Taclo Tai Fforddiadwy

Wrth feddwl am faterion gwleidyddol mae rhwun fel rheol yn meddwl am Iechyd, Addysg, Pensiynau, Swyddi. Yna mae materion mwy arbenigol megis amaethyddiaeth, yr amgylchedd, rhyfel a heddwch. Er hynny mae yna un mater amlwg wedi bod yng nghanol gwleidyddiaeth Cymru dros y ddegawd diwethaf ond nad yw’r awdurdodai wedi mynd i’r afael a hi.*

Mae’n ymddangos fel bod tai yn cael eu codi ym mhob man, ond eto mae adroddiadau’r llywodraeth o hyd yn cyfeirio at ddiffyg tai; ac os y siaradwch chi a phobl ar y stepen drws (fel ydw i’n ei wneud yn aml) mae ddiffyg tai fforddiadwy yn bryder cyffredin.

Ond dyna’r broblem. Tai fforddiadwy.

Mae’r mater o pa mor fforddiadwy yw ty yn un diddorol. Mae’n rhan o economi ffug. Nid yw gwerth ty yn adlewyrchu gwerth y rhannau unigol sydd wedi mynd i fewn i’r adeiladwaith, ond yn hytrach mae’n werth beth bynnag y mae rhywun yn barod i dalu amdano. Mae ei werth yn cynyddu neu’n disgyn yn dibynnu ar amryw o ffactorau – ysgolion, swyddi, trafnidiaeth, ond er hyn oll mae eu prisiau o hyd yn fwy na beth sy’n fforddiadwy i bobl leol. Po bellaf o’r canolbwynt economaidd y rhataf yw’r ty, ond eto mae’n parhau i fod y tu hwnt i drigolion lleol.

Mae yna amryw o resymau pam fod pobl yn dewis prynu ty. Mae rhai yn eu prynu fel tai haf, eraill oherwydd eu bont yn fwy fforddiadwy mewn un man nac mewn man arall, neu am fod gwell gwasanaethau, gwell ymdeimlad o gymuned ayb. Dewis personol ydyw i nifer yn dibynu ar anghenion neu flys. Ond nid oes gan bobl eraill, llai ffodus, yr un rheolaeth dros eu mudo. Clywn am achosion lle y mae awdurdodau lleol wedi penderfynu fod rhai pobl yn rhy anymunol ac yn pery gormod o broblemau, maent felly yn talu cildwrn iddyn nhw er mwyn eu symud i Awdurdod arall. Yr enghraifft sy’n aros yn fy nghof i oedd ymdrech Cyngor Brighton & Hove i symud y rhai hynny yr oedden nhw’n farnu yn anymunol allan o’r ardal trwy dalu £3500 iddyn nhw symud i Gymru.

Beth bynnag fo rheswm pobl am symud – ac rwy’n deall fod yna lwyth o resymau gwahanol, wedi’r cyfan rydw i wedi byw mewn mwy o drefi nag allaf i ei gofio, yn cynnwys mewn gwlad trydydd byd – os y gofynnwch i bobl am eu hymateb i’r mater o argaeledd tai, fe gewch chi’r un ymateb pa le bynnag yr ewch chi yn son am ‘scroungers’ a ‘dossers’, ac yn ddiweddar wrth gwrs mudwyr economaidd o wledydd canol a dwyrain Ewrop.

Ry’n ni o hyd yn pigo ar y rhai hynny sydd ar y gwaelod, y rhai hynny sydd a thaer angen am do uwch eu pennau ac, o gael y dewis, a fyddai yn well ganddyn nhw i beidio a bod yno chwaith.

Nid y bobl yma yw’r broblem ac ry’n ni’n pigo’r ffeit anghywir.

Rhaid i ni beidio ag anghofio mai’r farchnad dai, o dan annogaeth rheoliadau llac Llafur o’r sector arianol gafodd ni i fewn i’r helbul economaidd yma. Mae’r helbul economaidd yma yn ei dro wedi rhoi’r esgus a chyfle perffaith i’r Toriaid a’r Rhyddfrydwyr i ddifetha ein gwasanaethau cyhoeddus ac ail-lunio’r wladwriaeth fel teclyn i’r cyfoethog.

