Darlith Goffa Lewis Valentine 2012

Anwybodaeth Clyd

Cyfrifoldeb heddychwyr Cymru yn yr G21ain

 

Diolch yn fawr iawn am y fraint o gael bod yma gyda chi heddiw a chael traddodi Darlith Goffa Lewis Valentine, dyn sydd yn arwr i mi ar sawl lefel.

Mae’r gair ‘darlith’ yn awgrymu lefel o ddealltwriaeth ysgolheigaidd a blynyddoedd o ymchwil. Fedra i ddim addo dim o hyn i chi heddiw, ond yn hytrach mae’n gyfle i gyflwyno rhai myfyrdodau ar beth yw bod yn Heddychwr heddiw a datblygu’r syniad o heddychiaeth y tu hwnt i’r syniad boblogaidd o ‘gonshi’ – neu rywun sy’n gwrthod codi arfau.

Yn y ddarlith hon rwy am gwestiynu beth yw bod yn heddychwr. Ydyn ni sy’n galw ein hunain yn heddychwyr mewn gwirionedd yn heddychwyr? A beth yw dyletswydd heddychwr yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain?

Er mwyn deall y cwestiwn o beth yw bod yn heddychwr rhaid yn gyntaf ystyried beth yw rhyfel.

Rhyfel yw’r math mwyaf eithafol o hunanoldeb. Mae hyn yn swnio’n ocsiforonig, wedi’r cyfan onid yw rhyfel yn rhywbeth sy’n cael ei wneud gan niferoedd o bobl yn erbyn ei gilydd? Sut all hyn fod yn hunanol?

Mae’n hunanol oherwydd pendraw methiant i gyrraedd cytundeb; methiant ar ran un neu fwy o bobl i rannu; a methiant trafodaeth yw rhyfel. Am nad ydym ‘ni’ yn cael ein ffordd drwy ffyrdd heddychlon ceisiwn ei orfodi ar eraill a rhyfel yw’r modd mwyaf eithafol o wneud hynny.

Mae hyn wedi bod yn wir ar hyd hanes. Meddyliwch am unrhyw ryfel yn hanes, a’r bwriad yw gorfodi ewyllys ar eraill, boed yn ryfel sy’n cael ei ffieiddio yn gyffredinol, megis y Rhyfel Byd cyntaf, Irac, neu Vietnam, i’r rhai hynny y mae rhai yn hoff o’u galw’n foesol (ocsimoron arall) megis ymyrraeth y Deyrnas Gyfunol yng Nghosovo, Sierra Leone, neu’r Ail Ryfel Byd. Yr hyn sy’n gyffredin ym mhob un o’r rhain yw methiant pobl i drafod a’r awydd i orfodi rhywbeth ar rywun yn erbyn eu hewyllys.

Ystyriwch Hanes Rhyfel Peloponesia a ysgrifennwyd gan Thucydides 2,500 o flynyddoedd yn ôl. Ynddo mae’n cyfeirio at ddeialog rhwng dau Gadfridog Athenaidd yn ystod rhyfel rhwng dinasoedd gwlad Groeg. Mae’r sgwrs yn datgelu y gwir am yr hyn sy’n cymell pobl i ryfela, sef trachwant a balchder:

“They that have odds of power exact as much as they can, and the weak yield to such conditions as they can get” meddai un o’r Cadfridogion

Sgwrs a gafwyd 2,500 o flynyddoedd yn ôl ond sydd yr un mor wir heddiw ag ydoedd bryd hynny.

Yr hyn mae’r pwt yma yn ei ddweud wrthym ni yw mai nid cyrraedd man canol, nid cyfaddawdu na rhwystro drwg ydy diben rhyfel, ond yn hytrach mai trachwant sy’n gyrru pobl i ryfela.

Ond fe soniais am falchder hefyd. Yn yr un hanes cawn sôn am ynys Melos, ynys wladwriaeth oedd yn niwtral yn ystod y rhyfel tan i’r Atheniaid benderfynu ei ddifa.

Wrth drafod niwtraliaeth yr Ynys dyma’r Cadfridogion yn dadlau fod ei Niwtraliaeth yn arwydd o wendid Athen a fyddai yn ysbrydoli gwrthryfela ymhlith yr ynysoedd eraill. Dyma i chi feddylfryd y rhyfelgi – cryfder neu wendid; rheoli neu gael eich rheoli.

Ystyriwch sawl gwaith ydyn ni wedi clywed y ddadl yma yn ystod y ganrif ddiwethaf? Ystyriwch y rhyfel rhwng Israel a Phalesteina, gyda’r ddwy ochr yn dadlau y byddai rhoi consesiynau yn arwydd o wendid. Neu heddiw, wrth fod gwledydd yn trafod tynnu eu milwyr allan o Irac mae yna rybuddion gan bobl megis Ron Paul yn America y byddai hyn yn arwydd o wendid ac yn cryfhau Iran. Dyma’r ddadl a gafwyd ar Ynys Melos ddwy fil a hanner o flynyddoedd yn ôl yn cael eu hail adrodd heddiw. Mae technoleg wedi newid ond yr un yw’r gwendidau dynol.

