Mae penderfyniad llywodraeth Prydain i gael gwared o chwarter ASau Cymru yn beth gwael. Mae’n wrth-ddemocrataidd ac yn golygu y bydd Cymru yn cael ei tangynrychioli yn San Steffan, y sefydliad pellenig hwnnw sydd wedi penderfynu yn eu doethuneb i dorri yn ol ar gynorthwyo y tlotaf a mwyaf bregus ac a fydd o ganlyniad yn effeithio’n wael ar Gymru.
Mi fyddech chi’n disgwyl i mi fel cenedlaetholwr i ddweud hynny.
Yn anffodus serch hynny y gwir yw fod yr ymgais yma gan Cameron a Clegg i ‘gerrymandro’ etholaethau am gael effaith ofnadwy ar gynrychiolaeth y Blaid Lafur yng Nghymru. Ar y cyfan dydy Cymru ddim wedi cael y wasanaeth orau gan ASau Llafur. Yn wir mae’n nhw wedi bod yn affwysol o aneffeithiol ar hyd y degawdau gan wrando ar eu meistri yn Llundain bron yn ddi-eithriad.
Tra fo’r ergyd theoretical yma yn cael ei daro ar ddemocratiaeth Cymru, y realiti fydd bod Cymru yn mynd i barhau i ddibynu ar ymdrechion ASau Plaid Cymru i ymladd ei chornel, tra fo Llafur Cymru am weld cwymp yn ei hincwm.