Does dim amser gen i i ysgrifennu blogiad manwl, felly dyma rannu gyda chi y gerddoriaeth sydd wedi diffinio’r ymgyrch hyd yma i fi!
1. Manu Chao – Baionarena
2. Bob Delyn a’r Ebillion – Sgwarnogod Bach Bob
3. Steve Eaves – Ffoaduriaid
4. Enya – Watermark
5. Sian James – Gweini Tymor
6. Femi Kuti – The Best Of Femi Kuti
Mae pob un ohonyn nhw’n wych a phob un wedi bwydo’r gwahanol emosiynau yn ystod yr ymgyrch.
Yr anthem serch hynny yw Afrikaners Y Gymru Newydd, Steve Eaves! Gystal heddiw ag oedd e pan ryddhawyd y gan gyntaf.
Iawn, paratoi am wely cynnar am mod i’n gorfod bod yn y stiwdio radio ben bore yfory ar gyfer sgwrs sy’n cael ei ddarlledu’n fyw, cyn mynd ymlaen i daflenni yng Nghoedpeoth a Rhiwabon yna yn ol am ginio dydd Sul hyfryd gyda’r teulu!