Efallai fod y dosbarth gwleidyddol am i ni gredu fod yna resymau altrwistaidd a dyngarol dros ryfela ond daw’r gwir, unwaith eto, allan o enau y rhai hynny sy’n paratoi am ryfel: y Cadfridogion.

Sail llawlyfr pob milwr a byddin heddiw yw llyfr y Cadfridog Prwsiaidd Karl Von Clausewitz. Dyma i chi ddyn na drochodd ei ddwylo mewn gwaed erioed, ond a astudiodd symudiadau Napoleon a datblygu theoriau rhyfela sydd wedi dod yn rhan ganolog o’r addysg militaraidd ar draws y byd ers cyhoeddi ei lyfr arloesol, ‘Vom Kriege’ – ‘Y Rhyfel’ yn dilyn ei farwolaeth yn 1831.

O’r holl bethau a ddywed Von Clausewitz yn yn llyfr hwn, dyma beth saif allan i mi:

“War is . . . an act of force to compel our enemy to do our will.”

Dyma i chi onestrwydd ynghylch cymhelliant rhyfel allan o ddarn o waith Cadfridog o’r 19Ganrif sydd wedi dylanwadu byddinoedd ar draws y byd ers i’r llyfr gael ei gyhoeddi.

Fel y gwelwn felly mae rhyfel ar hyd hanes wedi bod yn fodd o orfodi ewyllys pobl ar eraill, ac yn ganlyniad i hunanoldeb a balchder dyn.

O wybod a deall yr hyn sy’n cymell rhyfela felly, beth yw heddychiaeth?

O ddeall mai gwraidd rhyfel yw hunanoldeb a balchder, sy’n cael ei amlygu yn yr awydd i orfodi ein hewyllys ar eraill trwy drais, ydy’r absenoldeb o ryfel, neu ymwrthod a chymryd rhan mewn rhyfel yn golygu ein bod yn byw mewn heddwch ac yn heddychwyr?

Na. Mae’n amlwg fod heddwch a heddychiaeth yn llawer mwy na hyn, mae’n golygu ymwrthod â balchder a hunanoldeb. Ond beth ydyn ni’n ei olygu wrth ddweud fod rhaid ymwrthod â hunanoldeb a balchder?

Mae’n golygu meddwl am eraill; meddwl sut y mae’n gweithredoedd ni yn mynd i effeithio ar eraill; hynny yw cymryd cyfrifoldeb dros ein gweithredoedd a thros eraill. Mae’n golygu y gallu i uniaethu gydag yr ‘arall’.

Mae hyn yn codi’r cwestiwn wedyn, beth sy’n ein gwneud ni’n heddychwyr? Beth sy’n diffinio ein heddychiaeth ni?  Ai ein hymwrthodiad o drais? Y ffaith nad ydyn ni wedi codi gwn neu ddwrn mewn dicter sy’n diffinio ein heddychiaeth?

Mae nifer o bobl wedi honni eu bont yn heddychwyr ar hyd y blynyddoedd. Gadewch i ni feddwl am rai enghreifftiau:

Efallai fod rhai ohonoch yn gyfarwydd â hanes y Blaid Lafur yn y Deyrnas Gyfunol. Roedd gan y Blaid Lafur Brydeinig, rhwng 1931 a 1935 o dan arweiniad George Lansbury, heddychwr Cristnogol, bolisi o heddychiaeth. Ond gyda phwysau yr Ail Ryfel Byd ymddiswyddodd Lansbury a chafodd Atlee ei ethol yn ei le gan ymuno gyda Churchill yn ystod y rhyfel. Byrhoedlog iawn oedd heddychiaeth aelodau’r Blaid Lafur wrth orfod wynebu llys barn gyhoeddus yn dilyn drymiau rhyfel 1939.

Rwy’n siwr fod pawb yn gyfarwydd â chyn Arlywydd yr UDA, Dwight D Eisenhower, un oedd yn galw ei hun yn heddychwr:

Every gun that is made, every warship launched, every rocket fired signifies, in the final sense, a theft from those who hunger and are not fed, those who are cold and are not clothed.

Meddai Ike, y dyn wnaeth fygwth defynddio arfau Niwclear yng Nghorea.

Yn wir roedd un o’i olynwyr Richard Nixon, a berthynai i enwad heddychol y Crynwyr, yn galw ei hun yn heddychwr er gwaethaf y ffaith ei fod yn rhyfela yn Vietnam.

