Mae’n debyg i Churchill ddweud fod hanes yn cael ei hysgrifennu gan y buddugwyr. Mae son mai Philip Graham, gohebydd y Washington Post, ddywedodd mai newyddiaduraeth oedd y drafft cyntaf o hanes. O dderbyn y rhain fel gwirebau mae’n siŵr mai’r argraff gyffredin yn y gwledydd yma yw i’r ymgyrch ‘Na’ gael buddugoliaeth derfynol dros y rhai oedd yn galw am annibyniaeth i’r Alban yn y refferendwm yr wythnos diwethaf.
O fod wedi treulio 8 niwrnod yng Nghaeredin dros gyfnod y refferendwm, gallaf ddweud mai’r gwrthwyneb sy’n wir. Yn gyntaf roedd y refferendwm yn ei chyfanrwydd yn llwyddiant i’r broses ddemocrataidd, gyda dros hanner miliwn o bobl ‘newydd’ yn cael eu cofrestru i bleidleisio, pobl nad oedd ar y gofrestr etholiadol ynghynt am wahanol resymau megis digartrefedd; rhoddwyd y bleidlais am y tro cyntaf erioed i bobl ifanc 16 ac 17 oed. Ond yn fwy na hyn oll, ac eithrio’r etholwyr dros 65 oed, fe bleidleisiodd y gweddill yn gryf o blaid ‘Ie’.
Roedd hi’n fraint cael bod ar strydoedd Caeredin yn trafod dyfodol eu cenedl, a phawb hefo barn ac yn cymryd rhan fywiog a phwrpasol yn y broses wleidyddol. Ysgydwwyd y sefydliad Prydeinig llwgr i’r bôn, ac er nad aeth y canlyniad o blaid Ie ar y noson, mater o amser yw hi bellach. Gorfodwyd pleidiau San Steffan i roi pob mathau o addewidion, yn eu plith y byddai papur yn cael ei roi o flaen Senedd San Steffan drannoeth y refferendwm yn cynnig grymoedd newydd i’r Alban. Mae’r addewid hon eisoes wedi ei thorri.
Ond mae’r Alban wedi cael deffroad. Mae eu llygaid ar agor i gelwyddau’r sefydliad, a darlledwr y wladwriaeth, Y BBC, yn eu plith. Am gyfnod byr iawn fe gafodd pob un ohonom oedd yn yr Alban ddydd Iau diwethaf flas ar wir ryddid – goddefgarwch, cyfeillgarwch, a’r ymdeimlad ein bod ni’n cyfrif ac yn gallu chwarae rhan adeiladol wrth wella ein cymdeithas. Roedd hi’n brofiad sawrus, wnaeth ein gadael ni oll i chwenychu mwy. Mater o amser yw hi cyn i ni aflonyddu a mynnu ein bod ni’n cymryd yr awenau allan o ddwylo’r breintiedig ac ariangar.
(Dyma fy ngholofn aymdangosodd yn y Denbighshire Free Press ar y 25ain o Fedi 2014)