Mae’r trueiniaid ar waelod y pentwr ar drugaredd landlordiaid diegwyddor, ac yn gorfod ymdopi ag amgylchiadau afiach yn aml iawn. O gael y dewis byddai’n llawer well ganddyn nhw fod nol gyda’u ffrinidiau a theuluoedd. Ar ben hyn mae’r broblem ychwanegol o bolisi ‘hawl-i-brynu’ Thatcher a stoc dai cyhoeddus sy’n crebachu. Nid yw’r mantra Ceidwadol o roi ‘Dewis’ yn opsiwn i’r tlotaf.

Y broblem efo’r ddarpariaeth o dai fforddiadwy dros y ddegawd diwethaf oedd ein bod ni wedi dod i gredu ein bod ni mewn rhyw ffordd yn entrepeneriaid llewyrchus oherwydd fod ein gwerth arianol wedi cynyddu ar bapur, pan mewn gwirionedd nad oedden ni wedi gwneud dim i haeddu’r dyrchafiad yma mewn gwerth arianol personol heblaw am eistedd ar swigen oedd yn aros i fyrstio. Fe chwaraeon ni i fewn i ddwylo ariangarwyr barus, gan brynu morgeisi nad oedd posib eu talu yn ol trwy ffynhonellau incwm arferol, ond ein bod ni’n cymryd yn ganaitaol y byddai’n dod yn fforddiadwy wrth i werth ein tai gynyddu. Economi cwbl anghynaladwy fyddai’n dymchwel yn union syth y byddai’r credudwyr yn gofyn am eu harian yn ol, gan arwain at bobl cyffredin yn methu talu eu morgeisi a benthycwyr morgais yn methu talu’r credydwyr. Ac mi ddymchwelodd yn y modd mwyaf dramatig!

Felly beth yw’r ateb? Mae yna lawer mwy o atebion nag beth sydd gennyf i o le ac amser i’w hysgrifennu yn y fan hyn. Ond dyma rai syniadau er mwyn annog trafodaeth.

Gadewch i ni ddechrau gyda’r mwyaf amlwg.

  • Rhaid i ni beidio a beio y mwyaf difreintiedig a mudwyr economaidd i gychwyn.
  • Yn ail mae cael rheolaeth mor llac ar y farchnad (disgwyl i’r farchnad reoleiddio ei hun) wedi methu. Does gan y farchnad ddim diddordeb mewn pa mor fforddiadwy yw eiddo neu cynnig cyfleoedd cyfartal i bobl, ond yn hytrach mae am weld elw mor fuan a phosib. Mae’n anghenfil rheibus sydd angen ei dofi. Rhaid cael rheolaeth mwy llym ar y fachnad o du’r llywodraeth.
  • Ni ddylai’r un fenthycwr morgeisi gael benthyg morgais mwy na tair gwaith yr incwm, yn syml oherwydd ein bod ni wedi gweld y difrod ar gymunedau wrth i’r farchnad fethu a phobl yn methu a thalu eu dyledion.
  • Rhaid tynnu fwy o dir i fewn i berchnogaeth cyhoeddus gan ei ddal mewn ymddiridaeth er lles cyhoeddus. Mae gormod o’n tir o dan berchnogaeth canrhan rhy fychan o bobl sydd yn ei dro yn golygu fod cyfleon datblygu yn cael eu cyfyngu. Gellir rhenti allan tir cyhoeddus ar gyfradd fforddiadwy i brynwyr tai, gan ddod ag arian i fewn i’r economi leol a chaniatau i’r gymuned reoli prisiau eiddo.
  • Rhaid trethi tai haf llawer yn uwch.
  • Dylid newid gwerth Treth Stamp i adlewyrchu y prynwr.

Y bwriad yw i roi dewis go iawn i bobl. Pe na byddem ni mor farus ac yn mynnu ar gael gymaint o arian pob cyfle posibl yna fyddai dim angen gymaint o ddeddfu, ond rydyn ni yn farus, ac er mwyn rhoi cyfle cyfartal i bawb rhaid ystyried polisiau cyffelyb er mwyn caniatau i’n cymunedau dyfu a chryfhau yn naturiol heb orfod dioddef oherwydd grym y farchnad. Wedi’r cyfan mae’r system bresenol yn gwbl fethedig. Onid yw hi’n amser ein bod ni’n gwneud pethau’n wahanol?

*Brwydrodd y Dirprwy Weinidog Dros Dai yn y Cynulliad, Jocelyn Davies Plaid Cymru, yn aruthrol o galed i gael grymoedd dros tai i’w datganoli ond ar ol tair mlynedd o ymdrechu rhwystrodd y Ceidwadwyr ei hymdrechion yn San Steffan. Gwarth.

Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s