Mae Bertrand Russell ac Albert Einstein yn enghreifftiau o bobl oedd yn galw eu hun yn Heddychwyr ond a gefnogodd ryfel.

Enghraifft cyfoes godidog yw Obama, enillydd gwobr heddwch Nobel a disgybl i Martin Luther King, ef sy’n gyfrifol am gynyddu’n arswydus y defnydd o’r adar angau (y ‘drones’ bondigrybwyll) a chaniatau ystyried pob un sydd yn cael eu lladd mewn ‘strike’ yn derrorist onibai y gellir profi’n wahanol – wedi iddynt gael eu lladd.

Nawr mae’r rhain yn engrheifftiau amlwg cyhoeddus o rywun neu rywrai yn arddel Heddychiaeth mewn adeg o heddwch ond yn cefnogi rhyfel mewn adeg o ryfel.

Yr oedd y mudiad heddwch yng Nghymru yn y 1930au, pan oedd fy Hen Nain Lys Thomas yn ysgrifennydd iddo ac yn cydweithio’n agos gyda Lewis Valentine, yn hynod llewyrchus. Pan gyhoeddwyd rhyfel yn 1939, diflannodd y gefnogaeth fel tarth y bore.

Y cwestiwn y mae’n rhaid i ni ofyn i’n hunen yw a ydyn ni hefyd yn euog o hyn? Neu i fod yn fanwl gywir i ba raddau ydyn ni’n euog o hyn ein hunen?

Ydyn ni’n galw ein hunen yn heddychwyr o gyfforddusrwydd sefydlogrwydd gwleidyddol?

Mae’r cwestiwn a ydyn ni’n byw mewn cyfnod o ryfel parhaol yn destun ar gyfer darlith arall rywbryd eto. Ond ar waethaf technoleg fodern, newyddiadurwyr sydd wedi eu ‘embedio’ gyda’r byddinoedd yn y meysydd rhyfel, a’r ffaith ein bod ni’n clywed sôn am ryfel drwy’r amser gellir yn hawdd credu ein bod ni yng ngorllewin Ewrop yn byw mewn cyflwr o lonyddwch a heddwch – does yna ddim dinistr rhyfel i’w weld o’n hamgylch, ac ychydig iawn ohonom ni sydd wedi profi erchyllderau maes y gad.

Ond dydy hynny ddim i ddweud nad oes yna ryfel, nac ychwaith ein bod ni yn rhan ohono ac yn yn cyfrannu ato.

Mae rhannau helaeth o Gymru eisioes wedi cael eu militareiddio, gyda’r dadlau yn parhau am ddatblygiadau Awyrennau di-beilot yn Aberporth a’r dadl ddiweddar fu ynghylch datblygu canolfan filwrol Sain Tathan, ac wrth gwrs yn ystod yr wythnosau diwethaf y ddadl ynghylch dod ag arfau Trident i Aberdaugleddau.  Rhaid hefyd wynebu’r cwestiwn o’n grym personol a’n defnydd o adnoddau personol i hyrwyddo a chefnogi rhyfeloedd, boed hynny drwy drethiant neu drwy’n adnoddau cyfalafol personol.

Mae’r materion Cymreig yma wedi rhoi heddychwyr Cymru mewn sefyllfa anodd iawn yn ddiweddar. I mi’n bersonol does yna ddim amwysedd yn perthyn i heddychiaeth – rydw i’n gwrthwynebu rhyfel a phob dim sy’n ymhel a rhyfel – mae hynny’n golygu gwrthwynebu datblygu Sain Tathan, Aberporth ac Aberdaugleddau.

Ond y ddwy brif ddadl sydd wedi cael eu cyflwyno o’u plaid yw’r rhain:

Y cyntaf yw rheidrwydd i gael dulliau amddiffyn rhag ofn y byddwn yn gorfod wynebu ymosodiad; a’r ail yw’r angen, yn enwedig yn yr oes sydd ohoni, i greu swyddi.

Gadewch i ni ddelio efo’r ddwy ddadl yma yn eu tro.

Yn gyntaf y cwestiwn o reidrwydd.

Ag eithrio awyrennau’r Luftwaffe, dim ond unwaith y mae llu ymosodol wedi dod yn agos at lannau’r Deyrnas Gyfunol ers i Jemima Niclas roi ofn i’r llu Ffrengig ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, a hynny oedd brywdyr y Malvinas/Falklands, 8000 o filltiroedd I ffwrdd o’r glannau hyn, yn 1982. Er hynny mae Prydain wedi cymryd rhan mewn degau o ryfeloedd ers yr ail ryfel byd yn cynnwys yn yr Aifft, Korea, Vietnam, Kosovo, Sierra Leone, Irac, Affganistan, Lybia a nifer o rai eraill, gan wario yn agos i £63bn ar filitariaeth yn 2011 yn unig a thriliynnau o bunnoedd dros y blynyddoedd – neu oleiaf dyma’r wybodaeth sy’n gyhoeddus ac yn cael ei gydnabod yn wariant militaraid, dydi hyn ddim yn cynnwys gwariant an-uniongyrchol megis cymorth milwrol I wledydd eraill sy’n prynu arfau o gwmniau Prydeinig.. Erbyn hyn wrth gwrs mae iaith a phropoganda rhyfel wedi newid. ‘Adran amddiffyn’ sydd ganddo ni heddiw yn talu am ‘luoedd heddwch’. Dyma i chi Orwell ar ei orau, ‘War is Peace’!

