Mae Llywodraethau ar bob lefel wedi plygu i ofynion economaidd ar draul ein cymunedau a dyfodol ein plant yn rhy hir. Dywedodd yr Athro Schumacher yn ei lyfr ‘Small is Beautiful’ fod yr economi yn bodoli i’n gwasanaethu ni ac nid y ffordd arall o gwmpas. Mae hynny’n berffaith wir. Dylai budd y gymuned gyfan fod wrth wraidd gweithgarwch economaidd, ac nid budd unigolion. Os buaswn yn datblygu polisïau economaidd i sicrhau bod pawb yn cael budd cyfartal a bod y gymdeithas gyfan yn elwa yn gyfartal, yna byddem yn byw mewn cymdeithas llawer gwell.Yr wyf yn gefnogwr brwd o’r mudiad cydweithredol a gorau po gyntaf y byddwn yn caniatáu i’r gweithwyr gael mwy o lais yn y gwaith o redeg busnesau, a gorau po gyntaf y bydd cymdeithas yn cymryd rhan mewn rheoli cwmnïau sy’n gwneud elw anferthol o adnoddau’r gymdeithas.