Iechyd

Rydym wedi cymryd camau breision mewn gofal iechyd dros y ganrif ddiwethaf. Can mlynedd yn ôl roedd 1 mewn 5 plentyn yn marw cyn iddynt gyrraedd 2 oed yn Aberdâr! Mae cenhedlaeth fy nain yn cofio gorfod casglu dŵr o’r nant; cael tŷ bach yn y tŷ am y tro cyntaf; roedd marwolaethau o TB a difftheria yn gyffredyn, ond bellach maent wedi diflannu i raddau helaeth.

Er fod nifer o ddatblygiadau meddygol nodedig wedi digwydd, ac wrth gwrs rydym wedi gweld datblygiad radical y GIG sy’n yn darparu gofal iechyd am ddim i bawb, y datblygiad pwysicaf oedd y cynnydd anfertho yn yr ymwybyddiaeth o bwysigrwydd glendid.

Rydym yn awr yn byw yn hirach ac yn cael ansawdd bywyd llawer gwell na’r hyn oedd gennym 100 mlynedd yn ôl. Er hyn mae gennym bobl yn byw mewn poen cronig, ac rydym wedi gweld cynnydd mewn afiechydon eraill, clefyd y galon yn fwyaf nodedig ac afiechydon sy’n gysylltiedig â’r galon fel clefyd y siwgwr. Mae’r mwyafrif sy’n marw yng Nghymru heddiw yn marw o ganlyniad i ddewisiadau ffordd o fyw – ysmygu, deiet, ymarfer corff, ac y pryder mwyaf yw’r lefelau o ordewdra. Os bydd y lefelau presennol o ordewdra ymhlith plant yn parhau pan maent yn oedolion bydd ein GIG o dan straen difrifol, a fydd yn rhoi straen pellach ar gyllid ar gyfer ymchwil eraill sy’n angenrheidiol. Addysgu ac ymwybyddiaeth oedd y datblygiad pwysicaf yn y ganrif ddiwethaf, a byddwn yn gweld llwyddiant mewn gofal iechyd yn y ganrif hon hefyd trwy addysgu ein pobl am y dewisiadau yn eu ffyrdd byw y maent yn eu gwneud.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.