Y pwynt yma yw nad oes yna reidrwydd dros gael lluoedd arfog. Dydy rhyfel ddim yn anochel – yn wir Prydain sydd wedi profi ei hun i fod yn ‘aggressor’ yn amlach na pheidio ond eto mae gwario a militareiddio yn parhau. Dywed rhai mai’r gallu milwrol yma sy’n ein gwarchod rhag ymosodiadau, dyma oedd ateb gwych yr economegydd Seymour Melman, oedd ddim yn cyfri ei hun yn heddychwr gyda llaw, i hynny:

“Now that we have 6 tons of TNT per person in our strategic missiles and aircraft alone have we become more secure than when we had only 1 ton of TNT per human being on earth?”

Gan mai lluoedd amddiffyn sydd ganddom ni yn gwneud beth a elwir yn waith cadw heddwch, ry’m ni’n gweld pob mathau o resymau yn cael eu creu er mwyn cyfiawnhau rhyfeloedd heddiw. Yn wir mae rhyfel yn cael ei gyflwyno fel rhywbeth anochel –

  • mae Affgaistan wedi cael llwyth o resymau yn cyfiawnhau’r rhyfel yno: Al Qaeda, Opiwm, y Taliban – pob un yn eu tro yn cyfiawnhau’r defnydd o drais trwy ddweud ei fod yn anochel;
  • taflwch eich meddyliau yn ôl ddeng mlynedd a’u dadleuon ynghylch irac. Roedd rhyfel bryd hynny yn anochel oherwydd fod Saddam, yn ôl y Dodgy Dossier, o fewn deugainn munud i danio taflegrau at luoedd Prydain yng Nghyprus;
  • yn Lybia doedd dim dewis arall ond defnyddio grym trais, roedd rhyfel yno’n anochel, oherwydd pe na byddai NATO wedi eu bomio yna byddai Qhadafi wedi mynd ati a lladd degau o filoedd o bobl;
  • ac wrth gwrs mae defnyddio grym trais yn gwbl anochel yn y rhyfel yn erbyn terfysgaeth, cyflwr parhaol sydd yn bodoli yn sgil polisiau’r wladwriaeth sy’n ymladd y rhyfel honno!

Ond sylwch bob tro mae yna gyfiawnhad am ryfel mae yna sôn am ‘reidrwydd’, neu ‘Last Resort’. Erbyn y ‘last resort’ wrth gwrs, mae’n anochel.

Yn y blynyddoedd diwethaf y person a ddefnyddiodd y cyfiawnhad yma fwyaf effeithiol oedd y cyn Brif Weinidog Tony Blair. Doedd Blair ddim yn gweld pwynt o gael sefydliadu rhyngwladol os nad oeddynt yn barod i ddefnyddio grym. Rhan canolog o feddylfryd Blair oedd yr angen i gefnogi diplomatiaeth gyda grym milwrol.

Lluniodd Blair set o reolau ar gyfer defnyddio grym:

  • “Ydyn ni’n siwr o’n hachos?”
  • “Ydy pob opsiwn diplomataidd wedi cael eu defnyddio’n llawn?”
  • “Ydy’r opsiwn militaraidd yn cynnig amcanion cyrhaeddiadwy a doeth?”
  • “Ydyn ni’n barod i fod yn rhan o hyn am y tymor hir, yn cynnwys yr ail-adeiladu?”
  • “Ydy ein buddianau cenedlaethol yn rhan o hyn?”

Sylwer y cwestiwn y mae’n ofyn ynghylch opsiynau diplomataidd:

  • Ydy pob opsiwn diplomtaidd wedi cael eu defnyddio’n llawn?

Dyma i chi set o feini prawf wedi eu llwytho os fuodd yna erioed! Gall unrhywun, heb son am wleidydd craff o gefndir cyfreithiol, lunio atebion positif i ffitio’r meini prawf hyn er mwyn adeiladu achos i gyfiawnhau rhyfel.

Yr hyn yr oedd Blair yn ceisio’i wneud oedd yr un peth y mae pob Cristion rhyfelgar arall ar hyd hanes wedi ceisio’i ei wneud, sef sgwario’r cylch rhwng arddel Cristnogaeth ar yr un llaw a chefnogi rhyfel ar y llaw arall. A bob tro mae’n nhw’n dod yn ôl at y syniad yma nad oes opsiwn arall, ac fod rhyfel yn anochel.

