Mae wedi mynd yn wyllt draw ar flog Plaid Wrecsam: yma ac yma!
Ar ol blogiad ynghylch y penderfyniad i beidio a chaniatau adeiladu 150 o dai ychwanegol ym Mrymbo mae rhai pobl wedi dewis taflu’r bai ar Gynghorwyr Plaid Cymru am warafun iddyn nhw’r hawl i gael heol gyswllt newydd, ysgol newydd, a chanolfan siopa newydd.
Pe bai hyn yn wir mi fyswn i’n sicr yn eu cefnogi. Ond o edrych ychydig yn fanylach fe welwn ni fod y dicter yma yn cael ei fwydo gan y Cynghorydd Ceidwadol Paul Rogers.
Mae’r ffaith fod y Cyng Rogers yn bwydo’r ofnai a phryderon yma ymhlith trigolion yr ardal yn warthus. Oherwydd o edrych yn agosach fyth ac fe welwn ni fod cyhuddiadau y Cyng. Rogers a’i griw fod Plaid Cymru yn gwarafun gwasanaethau elfenol i drigolion Brymbo trwy wrthwynebu’r adeiladu yma yn ddim mwy nag anwiredd yn seiliedig ar ddiogi deallusol, ac os rhywbeth yn fwriad pwrpasol i bardduo enw da ei wrthwynebwyr gwleidyddol er mwyn hyrwyddo ei hunan. O ganlyniad mae’n gwneud cam a’r trigolion lleol sydd a phob hawl i fod yn ddug nad oes hewl gyswllt wedi cael ei adaeiladu bedair mlynedd yn ddiweddarach.
Dyma’r ffeithiau hyd y gallaf i eu gweld:
2006:
- BDL yn addo creu 1000 o swyddi
- BDL yn addo creu ysgol newydd
- BDL yn ado datblygu safle treftadaeth
- BDL yn addod datblygu cyfleusterau hamdden
- BDL yn cael caniatad i adeiladu 500 o dai ar y safle
- BDL yn talu £17m i’w cyfranddalwyr (3 ohonyn nhw) yn dilyn y datblygiadau.
Mae yna un rheol syml os yw rhywun am adeiladu ‘cymuned newydd’: rhaid sicrhau fod yr isadeiledd mewn lle fel rhan o’r cynllun, os nad ydyw yna dydio’n ddim byd mwy na chasgliad o dai. Mae’n fy synnu na fynnodd Cyngor Wrecsam fod datblygu’r isadeiledd yn rhan o’r cynllun yn y lle cyntaf. Wrth gwrs does gan BDL ddim diddordeb personol mewn datblygu’r isadeiledd – mae’n gost ychwanegol ac yn golygu llai o elw iddyn nhw (£17m). Byddai hewl gyswllt wedi costio oddeuty £2m (llai fel rhan o gynllun amgenach, mwy fel cynllun unigol). Ond unig amcan BDL oedd cael caniatad i ddatblygu cynifer o dai a phosib er mwyn eu gwerthu am elw. Y bobl hynny a brynodd y tai roddodd yr elw anferthol yma yn eu pocedi (yn ogystal a ni’r trethdalwyr gan i BDL dderbyn ambell i grant cyhoeddus i glirio’r tir)!
Pedair mlynedd yn ddiweddarach, a nhwythau £17m yn gyfoethocach, mae gan BDL yr hyfdra i ddweud fod yn rhaid iddyn nhw gael caniatad i adeiladu 150 yn rhagor o dai er mwyn medru adeiladu hewl gyswllt ar gyfer datblygiadau newydd Brymbo! Roedden nhw’n methu a fforddio adeiladu’r hewl gyda 500 o dai (a £17m o elw) ond mi fedran nhw gyda 150 o dai! Ai plasdai fydd rhain er mwyn medru creu elw cyffelyb? Pwy fydd yn gallu forddio’r tai yma? Oes eu hangen nhw? Dyw hyn yn ddim mwy na blacmel, ac mae record BDL yn dangos nad oes gwir ddiddordeb ganddyn nhw mewn datblygu isadeiledd a gwasanaethau elfennol.
Ac mae’r Cynghorydd lleol, Paul Rogers, yn eu cefnogi gan ddweud mai Plaid Cymru sy’n gadwu’r hewl a’r gwasanaethau yma trwy wrthwynebu adeiladu 150 o dai ychwanegol!
Mae trigolion y tai newydd ym Mrymbo eisioes wedi talu am yr hewl gyswllt! Dylai fod yno! Mi ddylai wedi bod yn rhan o’r cytundeb er mwyn cael adeiladu’r tai gwreiddiol yn y lle cyntaf.
Mae angen dybryd am siopau a gwasanaethau ar Brymbo. Pe byddai Cyngor Wrecsam wedi sicrhau fod datblygu’r isadeiledd a darparu gwasanaethau elfennol yn rhan o’r datblygiadau gwreiddiol byddai’n sicr wedi elwa Brymbo gyfan. Fel y saif pethau yr unig bobl sydd wedi elwa (yn sylweddol) yw cyfranddalwyr BDL!
Bwriad BDL yw datblygu tai.
Mi ddylsent yn lle fod yn adeiladu cartrefi.
Rwy’n siwr fod BDL yn deall y gwahaniaeth, ond nad oes diddordbeb ganddyn nhw mewn semantics o’r fath cyn belled ag eu bod nhw’n pocedi digon o elw.
Fel rhywun sy’n byw yn Brymbo rwy’n synnu fod y Cyng. Paul Rogers yn methu a gweld y gwahaniaeth rhwng Ty a Chartref. Yn lle amddiffyn BDL a’u helw (£17m) drwy ymosod ar ei wrthwynebwyr gwleidyddol dylai’r Cynghorydd Rogers fod yn brwydro dros anghenion y bobl hynny sydd wedi talu arian da am eu tai ac a ddylai fod wedi cael hewl gyswllt ers 2006. Mae’n ymddangos i mi fod y brwydro a siarad ar ran trigolion Brymbo yn cael ei wneud gan Gynhorwyr Plaid Cymru. Da iawn nhw. Oleia eu bod nhw’n barod i ofyn y cwestiynnau cywir.