Mae yna lawer o son wedi bod dros y dyddiau diwethaf am gynlluniau George Osborne i dorri budd-daliadau plant i rieni sy’n ennill dros £44k y flwyddyn. Mae’r cyfryngau yn son fod yna gorwynt o aniddigrwydd ynghylch y peth, ond rwy’n ofni fod hynny’n gamgymeriad. Efallai fod y BBC a phapurau Fleet Street yn credu fod yna aniddigrwydd, wedi’r cwbl mae nhw oll wedi campio yng nghynhadledd y Ceidwadwyr ym Mirmingham, ac mae’n ymddangos fod y Toris yn gandryll, ond dyw’r anniddigrwydd hynny ddim i’w weld ar lawr gwlad.
Fel polisi ar ei phen ei hun, galla i ddim dweud mod i’n anghytuno a hi. Mae ond yn deg fod y rhai cyfoethocaf yn y gymdeithas ddim yn cymryd budd-daliadau o’r pwrs cyhoeddus, wedi’r cyfan mae’n nhw’n ddigon abl i dalu. Mae £44k yn hen ddigon o gyflog i fyw arno, heblaw fod rhywun wedi ymestyn ei hun ormod (morgais affwysol o uchel, taliadau car uchel ayb).
Rwy’n derbyn y pryder ynghylch caniatau i ddau riant sy’n ennill £87k rhyngddyn nhw i gasglu’r budd-dal plant, tra fo rhiant sengl yn ennill £44k yn methu cael y budd-dal. Mae’n anhegwch sylfaenol. Ond mae’n debyg fod y gost o osod system ‘means-tested’ tecach yn ormod ar y foment, ac mae’n rhaid tynnu’r llinell yn rhywle. Mi wna i dderbyn hyn fel esgus am y tro.
Ond fy mhryder i yw hyn. Yn ol pob tebyg mae’r stynt yma (ac rwy’n grediniol mai stynt yw hwn) am arbed tua £1bn yn unig. Mae’r datgniad a gafwyd ddoe ynghylch toriad treth i gyplau priod am gostio oddeuty £700m. Felly rhwng y ddau dyma arbediad o £300m yn unig.
Mae’n stynt ffol ac yn dangos fod y Ceidwadwyr yn fwy na pharod i ymosod ar y dosbarth canol er mwyn dangos eu bod nhw’n deall trallod y tlotaf. Mae’n nhw’n honni mai er mwyn sicrhau nad yw’r tlotaf yn cael eu cosbi y mae’n nhw’n cyflwyno hwn, ond eto mae’n nhw am gynyddu TAW i 20%, treth sydd yn mynd i daro’r mwyaf anghenus yn fwy nag unrhyw un. Ond yn fwy na hyn mae’n nhw’n gwrthod mynd i’r afael a mesurau llawer mwy effeithiol a fyddai’n sicrhau biliynnau yn ychwanegol i’r Trysorlys, sef gorfodi Nom-Doms a ‘Tax Dodgers’, yr uber-gyfoethog, i dalu eu ffordd.
Mae yna ddwy damaid o newyddion yn ddiweddar, un yn lleol ac un yn Brydeinig, sydd yn dangos hyn. Y cyntaf, fel y soniais mewn blogiad cynharach, am Hans Rausing cyn bennath Tetra Pak, sydd a chyfoeth o dros £4bn ac yn byw yn Lloegr ond yn gwrthod talu treth yn y wladwriaeth hon; a’r ail ynghylch Tesco sydd wedi gwneud elw 6 mis o £1.6bn, ond eto yn llwyddo i osgoi talu treth llawn yn y wladwriaeth hon gan gael cyfrifon mewn gwledydd megis Luxembourg a’r Swistir.
Gweithwyr cyffredin sydd yn talu eu harian da am eu cynnyrch, ond eto mae’n amlwg nad ydyn nhw’n golygu dim i bobl fel Rausling neu benaethiaid Tesco sydd yn gwrthod talu eu ffordd yn y gymdeithas y mae’n nhw’n rhan ohoni.
Os ydy’r Ceidwadwyr wirioneddol am sicrhau nad yw’r tlotaf am gael eu cosbi yna rhaid sicrhau fod yr uber-cyfoethog yn talu eu ffordd. Y broblem yw fod gan George Osborne gyfoeth o dros £4m ac mae son fod gan David Cameron gyfoeth o dros £30m. Twrcwns a Nadolig.