Wrth gwrs, mae’r ddadl yma’n un ffals. Does neb a ŵyr beth fydd a does neb a ŵyr beth allai fod.

Mae’n dilyn felly nad yw rhyfel byth yn anochel, hebalw fod dyn yn ei ewyllysio.

Gadewch i ni feddwl am eiliad am y rhyfel enwocaf yn y ddegawd diwethaf, sef rhyfel Irac. Roedd y rhyfel yn anochel yn ôl y rhyfelgwn oherwydd y gallau Saddam ddefnyddio WMD’s a saethu taflegrau at luoedd Prydain yng Nghyprus. Dyma ymgais fwriadol gan Blair i greu sefyllfa lle’r oedd rhyfel yn cael ei weld yn anochel.  Oherwydd, i rywun sydd ddim yn heddychwr mae rhyfel a’r defnydd o drais yn rywbeth anochel – y ‘last resort’. Y gwahanaieth yw ble mae rhywun yn tynnu’r llinell.

Mae’r cefnogwyr rhyfel o hyd yn trafod am bethau na ŵyr neb yn eu cylch, ac nad oes posib ei wybod – beth sydd o’n blaenau a beth fyddai wedi bod pe bai pethau wedi bod yn wahanol. Does neb a ŵyr, ac eto, dyma un o’r dulliau mwyaf effeithiol o hyrwyddo rhyfel a chreu darlun o sefyllfa anochel:

“Let’s imagine the future.” Meddai Clinton yn 1998. “What if [Saddam] refuses to comply, and we fail to act, or take some ambiguous third route? . . . Well, he will conclude that the international community has lost its will. He will then conclude that he can go right on and do more to rebuild an arsenal of devastating destruction. And some day, i guarantee you, he’ll use the arsenal.” Cyn mynd ati a bomio trefi a dinasoedd irac.

Ond ry’n ni’n gwybod nad ydy rhyfel yn gorfod bod yn anochel, fel y soniais ynghynt ry’n ni’n delio gyda phethau sydd ddim yn bodoli, sydd eto i ddod. Yn rhyfedd ddigon fe gawn ni dystiolaeth o hyn gan un o brif ladmeryddion rhyfel Irac, Donald Rumsfeld:

“There are known knowns; there are things we know we know. We also know there are known unknowns,”

Dyma i chi gydnabod na wyr neb beth ddaw yfory, ond eto mae rhyfel yn anochel oherwydd y ‘beth os…’.

Mae diweddglo trist yr hanes wrth gwrs yn adleisio rhybudd hanes Oedipus: roedd rhyfel yn anochel oherwydd fod rhai am iddo fod yn anochel. Canlyniad dymuniad ac ewyllys y pwerus cyfoethog yw rhyfela, nid canlyniad i rymoedd anelwig y ‘beth os…’ Ond mae Duw wedi ein gwneud yn bobl o ewyllys rydd, a gall rhyfel felly byth a bod yn anochel.

Yr ail ddadl y os gofiwch chi yw’r un am swyddi.

Dyma’r ddadl a gyflwynwyd gan ein prif Weinidog Carwyn Jones rai wythnosau yn ôl pan soniodd am y posibilrwydd o gael lluoedd niwclear Prydain i ddod i Aberdaugleddau, gan honni y byddai’n creu 6,000 o swyddi – dadl sydd, gyda llaw, yn hollol anghywir gan y byddai’n fwy tebygol o achosi colli swyddi oherwydd yr angen i gau terminalau nwy ac olew y porthladd, ond dadl arall yw honno.

Y ddadl hon am swyddi a gyflwynwyd wrth ddatblygu Parc Aberporth a chroesawi cwmni creu Arfau QinetiQ yno. Ac wrth gwrs dyma’r ddadl a gaed ynghylch Sain Tathan, sef y posibilrwydd o greu miloedd o swyddi.

Ond dyw hon chwaith ddim yn ddadl newydd. Mae’n un sydd wedi cael ei chyflwyno ar hyd y canrifoedd fel cyfiawnhad dros filitareiddio. Ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg fe ysgrifennodd yr Aelod Cynulliad ac economegydd Ffrengig, Frederic Bastiat, draethawd enwog, efo’r teitl Ce qu’on voit et ce qu’on ne voit pas – Yr hyn a welir a’r hyn nas welir – cyd-ddigwyddiad ffortunus wrth feddwl am ddyfyniad Donald Rumsfeld ynghynt!

Ym mhennod cyntaf y traethawd mae Bastiat yn adrodd dameg y ffenest a dorrwyd.

