Addysg

Mae gan Gymru hanes cyfoethog o rymuso pobl trwy addysg. Cymerodd Gruffydd Jones, Llanddowror, addysg i bob cymuned yn Sir Gaerfyrddin yn nechrau’r ddeunawfed ganrif ac mae’r egwyddor honno o addysg gymunedol dal yn berthnasol heddiw. Nid chwareli i gael eu hecspoletio am eu hadnoddau ac yna eu cau i lawr pan fyddant yn dod yn aneconomaidd yw ysgolion. Nid arf economaidd mo ysgol, ond yn hytrach mae’n un o gonglfeini cymdeithas sifil, yn ein helpu ni i feithrin a datblygu gwell dinasyddion sy’n gallu chwarae eu rhan wrth adeiladu cymunedau gwell. Mae ysgolion yn rhoi ymdeimlad o berthyn, ac mae eu gweithgareddau allgyrsiol yn enwedig yn helpu i greu cymunedau cryfach. Mae angen i ni ddechrau meddwl am y rol mae ein ysgolion yn chwarae wrth greu cymdeithas fwy cyfartal, yn hytrach na meddwl amdanynt fel ffactrioedd sy’n cynhyrchu unigolion ar gyfer y gweithle yn unig.

1 Comment

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.