Hasta Siempre La Victoria!

Ar y diwrnod hwn, 48 mlynedd yn ol, fe ddechreuodd chwyldro Ciwba wrth i Castro, Cienfuegos, Guevara a’r criw bychan o chwildroadwyr ymosod ar faracs yn Santiago de Cuba, yn ne Orllewin yr Ynys er mwyn cael gwared o ormes grym Batista a dylanwad llwgr yr Unol Daleithau.

Rwy’n ffodus i gael bod wedi ymweld a Chiwba a mwynhau croeso rhyfeddol rhai o’r bobl mwya addfwyn a llawen yr ydw i erioed wedi cael y fraint o’u cyfarfod. Mae yna dlodi yno, heb os, ac mae embargo yr UDA yn niweidio’r ynys a’i phobl. Dydi brand Castro o sosialaeth ddim wedi gweithio yn llwyr chwaith, gyda chanrhan bach o bobl yn arianog, a’r mwyafrf yn dlawd, ond mae’r gwahaniaeth rhwng y tlawd a’r cyfoethog yno yn llawer llai nag ydi o yma.

Does dim gwadu llwyddianau ysgubol y wladwriaeth yno ym meysydd iechyd, addysg ac i raddau llai amaeth hefyd.

Gellir dweud i’r cyfan ddod yn sgil chwyldro gwaedlyd a baratowyd ac a lawnsiwyd gan griw bychan o bobl.

Yn yr un modd ar y 24ain o Ebrill 95 mlynedd yn ol cafwyd chwyldro tebyg yn agosach i gartre, gyda chriw bychan o bobl yn dechrau rhyfel gwaedlyd e rmwyn gorfodi newid. Cyhoeddodd Padraig Pearse annibyniaeth yr Iwerddon y tu allan i’r GPO ar y dyddiad hwnnw, ac fe ddilynodd ryfel byr ond gwaedlyd.

Does dim amheuaeth gen i fod llywodraeth Batista yn Nghiwba yn 1953 yn lywodraeth ffiaidd oedd yn gormesi pobl, yn camdrin pobl, ac yn gwbl llwgr.

Yn yr un modd roedd Llywodraeth Prydain yn gormesi trigolion yr Iwerddon, gan eu gorfodi i dlodi wrth ddwyn eu hadnoddau a chasglu cyfoeth y wlad iw hunen.

Mae yna amryw o bethau’n gyffredin hwng y ddwy chwyldro – yn wir dylanwadwyd chwyldro Ciwba yn fawr gan chwyldro’r pasg yn yr Iwerddon. Ond un o’r pethau trist sydd yn gyffredin yw’r bwriad i newid y drefn trwy dollti gwaed.

Dyna hefyd oedd Anders Behring Breivik yn ceisio ei wneud yn Oslo dros y penwythnos. Felly yn wir Osama Bin Laden a’i griw.

Dyna hefyd y mae llywodraethau Prydain, Yr UDA a Ffrainc yn geisio ei wneud yn Libya heddiw, ac wedi ei wneud mewn degau o wledydd ar hyd y degawdau.

Peidiwch a fy nghamddeall i. Dydw i ddim yn dweud fod yna rhywbethl yn gyffredin rhwng gwleidyddiaeth Chwyldroadwyr Iwerddon 1916-21, Ciwba 1953-59, Brievik, Bin laden a Llywodraethau cyfoes yr UDA, Prydain,  a Ffrainc, ymhlith llwyth o enghreifftiau eraill. Ond mae’n oll yn credu y gallan nhw, ac fod hawl ganddyn nhw i orfodi newid trwy rym trais.

Fel heddychwr a rhywun sydd am weld chwyldro yn y ffordd y mae ein cymdeithas yn cael ei reoli, fy nghred i yw mai dim ond trwy ennill pobl drosodd i’n safbwynt ni trwy rym ein dadleuon y mae cael newid go iawn. 

Ydw rwy’n croesawi cwymp unrhyw deirant a rheolaeth lwgr. Rwy’n grediniol fod Ciwba yn le gwell i fyw ynddi heddiw nag oedd hi o dan Batista, ac yn llawenhau fod Batista wedi mynd ac mai pobl Ciwba sy’n sofran. Yn yr un modd rwy’n llawenhau fod pobl De Sudan yn sofran. Ond ar yr un pryd rwy’n tristhau oherwydd y gwastraff a’r dioddefaint a arweiniodd at y canlyniadau hynny.

Wrth i Che Guevara lofnodi ei lythyr olaf i Castro, fe ysgrifennodd Hasta Siempre la Victoria! Tan y daw buddigoliaeth. Mae hynny yr un mor wir i’r chwyldro heddychlon ag ydyw i’r chwyldro treisgar!