Efallai fod nifer ohonoch yn gyfarwydd a’r ddameg hon, sy’n son am fab i berchennog siop yn taflu pêl ac yn torri un o’r ffenestri. Mae tystion y digwyddiad, er yn cydymdeimlo a’r perchennog siop, yn dweud fod yr anffawd mewn gwirionedd yn gyd-ddigwyddiad ffortunus gan y bydd y gwneuthurwr ffenestri ar ei ennill o’r busnes a ddaw yn sgîl yr angen i ddarparu ffenest newydd i’r siop. Ond, meddai Bastiat, mae’r theory yma’n un ffals, oherwydd mae’n gyfyngedig i‘r hyn a welir yn unig, sef y ffaith fod y gwneuthurwr ffensetri am fod ar ei ennill. Yr hyn nas welir yw beth byddai’r perchennog siop wedi ei wneud efo’r arian pe na fyddai angen prynu ffenestr newydd arno. Efallai ei fod wedi bwriadu prynu pâr o esgidiau newydd. Yn yr achos hynny y crudd fyddai wedi bod ar ei ennill. Ond rydyn ni, fel y sylwebwyr yn ei ddameg, yn euog o weld y budd a ddaw i’r gwneuthurwr ffenstri o ddinistr y ffenest siop yn unig, gan fethu a gweld yr hyn y gellir fod wedi ei wneud gyda’r arian. Bwrdwn neges Bastiat yw mai casglaid sylwebwyr diog yw fod dinistr yn dod a budd economaidd. O safbwynt y perchennog siop mae Bastiat yn nodi ei fod ef ar ei golled yn llwyr. Lle yn flaenorol gallai fod wedi bod gyda ffenestr gyflawn a phâr o esgidiau newydd (a’r budd economaidd a chymdeithasol a gyddai wedi dod I’r crudd) nawr dim ond ffenestr sydd ganddo. Mae llai o gyfoeth yn yr economi, ac o ganlyniad mae cymdeithas ar ei cholled.

Mae’n anallu ni i weld y tu hwnt i’r hyn sy’n amlwg yn creu’r argraff fod dinistr – rhyfel – yn weithred broffidiol, yn elwa cymdeithas.

Mae hyn yn wir heddiw wrth gwrs, gyda dadleuon yn cael eu cyflwyno drosodd a thro ynghylch lles economaidd militareiddio, â’r budd a ddaw yn ei sgîl yn rhoi gwaith i bobl a bwydo arian i’r economi. Mae hyn oll yn ein dallu gyda’r hyn a welir – fel ceffyl gyda blinceri, tra’n cuddio’r amryw bosibiliadau eraill gallau ddatblygu drwy fuddsoddi’r arian ar weithgareddau eraill.

Mae Bastiat yn mynd ymlaen wedyn i ddisgrifio senario ddychmygol gyda byddin o 100,000 o filwyr Ffrengig yn cael eu ‘di-mobio’. Mae hyn, meddai, yn codi arswyd ar bobl – beth am fywoliaeth y milwyr? Beth am y buddsoddiad y mae busnesau yn elwa ohono wrth i’r fyddin wario ar ddillad, gwin, ac arfau ar gyfer y dynion yma? Byddai di-mobio – dad-filitareiddio – yn handwyo’r economi ac yn golygu colli nifer fawr o swyddi yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol yw’r gri. Canlyniad trafodaeth o’r fath, meddai, yw pleidlais gan y gwleidyddion i gadw’r fyddin a pheidio a’u ‘di-mobio’ am resymau economaidd.

Dyma, unwaith yn rhagor, enghraifft o bobl yn ystyried yr hyn a welir yn unig. Mae yna fethiant eto fyth i sylweddoli fod yr arian a gymerwyd fel treth i gefnogi’r milwyr bellach ar gael i’w ddefnyddio ar gyfer dibenion eraill. Yn ogystal a hyn, yn lle cael grŵp o weithwyr anghynhyrchiol yn martshio yn ôl ac ymlaen gan droi i’r chwith ac yna ‘r dde, sef yr hyn y gwna y fyddin, yn hytrach na hyn mae’r gymdeithas ar ei helw o gael pobl cynhyrchiol unwaith yn rhagor, yn defnyddio eu llafur i greu pethau.

Mae’r darnau yma o waith Frederic Bastiat yn gwbl berthnasol i ni yma heddiw, gyda Llywodraethau ar draws y byd yn hawlio fod y sector amddiffyn – rhyfela i chi a fi – yn llesol i’r economi ac y nein dallu gyda tystiolaeth o’r swyddi a greur trwy filitareiddio.

Ond diolch byth mae eraill wedi gwneud gwaith rhagorol yn dangos i ni nad yw hyn yn wir.

Yn eu plith mae economegwyr o’r Unol Daleithau sydd wedi edrych i mewn i effeithiau economaidd gwariant milwrol.

