Brwydrwch dros S4C – trysor diwyllianol ac economaidd

Mae’r newyddion diweddar ynghylch arianu a dyfodol S4C yn destun pryder i ni yma yng Nghymru. 

Mae’r ddadl gyhoeddus y tu allan i gylchoedd caredigion yr iaith yn ymwneud a ‘gwerth am arian’, hynny yw a oes posib cyfiawnhau gwario £100m gyda chynlleied o wylwyr. 

Mae’r ddadl honno yn anghywir, ac yn ffaeledig am amryw o resymau, ond mae hi hefyd yn foesol yn ddadl wag. 

Yn gyntaf peidiwch da chi a chael eich llywio gan y cysyniad o gyfiawnhau bodolaeth y sianel trwy nifer y gwylwyr. Mae’r ffordd y mae’n nhw’n mesur nifer y gwylwyr yn fethedig; dydyn nhw ddim yn cyfri plant (gwylwyr Cyw – gwasanaeth rhagorol); a beth bynnag am hynny mae’r hyn y mae S4C wedi ei gyfrannu yn ddiwyllianol, yn ieithyddol, ac yn economaidd yn amhrisiadwy. 

Yn ogystal a hyn beth am y gwerth economaidd y mae’n nhw’n methu ei brisio? Ystyriwch a fyddai rhaglenni teledu o wledydd eraill wedi dod i ffilmio a gwario eu harian yma oni bai am yr adnoddau arbennig sydd yng Nghymru ar gyfer teledu sydd wedi dod yn sgil S4C? A fyddai ffilmiau wedi dod i ffilmio yma oni-bai am yr enw da fyddai gan Gymru trwy lwyddianau S4C? Buddsoddiad economaidd amhrisiadwy, heb son am y dros 2,000 o bobl sy’n cael ei gyflogi yn uniongyrchol gan gwmniau teledu yng Nghyrmu. 

Beth am y cwmniau hynny sydd wedi mynd ymlaen i ennill cytundebau i wneud rhaglenni i sianeli eraill gan ddod ag arian i fewn i Gymru? Rwy’n meddwl yn benodol am Tinopolis a Boomerang, cwmniau na fyddai’n bodoli oni bai am S4C, a chwmniau sy’n darparu rhaglenni o safon i Channel 4, BBC, ITV ac yn y blaen.

 Ond beth am y pethau hynny nad oes modd rhoi gwerth materol arnyn nhw? Yr iaith, y diwylliant. Roeddwn i’n ddisgybl ysgol am gyfnod yn Ysgol Gyfun Gwyr, ar gyrion Abertawe. Roedd nifer, os nad y rhan helaethaf o’m ffrindiau yno yn dod o aelwydydd Saesneg eu hiaith, ond rwy’n cofio hyd heddiw y bois yn siarad am ‘Sgorio’, am mai dyna’r unig raglen lle’r oeddynt yn gallu gweld uchwafbwyntiau o bel-droed Sbaen a’r Eidal. Felly mae S4C nid yn unig yn cyfoethogi’r Gymraeg ac yn rhan o dwf ac esblygiad naturiol yr iaith, ond mae iddi rol hanfodol yn cyflwyno’r iaith a’n diwylliant i bobl nad sy’n gyfarwydd a hi, i ysbrydoli ac ysgogi, ac mae’r sianel yn gwneud hyn i gannoedd o filoedd o bobl. 

Mae llwyddianau eraill – SuperTed, Sam Tan, Sali Mali; actorion a chyflwynwyr fel Ioan Gruffydd, Mathew Rhys, Rhys Ifans, Alex Jones, Gethin Jones, oll yn enwau cyffredin i wylwyr mewn amryw o wledydd. Mae S4C yn comisynu rhaglenni o safon – Con Passionate, Pen Talar, Tair Chwaer; ond yn bwysicach na hynny mae’n nhw’n comisynu rhaglenni gwych na fyddai yr un sianel Brydeinig yn meiddio gwneud ond sydd yn gofnod hanesyddol, yn adlonianol, ac yn adlewyrchiad o Gymru – Cefn Gwlad, Bro, Fferm Ffactor, Dechrau Canu Dechrau Canmol, C’mon Midffild, Teulu’r Mans, Tipyn o Stad; ac wrth gwrs y wasanaeth arbennig i blant yr ydw i eisioes wedi ei enwi, Cyw. 

Dim ond braslun o lwyddianau a phwysigrwydd S4C yw hyn. 

Mae’r ffaith fod Llywodraeth Llundain am drosgwlyddo S4C o dan adain y BBC yn ofid mawr. 

Yn gyntaf does gan y Bib yn ganolog ddim o’r hanes mwyaf teilwng pan fo’n dod i barchu ‘y rhanbarthau’ fel y gelwir Cymru yn llawer rhy aml. Mae’r BBC, fel pob corfforaeth fawr, yn edrych i ofalu am y mwyafrif ar drail y lleiafrif. Mae hyn wrth gwrs am olygu fod Cymru ac S4C o hyd am ddod yn olaf yn eu hystyriaethau. Mae ymateb y newyddiadurwr Phil Lavelle yn ymddangos yn boenus o gyffredin ymhlith staff a swyddogion Llundeinig y BBC. Yn ogystal a hynny mae’r ffaith mai’r BBC sydd am orfod talu am S4C allan o’i chyllid hi, heb gael arian cyfatebol gan y llywodraeth a chael y drwydded wedi ei rewi am bedair mlynedd am suro’r berthynas o’r dechrau cyntaf yn deg.                                                                                                                         

Unwaith eto y bunt sy’n rheoli, ac mae’r ffordd y bu iddyn nhw drin yr Asian Network yn dystiolaeth o pam y dyliwn ni bryderi am adael i’r Bib gymryd gofal o S4C.

 Ydy’r BBC am warantu canrhan pendol o’i chyllideb i S4C? Ydy’r BBC am ganiatau i S4C fod yn quasi-annibynol yntau a ydy’r BBC am ymyrryd? I ba raddau y bydd y BBC yn ymyrryd? Ydy S4C am fod yn atebol i’r BBC?

 Y pryder arall yw ein bod ni’n gweld monopoli ar ddarlledu yng Nghymru. I’r perwyl yma rwyf wedi cyfeirio yr achos at yr OFT. Dwi ddim yn disgwyl i ddim byd i ddod ohono.

 Mae rhai o’r cwestiynnau yma wedi cael eu hateb yn annigonol mewn llythyr gan Michael Lyons (http://www.culture.gov.uk/images/publications/Lyons_BBC.pdf

Ond mae’r frawddeg yma yn llythyr Lyons yn peri gofid mawr: 

                        In the event that a new partnership model does not prove viable for any reason, the Government will not take licence fee money itself for this purpose. But in this situation the Trust will propose a one-off reduction in the level of the licence fee which would be equivalent to the contribution that the BBC would otherwise have made to S4C. 

Beth mae hyn yn olygu? Os nad yw’r bartneriaeth yn gweithio, mae’n dweud nad yw’r Llywodraeth ag unrhyw fwriad i arianu S4C. Beth fydd cyllideb S4C wedyn? Tua £7m ac unrhywbeth y ca nhw o hysbysebion! 

Mae dyfodol S4C yn parhau i fod yn y fantol felly! 

Ac i gloi, beth gellir ei ddweud am sut y gwnaed y penderfyniad yma? Cytundeb gan wleidyddion o Loegr heb ymgynghori a Chymru, ac heb unrhyw ystyriaeth o oblygiadau yr hyn y mae’n nhw’n ei gynnig. Gwarthus.

2 Comments

Comments are closed.