Ddoe cafwyd streic anferthol gan aelodau o’r sector gyhoeddus yn erbyn cynlluniau gan y llywodraeth i newid amodau eu cytundeb gwaith.
Mae’r Sefydliad Gwleidyddol Brydeinig (Llywodraeth ConDem a Llafur) wedi dweud na ddylai’r Undebau fod wedi streicio ac yn hytrach y dylent fod o amgylch y bwrdd yn trafod.
Rwy’n cytuno a hyn, hyd at bwynt. Pwynt trafod yw cyrraedd cyfaddawd. Mae’r Llywodraeth Brydeinig wedi gwneud hi’n berffaith glir nad oes yna gyfaddawdu i fod ar dair pwynt polisi penodol, sy’n ganolog i ddadl yr Undebau. Os nad oes symud am fod ar ran y Llywodraeth yna pa opsiwn arall sydd gan y gweithwyr ond atal eu llafur?
Yn anffodus mae’r ddadl wedi cael ei wirdroi i gyfiawnhau gwerth y pensiynau, gyda nifer yn dweud fod gan y sector gyhoeddus bensiynau bras ac fod nifer yn y sector breifat yn gorfod dioddef pensiynau isel iawn. Y ddadl sy’n dilyn hon yw fod y “wlad” (y DU) mewn sefyllfa arianol gythryblus ac na all forddio’r pensiynau ‘bras’ yma.
Mae’r ddwy ddadl yn sgwarnogod a beth bynnag yn ffaeledig, gan dynnu’r sylw oddi ar y prif bwynt.
NID yw’r rhelyw o bobl sydd yn y sector gyhoeddus ar bensiynau bras. Mae’r cyfartaledd yn disgwyl derbyn pensiwn o rhwng £3k a £5k y flwyddyn ar ol ymddeol a hynny ar ol talu tua £150k i fewn! Bras? Prin. Mae’n wir fod nifer sy’n gweithio i fusnesau preifat yn dioddef ac yn debygol o dderbyn pensiynau pitw. Ond dydi hynny ddim yn reswm pam y dylai’r Llywodraeth gam-drin y gweithwyr y mae hi’n gyfrifol am, ond yn hytrach yn ddadl i reoli amodau cytundebau gwaith y sector breifat yn well, a chael gwell rheolaeth ar gwmniau pensiwn sy’n gwneud tomen o arian o’u buddsoddiadau ond yn talu ychydig iawn yn ol i’r cwsmeriaid sydd ei angen fwyaf.
O ran cyllideb “y wlad”, mae adroddiad Hutton yn dangos yn glir fod disgwyl i’r pot pensiwn “cenedlaethol” ddisgyn dros y ddeugain mlynedd nesaf. Cofier nad oes disgwyl talu’r pensiynau yma allan yn syth bin eleni! Rwy’n cael yr argraff fod nifer sy’n hyrwyddo’r ddadl yma’n cymhlethu rhwng swm y pot pensiwn a thrafferthion arianol presenol. Wrth gwrs mae gan Brydain ddyled gyhoeddus sylweddol, ond mae posib mynd i’r afael a’r ddyled yma drwy amryw ffyrdd heb gosbi pobl ddiniwed. Dwyn arian oddi ar y gweithwyr cyhoeddus ydy bwriad gwirioneddol y Llywodraeth. Polisi eidiolegol pwrpasol i leihau’r sector gyhoeddus, ac, yn y pendraw, preifateiddio addysg. Dydi’r Llywodraeth Brydeinig yn ddim ond lladron heb anrhydedd.
Ond fel y soniais, sgwarnogod yw’r dadleuon yma. Y ffaith yw NAD yw’r Llywodraeth yn barod i negodi na chyfaddawdu. Beth bynnag fo barn rhywun am werth y pensiwn – bras neu beidio; beth bynnag fo barn rhywun am ddyled y wlad; onid yr egwyddor greiddiol yma yw fod y Llywodraeth yn gweithredu yn ddi-egwyddor ac heb anrhydedd? Does dim hawl ganddyn nhw i orfodi newidiadau sylweddol o’r fath ar eu gweithwyr heb drafod na chyrraedd cytundeb boddhaol.
Os ydy’r Corff Deddfwriaethol yn trin ei gweithwyr yn y fath fodd, pwy obaith sydd i weithwyr y sector breifat gael tegwch pan fo’n dod at newidiadau mewn cytundeb gwaith?! Mai cyflogwyr di-egwyddor y sector breifat wrth eu bodd a hyn, ac yn gweld cynsail yn cael ei osod ar eu cyfer. Yr eirioni trist yw mai pobl sy’n gweithio i gyflogwyr diegwyddor yw rhai o’r lladmeryddion mwyaf brwd sy’n lladd ar y streicwyr!
Y ddadl arall a royd gerbron gan y Sefydliad Gwleidyddol Brydeinig a’i chefnogwyr yw mai y plant fydd yn dioddef wrth fod yr athrawon yn mynd ar streic, ac fod gofal plant am y diwrnod am fod yn gostus. Mae Llafur yn fwy na neb wedi hyrwyddo’r ddadl yma, gan fradychu ei thraddodiad (hynafol iawn erbyn hyn), a bradychu’r bobl hynny sydd wedi bod mor driw iddi ar hyd y degawdau. Pam, o pam, fod yr Undebau ym mynnu cario ymlaen i’w cefnogi? Wn i ddim.
Mae’n ddadl sy’n fy nhristau.
Mae’n dangos pa mor bell mae’n cymdeithas wedi mynd o’r traddodiad cydweithredol undebol. Does yna ddim gwerthfawrogiad na dealltwriaeth bellach o bwrpas nac ystyr streic.
Mae person ar streic yn colli incwm. Mae’n aberth. Mae’r athrawon yn fwy nag unrhywun yn gwerthfawrogi’r anhwylustod y mae’r streic yn greu ar y plant, eu teuluoedd, a’u cwricwlwm. Yn wir dyma’r tro cyntaf erioed i’r ATL fynd ar streic. Nid ar chwarae bach y mae rhywun yn mynd ar streic.
Wrth gwrs y byddai’n well ganddyn nhw fod yn yr ystafell ddosbarth yn gwneud eu gwaith!
Dywedodd Tessa Jowell “We’re absolutely with the people of this country who should not have their services disrupted,”. Iawn. Mae’n ofnadwy o anghyfleus. Ond dydi hi na Llafur ddim yn cynnig opsiwn arall i’r streicwyr heblaw am fynd yn ol i’r bwrdd trafod sydd, fel y soniwyd eisioes, wedi methu! Rhag cywilydd y Blaid Lafur!
Yr un cwestwin sydd gen i i’r Undebau a’u haelodau yw hyn – mae’n un peth i golli diwrnod o gyflog. Faint ydych chi’n barod i aberthu er mwyn sicrhau cyfaddawdu gan y Llywodraeth?
Cofiwch Streic y Penrhyn 1900-1903.