Mae eu hymchwil yn dangos fod creu arfau yn defnyddio gymaint o gyfalaf fel y byddai gwario’r cyfalaf – yn arian, amser a phobl – ar wneud ymron i unrhyw beth arall yn creu fwy o swyddi.

Mae gwaith Marion Anderson, er enghraifft, fu’n edrych ar wariant arfogaeth yn yr Unol Dalaethau yn yr 1970au, yn dangos fod gwario militaraidd yn creu cyflogaeth negyddol gyda’r cyfle i greu dros 800,000 o swyddi wedi ei golli mewn cyfnod o bedair mlynedd yn unig oherwydd y buddsoddiad anfertho mewn militariaeth. Hynny yw gellir fod wedi defnyddio’r un adnoddau a roed I filitareiddio yn y cyfnod hynny at ddibenion eraill a chreu 800,000 yn fwy o swyddi o ganlyniad.

Yn ôl yr economegydd RP Smith, a astudiodd wariant milwrol yn y gwledydd gorllewinol rhwng 1953 ac 1973:

The empirical evidence…suggests that military expenditure imposes a substantial burden. Among the advanced capitalist nations high military expenditure is associated with much lower investment, lower growth, and higher rates of unemployment.

Dyma ddangos felly, yn groes i bob rhethreg gwleidyddol, nad yw dinistr na pharatoi at ryfel yn creu swyddi uniongyrchol. Mae Rhyfel a chanlyniad rhyfel YN cyfoethogi rhai criw dethol o bobl – y rhai hynny er enghraifft a gafodd gytundebau olew Irac; y rhai hynny gafodd reolaeth ar ddŵr danddaearol Lybia, ond nid yw gwario ar filitariaeth yn elwa’r wladwriaeth na’r bobl gyffredin.

Yn wir dyma ddywedodd y Wall Street Journal yn 1980:

“‘Defense spending…. is the worst kind of government outlay, since it eats up materials and other resources that otherwise could be used to produce consumer goods.”

Ond nid colled arianol sydd gennym yn unig. Os feddyliwn ni yn ôl at stori’r Lleng Ffrengig gan Bastiat, fe welwn fod cymdeithas hefyd ar ei cholled drwy golli gwaith a gallu y bobl sy’n ymwneud a militariaeth.

Dywedodd yr economegydd Seymour Melman ei fod yn amhosib i ddyn weithio ar Gomisiwn Ynni Atomig a bod yn Feddygon o dan hyfforddiant yr un pryd; fedran nhw ddim dysgu plant a chynllunio darnau ar gyfer arfau, meddai, mewn atsain o’r neges Gristnogol na all dyn wasanaethu Duw a Mamon. Nododd Melman fod hyd at 30% o holl wyddonwyr a pheirianwyr America yn gweithio o fewn sefydliadau militaraidd pan oedd y Rhyfel Oer yn ei anterth.

Gwnaeth Melman ymchwil trwyadl i wariant militaraidd yr Unol Daleithiau drwy gydol y Rhyfel Oer. Roedd hyfforddi un peilot milwrol yn costio hyd at $7m. Dros gyfnod o ddwy flynedd roedd car cyffredin yn America yn defnyddio’r un faint o dannwydd a’r hyn oedd awyren hyfforddi F16 yn ei ddefnyddio mewn llai nag awr; mae’r ystadegau am ddefnydd y fyddin o fineralau ac ynni yn frawychus – er engharifft gallai defnydd y Pentagon o ynni mewn un flwyddyn yrru holl gerbydau torfol mawr yr UDA am yn agos i 14 mlynedd.

A beth am arfau niwclear? Arfau sydd yn costio biliynau o bunnoedd i’w datblygu a’u cadw? Biliynau a allai fynd i ddatblygu ysbytai ac ysgolion ac sy’n cynnal ychydig iawn o swyddi. Nid af i sôn am foesoldeb y fath arfau – mae eu ffieidd-dra yn amlwg ddigon i bawb sy’n dilyn ffordd Iesu.

Felly mae’r gwariant yma ar filitariaeth yn aneffeithiol o ran creu swyddi; yn cymryd adnoddau cyfyngedig oddi ar anghenion eraill; ac yn hynod niweidiol i’r amgylchedd, ond meant hefyd yn ddinistriol ac yn golygu fod angen defnyddio’r ychydig adnoddau prin sydd ganddom ni I ail-adeiladu yn lle defnyddio’r adnoddau yma at ddibenion gwâr.

“…whatever else you can do with a nuclear-powered submarine that is almost as long as two football fields” Meddai Melman… “you can’t wear it, you can’t live in it, you can’t travel in it, and there’s nothing you can produce with it.”

Mae hon wrth gwrs yn neges amserol iawn i’n Prif Weinidog ni ym Mae Caerdydd heddiw.

