Sïon o’r ymgyrch

Rwy wedi cyhoeddi ambell i bostiad yn ddiweddar ynghylch momentwm ymgyrch Plaid Cymru yn Ne Clwyd.

Mae mwy o dystiolaeth yn dod i’r fei yn atgyfnerthu hyn.

Cefais neges gan rywun agos iawn (iawn) efo ymgyrch un o’r pleidiau eraill sydd wedi gwneud ymchwil, ‘internal polling’ mae’n nhw’n ei alw fo, a’r canfyddiad oedd fod Plaid Cymru yn ennill tir sylweddol yn yr etholaeth.

Yna mae sïon fod y Ceidwadwyr wedi rhoi fyny ar Dde Clwyd, Delyn a Wrecsam, ac yn sianelu eu hadnoddau oll ar Orllewin Clwyd.

Yr hyn sydd yn amlwg i mi yw fod y Blaid Lafur yn gwbl drahaus ac wedi meddwl ar y dechrau fod De Clwyd yn y bag. I’r graddau fod yr ymgeisydd Llafur wedi dweud ei fod eisioes wedi prynu ty yn yr etholaeth. Pam fyddai rhywun sy’n gynghorydd yn ardal y Wyddgrug ac yn gweithio i Aelod Seneddol Alun a Dyfrdwy yn symud i fyw i Dde Clwyd? Oni bai ei fod wrth gwrs yn cymryd yn ganiataol ei fod wedi ennill. Ond dyna ni, enghraifft clir o’r Blaid Lafur yn cymryd yr etholwyr yn ganiataol.

Fe flogiais i ychydig yn ol ynghylch methiant peirianwaith y Blaid Lafur. Mae’r Hogyn o Rachub wedi cyfeirio at  methianau yma yn y blogiad yma. Wrth i’r ymgyrch fynd yn ei flaen mae’r methiant yma wedi dod yn fwy fwy amlwg. Dydy’r Blaid Lafur yn gwneud nemor ddim gwaith taflenni neu ganfasio drws i ddrws. Mae gen i dystiolaeth eu bont yn ffonio gan ofyn un cwestiwn yn unig (casglu gwybodaeth yw diben hyn), ac yn defnyddio’r Royal Mail, ond prin iawn arall. Hefyd dim ond 3 placard rwy wedi ei weld i Llafur drwy’r holl etholaeth. Cofiwch mae hon i fod yn gadarnle iddyn nhw!

Rwy’n credu fod yna amryw ffactorau ar waith yma.

1) Mae’n nhw’n cymryd yr etholwyr yn ganiataol

2) Does dim gweithwyr llawr gwlad ganddyn nhw, a nifer aelodaeth yn disgyn yn syfrdanol

3) Mae’n nhw’n sgint ar ol gwario swp go-lew yn sicrhau fod Susan Elan Jones yn cael ei hethol i San Steffan

Mae’n amlwg felly mai San Steffan yw eu blaenoriaeth, ac nid y Cynulliad.

Cymharer hyn efo’n hymgyrch ni.

Mae’n amhosib i ni gystadlu yn arianol. Ond mae ganddo ni weithwyr llawr gwlad arbennig.

Rwy ac eraill wedi cerdded ymhell dros 200 milltir yn y bedair wythnos diwethaf, yn dosbarthu taflenni a chnocio drysau. Rwy’n bersonol wedi siarad gyda ambell i fil o etholwyr erbyn hyn. Ry’n ni wedi targedu yr adnoddau prin sydd ganddo ni.

O ganlyniad ry’n ni mewn sefyllfa llawer gwell i ymateb i broblemau llawr gwlad yr etholwyr. Sut mae’r Blaid Lafur yn credu y gallan nhw gynrychioli yr etholwyr os mae’r unig bobl mae’n nhw’n siarad efo yw cylch cyfyng (sydd yn mynd yn fwy cyfyng) eu haelodau a ffrindiau yn yr etholaeth?

Amlygwyd hyn yn yr hystyngiadau pryd roeddwn i mewn sefyllfa llawer gwell a chryfach na’r ymgeiswyr eraill i ymateb i gwestiynau gan gyfeirio at enghreifftiau lleol. Er gwaethaf eu bod nhw’n bragio eu bont yn ‘(lled) lleol’, mewn gwirionedd does ganddyn nhw ddim syniad o beth sy’n mynd ymlaen yn lleol am nad ydyn nhw mewn cyswllt a thrigolion yr ardal. Trwy gerdded y stryd a gwrando ar bobl a’u pryderon mae rhywun yn medru ymateb iddyn nhw.

Dyna pam fod maniffesto Plaid Cymru gymaint yn gryfach ac yn cynnig mwy o addewidion concrit na maniffestos y pleidiau eraill – am ein bod ni’n clywed y pryderon ac yn medru ymateb iddyn nhw.

Ry’n ni yn yr wythnos olaf erbyn hyn.

Me ganddo ni beth wmbreth o waith i’w wneud, ond nid er mwyn osgoi gwaith y rhoddasi i fy enw ymlaen i fod yn ymgeisydd. Erbyn dydd iau mi fyddai i wedi cerdded yn agos i 50 milltir arall, ac wedi siarad a thipyn mwy o bobl.

Mae’r Blaid Lafur wedi cael ofn Plaid Cymru y tro yma; ac ymddengys fel fod y Ceidwadwyr yn paratoi eu hun am y trydydd safle (mae’r Rhyddfrydwyr, gyda llaw, yn gwbl, GWBL anweladwy).

Un ple ola – ymunwch a ni dros y dyddiau nesaf ac efallai y gallwn ni chwarae ein rhan yn creu tamed bach o hanes 😉

3 Comments

  1. Gobeithio dy fod yn iawn! Pob hwyl gyda’r canfasio. Fy marn bychan pitw i, yw, po hiraf mae’r ymgyrch etholiadol yma, po wannaf mae’r blaid Lafur yn ymddangos.

    Fel mae’r ymgyrch yn mynd yn ei flaen mae pobl yn gweld nad oes gan lafur ddim i’w gynnig heblae rhyw rant sy’n ymylu ar fod yn lled-hiliol (gan nad yw’n ymwneud braidd dim ar bolisiau dim ond teimlad llwythol) gwrth-Tori.

  2. Cytuno Efnisien. Mae’n rhyfedd i ddweud, ond byddai’n dda cael tua pythefnos arall.

    Soniaist mewn ymateb i flogiad arall ynghylch y ‘Pepsi Challenge’ – mae pobl yn ymateb yn ffafriol i’r Blaid. Yr her yw eu cyrraedd drosodd a thro.

    Serch hynny pedwar diwrnod sydd ar ol, a gallwn ond wneud beth allwn ni yn yr amser yma!

    Cytuno fod ymosodiadau Llafur yn hollol llwythol. Does ganddi nhw ddim byd arall. Yn wir mae’n nhw mor ‘bereft’ o syniadau fel bod hanner eu maniffesto yn ymwneud a pethau sydd eisioes wedi eu cyflawni (llawer ohonyn nhw diolch i Blaid Cymru). Mae’n werth edrych ar eu maniffesto – mae’n nhw’n brolio ei fod yn gynhwysfawr – mae’n llawn lluniau, tudalennau gwag; tudalennau cynnwys; brawddegau gwag…ychydig iawn o sylwedd sydd iddo!

Comments are closed.