Araith Cynhadledd Hydref Plaid Cymru 2010

Araith Cynhadledd Hydref Plaid Cymru 2010

Does yna ddim un plaid arall all ddweud fod ganddyn nhw gefnogwyr mor frwd a mor hael a Phlaid cymru, ac rydyn ni yn fythol ddiolchgar i chi am yr oll yr ydych chi yn ei wneud dros y Blaid a thros Gymru. Pam felly mod i yma yn gofyn ar i chi wneud rhagor? 

Yn syml am fod ganddom ni job o waith iw wneud. Mae gan bawb yng Nghymru yr hawl i glywed ein neges a rhanu ein gweledigaeth ac mae dyletswydd arno ni i sicrhau fod y neges yma yn cyrraedd pob person yng Nghymru mor aml a phosib. 

Er mwyn gwneud hyn mae’n rhaid wrth gyfalaf, buddsoddiad arianol os licwch chi, ond gyda ‘returns’ amhrisiadwy! Yn y dyddiau yma o gyni a’r banciau yn gyndyn o dalu llog ar unrhyw gynilon, pa fuddsoddiad gwell gewch chi na buddsoddi yn nyfodol Cymru? Dim ond Plaid Cymru sydd yn brwydro dros ddyfodol Cymru a hynny gyda gweledigaeth clir o sut Gymru fydd Cymru yfory, y Gymru yr ydyn ni’n buddsoddi ynddi. 

Gadewch i ni atgoffa ein hunain o beth o’r weledigaeth yma sydd wedi bod ac yn dal i fod yn greiddiol i fodolaeth y Blaid. 

Ffurfio Plaid Cymru ar ddechrau’r ugeinfed ganrif oedd dechrau y broses o wireddu breuddwyd miloedd o bobl; yn cynnig gweledigaeth am Gymru well, lle y rheolau ei phobl eu hadnoddau gan wneud y penderfyniadau gorau er lles y genedl. 

Dyma ddywedodd Ifan Alwyn Owen, un o sylfaenwyr y Blaid, yn ol yn 1924. 

“Yr wyf yn fwy cadarn nag erioed dros gael Plaid Genedlaethol Gymreig gan y credaf yn ddibetrus mai trwyddi hi, a hi yn unig y sicrha Cymru y mesur llwyraf o Ymreolaeth: hefyd gwelaf ynddi – ar ol trwytho y trigolion a’r ysbryd cenedlaethol – foddion rhagorol i ymladd am annibyniaeth lwyr.” 

Neu beth am eiriau doeth DJ Davies yn 1949: 

“…to create the will to co-operate in the economic sphere, something deeper and wider than class or economic interests is needed; and all experiences shows that there is nothing which can more effectively create that will, and produce a spirit which will express itself in constructive action and not merlely in talk, than a living sense of nationality. The man who is without this sense becomes individualistic and anti-social, and tends to seek the immediate at the expense of the ultimate” 

Neu yn wir, dyma a ddywedodd Gwynfor Evans ym 1953: 

“Pa beth yw prif nodwedd cenedlaetholdeb Cymreig?

Yr awydd i ddatblygu holl adnoddau’r gymdeithas Gymreig yn gyflawn, yn foesol, materol a meddyliol. Hyn a rydd y cyfle gorau i bob Cymro unigol fyw bywyd cyflawn.” 

“Ei chred sylfaenol yw yng ngwerth y person unigol, ac amcan llywodraethol ei pholisi yw sicrhau bywyd helaethach iddo. Mewn gweriniaeth gydweithredol Gymreig y caiff y cyfle gorau, a sefydlu’r fath weriniaeth yw amcan Plaid Cymru.” 

Y rhain oedd yr egwyddorion a’n gosododd ni arwahan i’r pleidiau eraill, yn ein gwneud yn yn blaid unigryw a nodedig. Y rhain oedd yr egwyddorion a ddeffrodd yr ymwybyddiaeth genedlaethol ac a achosodd y daeargryn a ysgydwodd wleidyddiaeth Cymru o 1966 hyd y dydd heddiw.

Ein gwaith caled ni ddaeth achosodd y chwyldro tawel sydd yn digwydd o dan ein trwynau yma yng Nghymru. O sefydlu’r Swyddfa Gymreig, Comisiwn Kilbrandon, sefydlu S4C, Deddf yr Iaith 1992, a’r bleidlais Ie ym 1997, oll wedi cyfranu at wneud Cymru yn le gwell ac yn le mwy teg i fyw ynddi. Caed pob un o’r pethau yma, a rhagor, oherwydd gwaith y Blaid, oherwydd eich gwaith caled chi. Yn union fel y bu i ni gael ein hysbrydoli a dysgu gwersi o frwydrau cenhedloedd eraill, felly hefyd y mae ein llwyddianau ni wedi rhoi gobaith i nifer o genhdloedd bychain eraill yn eu brwydrau am ryddid. Ni yw’r Blaid Rhyng-genedlaethol go iawn, yn cydymdeimlo a phob brwydr m ryddid ar draws y byd. 

Am ein bod ni’n gweld pethau yn wahanol. Mae ganddom ni bersbectif gwahanol ar bethau. Persbectif Cymrieg. Persbectif a anwyd o’r angen i gydweithio, trugaredd, cyd-gyfrifoldeb, ac agwedd o beidio byth a rhoi i fyny, agwedd pan er gwaethaf pob dim y gwnawn ni yr hyn sydd orau er lles in teulu, cymuned, a chenedl. 

