rbrig ym mhob un o’r Cynghorau Sir (o gof).
Er hyn, roeddwn i’n dawel hyderus mai ‘blip’ oedd y canlynidau yma. Roedd pobl yn medru pleidleisio dros Ukip yn Ewrop oherwydd fod naratif y wasg Brydeinig wedi creu delwedd o blaid oedd gyda’r gallu i wneud gwahaniaeth ar ddwy bwnc gwleidyddol penodol – Mewn/Allan o Ewrop a mewnfudo.
Yn bersonol rwy’n amheus os oedd y cwestiwn o fod mewn/allan o Ewrop ar frig meddyliau y rhelyw o bobl flwyddyn cyn yr etholiad, ond roedd y cyfryngau yn cadw bwydo hyn, cwympodd David Cameron i’r fagl a chynnig refferendwm ar y peth,ac fe ddatblygodd momentwm y naratif, gan greu cylch seithig.
Pwy oedd yno felly i gynnig ateb terfynol,’difinitive’? Pwy oeddyn alluog (‘competent’) i wneud rhywbeth ynghylch hyn? Wele’r marchog gwyn Farage yn brasgamu i’r llwyfan (enter stage right!).
Ond fel y soniais, roeddwn i o’r farn ar y pryd mai ‘blip’ ydoedd. Oherwydd doedd yr etholwyr ddim yn gweld Ukip yn ‘competent’ i wneud gwahaniaeth ar y lefel domestig. Doedd ganddyn nhw ddim hygrededd economaidd (ac mae etholiadau domestig yn cael eu hennill neu colli ar yr economi).
Dyma lle mae Farage a’i dim wedi chwarae ‘blinder’. Roedd Douglas Carswell yn debygol o golli ei sedd i Ukip yn 2015. Efallai y byddai Ukip wedi ennill llond dwrn o seddi bryd hynny. Ond er mwyn ennill rhagor na llond dwrn roedd angen hygrededd arnyn nhw; roedd angen cynnal y momentwm. Mae’n rhaid bwydo’r bwystfil er mwyn iddo fedru tyfu.
Mae ennill is-etholiad Clacton wedi rhoi’r hygrededd yna iddyn nhw.
Ond yng nghanol tristwch teulu y cyn AS Llafur Jim Dobbin, roedd yr is-etholiad yno yn gyfle amhrisiadwy i Ukip ledaenu eu neges drwy’r cyfryngau Prydeinig, sydd bob amser yn barod iawn i rannu eu neges.
Yn 2010 fe gafodd Ukip 1215 o bleidleisiau yn Heywood a Middleton, gan ddod yn 5ed (y tu ol i’r BNP).Ennillodd Llafur gyda dros 18000,a 6000 o fwyafrif. Neithiwr Ennillodd Llafur gyda ychydig dros 11,633, ac Ukip yn ail gyda 11,016. Chwalodd y bleidlais doriaidd. Cawsant 3496,achwalwyd y bleidlais ryddfrydol o 10,474 yn 2010 i 1457 neithiwr.
Mae’r ffugurau yma’n awgrymu fod y bleidlais doriaidd a BNP wedi mynd drosodd at Ukip.Mae hynny’n wir i raddau.Ond maepolau piniwn diweddar yn dangos yn glir fod y bleidlais Ryddfrydolyn Lloegr yn mynd drosodd at Lafur. Mae’n debyg felly fod nifer sylweddol o’r 11,600 a bleidleisiodd i Lafur yn gyn-ryddfrydwyr. Mae hyn yn awgrymu fod canran sylweddol o’r bleidlais Lafur hefyd wedi mynd at Ukip.
Wrth siarad a thrigolion ardaloedd ol-ddiwydianol De Clwyd, rwy’n sylwi yr hen bleidlais Lafur yn son am Ukip. Rydym yn gwybod fod y gefnogaeth i Lafur yng Nghymru yn disgyn; ‘ennillodd’ Ukip etholiadau Ewrop yn ardaloedd ol-ddiwydianol traddodiadol Llafur yg Nghymru; a neithiwr roedd Llafur o fewn trwch blewyn i golli sedd ddiogel i Ukip.
Rwy’n credu mai’r termwyddonol dechnegol am hyn yw ‘squeeky bum time’.
Ond mae’n bryder i bob un ohonom, dyna’r gwir.Maeethol AS Ukip yn normaleiddio trafodaeth hiliol, ac cyfiawnhau hinsawdd o ofn, sy’n niweidiol yn ei dro i ddemocratiaeth.