Oherwydd pan fo pendefigion y Blaid Lafur yn dweud eu bont yn gyfforddus wrth weld pobl yn aflan o gyfoethog, yr hyn yr ydym ni yn ei glywed yw eu bod nhw yn gyfforddus yn gweld eraill yn byw mewn tlodi enbyd. Pan eu bod nhw yn son am y ‘bottom line’ mae’n nhw’n gweld punnoedd a cheiniogau, ein ‘bottom line’ ni yw pobl a chymunedau. Pan eu bod nhw’n son am y Diwydiant Cynhyrchu, ry’m ni yn gweld cymunedau byw; pan eu bod nhw yn son am y Diwydiant Amaeth, ry’n ni’n gweld ffordd o fyw. 

Nid Adam Smith, Marx na Keynes yw ein harweinwyr ysbrydol ni. Nid gwleidyddiaeth nwyddau materol a’r economi yw ein gwleidyddiaeth ni. Dydyn ni ddim yn bodoli i wasanaethu’r economi., mae’r economi yn bodoli i’n gwasanaethu ni! Mae ein cyfoeth ni yn fwy o lawer, cyfoeth diwylliant a chymuned, pobl a threftadaeth. Hyn sydd yn ein gwneud ni yn Blaid genedlaetholgar sydd heb ddim uchelgais imperialaidd nac yn gweld ein hun yn well na neb arall, ond yn gydradd i bawb ac yn was i neb. 

Ond, fel adict mae ein cenedl yn cael ei gadw yn ei le trwy gyfraniadau’r wladwriaeth a‘r diferu cyson o Genedlaetholdeb Brydeinig; diwylliant o ddibyniaeth, y gred fod ein bodolaeth ni yn ddibynol ar Loegr a San Steffan. Fel adict, mae meddwl am fyw heb y cyffur hwnnw yn frawychus ac ry’n ni’n ofn y canlyniadau pe bawn ni’n stopio; ac fel adict ry’n ni’n cadw mynd yn ol am ragor heb sylweddoli mai dibyniaeth ffug ydyw, dibyniaeth sydd wedi cael ei fytholi trwy’r cenedlaethau, o’r Llyfrau Gleision ym 1847 drwyddo i’r Gorfforaeth Ddarlledu gynyddol. Ry’n ni wedi clywed ein bod ni’n diwerth mor aml fel ein bod wedi dod i gredu y peth ein hunen – rhaid i chi ond ddarllen tudalenau llythyrau y Daily Post, y Western Mail, neu gyfraniadau blogwyr Unoliaethol yn gyson ddweud wrthym ni na fedrwn ni oroesi; heb arian trethdalwyr Lloegr y bysen ni’n llwgi ac yn y blaen. Fe allech chi ddweud, yng neiriau rhai, ei fod wedi cael ei orfodi i lawr ein gyddfau! 

Mae pob dim sydd ganddom ni yn cael ei drosglwyddo i’r wladwriaeth Brydeinig, ein cyfoeth, ein adnoddau, ein dynion a merched ifanc, a hyn wrth i griw bach o bobl gyfoethogi eu hunen ar drail ain hunaniaeth genedlaethol a’n dyfodol. Ond, fel adict, yn y pendraw dim ond ni all wneud rhywbeth am y peth. Rhaid i ni gael yr hunan-hyder , y gyts, a’r cryfder cymeriad i ddewis y llwybr i ryddid. 

Dyma’r hyder y mae’n rhaid i ni ddangos fel cymuned ac fel cenedl. Mae’n ymddangos i fi fel fod yna batrwm yng nghenedlaetholdeb Gymreig. Ym mhob cenhedlaeth ry’n ni’n rhoi ein holl obeithion, ein holl ffydd a hyder mewn i un person i’n harwain i ryddid, Y Mab Darogan. Ond does yna ddim un ‘mab’ all arwain Cymru i ryddid; does yna ddim un person all ein harwain i wlad yr addewid. Os ydyn ni am weld gwireddu ein gweledigaeth, yna dim ond trwy gydweithio, a phawb yn tynnu eu pwysau y gwnawn ni hynny. Mae gan bob un ohono ni ein rhan i chwarae. Pan safodd Lewis Valentine yng Nghaernarfon yn 1929 cafodd gefnogaeth 609 o Feibion a Merched Darogan; Pan enillodd Gwynfor ei fuddigoliaeth hanesyddol ym 1966 gwnaeth hynny trwy gefnogaeth 16,179 o Feibion a merched Darogan; a phan gododd Dafydd a Ron eu dwylo ar y bore godidog hwnnw ym Medi 1997, fe wnaethant hynny gyda chymorth dros hanner miliwn o Feibion a merched Darogan. Mae pob un ohonom ni yma heddiw yn fab ac yn ferch darogan gyda’n rhan i chwarae a’r gallu i newid dyfodol Cymru er gwell! 

Ry’n ni’n aelodau o Blaid Cymru am fod ganddom ni ffydd a hyder yng Nghymru, ym mhobl Cymru. Gadewch i ni ddangos yr un ffydd a hyder yma ynddo ni ein hunain trwy gyfranu at y frwydr genedlaethol sydd yn ein hwynebu ni y flwyddyn nesa. 

Pa ffordd well o orffen yr anerchiad yma na gyda geiriau Gwynfor Evans:

 “Wales, living her own life with dignity, will take her due share in creating a just, stable and peaceful international order. Her greatest contribution to human welfare and civilisation, however, will be to create in the national homeland a fair society, a free society.” 

Dyna ddywedodd Gwynfor ar ddiwedd ei lyfr Wales Can Win, a pha well buddsoddiad nag yn y weledigaeth eirias yma! 

Rhowch yn hael i Blaid Cymru; rhowch yn hael i ddyfodol Cymru, a gyda’n gilydd fe allwn ni adeiladu Cymru well!

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.