Efallai mai Ruth Sivard, economegydd arall o’r Unol Daleithau, a grynhodd hyn orau pan ddywedodd:

“The most obvious price of the world’s arms race, represented by trillions of dollars in taxes and public debt, is only a small fraction of the real cost. The real cost—on which no final price can be set— is in opportunities lost, the burden of material neglect, social alienation and upheaval, lives wasted in wretched poverty.”

Gan dderbyn hyn oll serch hynny, mae yna un ffactor pwysig wedi mynd ar goll. Pwy sy’n talu? Arian pwy yw’r arian mawr yma sy’n cael ei wastraffu ar filitariaeth?

Ein harian ni. Ein dewis ni. Ni, yn y pen draw, sy’n gyfrifol.

A daw hwn a fi at yr ystyriaeth olaf wrth i ni feddwl am ein cyfrifoldebau ni fel heddychwyr yng Nghymru heddiw.

Fe gofiwch i mi ofyn ar ddechrau’r ddarlith i ba raddau ydyn ni’n euog o fod fel Bertrand Russell, neu ike Eisenhower, yn arddel heddychiaeth yn gyhoeddus tra’n milwrio yn ei erbyn yn ein bywyd bob dydd.

Pa innau ydyn ni’n ymwybodol neu’n gwbl anymwybodol o’r peth, mae ein gweithgareddau dyddiol ni hefyd yn cyfranu at ryfeloedd a dioddefaint ar draws y byd, sydd yn golygu ein bod ni yn rhan o’r gadwyn.

Faint ohonom ni sy’n defnyddio ffonau symudol; gliniaduron; iPad’s ac yn y blaen?

Er mwyn i’r peiriannau yma fedru gweithio mae’n rhaid iddyn nhw wrth fwyn arbennig iawn – mwyn o’r enw Coltan. Mae Coltan i’w gael mewn amryw o wledydd – Canada, Brazil, Awstralia ac eraill, ac mae’n fwyn drud iawn i’w gynhyrchu. Ond mae hefyd i’w ddarganfod yng nghornel arall o’r byd sydd â hanes trist iawn iddi, seg Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo.

Mae dros 4 miliwn o bobl wedi cael eu lladd yn y rhan yma o’r byd ers 1999 â’r rhyfela yn parhau hyd heddiw, a hynny yn rhanol oherwydd Coltan. Mae’r mwyn yn cael ei fwyn gloddio yn anghyfreithlon yno a’i smyglo allan, gyda byddinoedd yn rheoli’r gweithfeydd ac yn achosi dinistr ar raddfa anferthol i deuluoedd a chymunedau â phlant yn cael eu gorfodi i ryfela a lladd, a’r cyfan er mwyn medru cynhyrchu Coltan rhad sydd yn ei dro yn arianu gweithgareddau erchyll y byddinoedd yno. Mae sawl cwmni yn cael eu cyhuddo o fod yn rhan o’r gadwyn sydd yn delio ac yn gwerthu’r coltan budr yma, ond ar ben draw y gadwyn y mae cwmniau yr ydyn ni’n gyfarwydd iawn a nhw: Nokia, Motorola, Compaq, Alcatel, Dell, Hewlett-Packard , iBM, Lucent, a Sony yn eu plith.

Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan y Cenhedloaedd Unedigy y cwmnioedd yma yw “peiriant y brwydro yng NgDyC”.

Mae pobl y Congo wedi gorfod talu pris drud iawn er mwyn i ni fedru cael offer cyfrifiadurol rhad. Ni sy’n helpu arianu y rhyfeloedd a’r erchyllterau yma drwy ein hawydd parhaol am offer rhad.

Beth am ein banciau? Rydym ni wedi clywed straeon di-rifedi am anfoesoldeb ein bancau wrth gamddefnyddio ein harian. Pan fo’n dod i gamddefnydd o’n hadnoddau personol ni rydym yn llafar iawn ein cloch, yn enwedig yn ddiweddar, ond faint ohonom ni’n sy’n gwybod am weithgareddau eraill anfoesol y banciau?

Mae HSBC er enghraifft, un o fanciau mwyaf y byd, yn elwa yn sylweddol o weithgareddau rhyfel. HSBC gafodd gytundeb i droi banc Dar es Salaam yn Irac i fod yn fanc preifat cyntaf y wlad yn dilyn y rhyfel yno – cwmni gorllewinol yn gwneud elw ar drail yr Iraciaid. Mae HSBC, fel Barclays, RBS, HBOS a’r holl is-fanciau sydd ynghlwm â nhw yn buddsoddi’n helaeth mewn cwmniau militaraidd megis BAe Systems a Qinetiq – sy’n datblygu’r awyrennau di-beilot yn Aberporth; neu Lockheed Martin a Raytheon sy’n datblygu bomiau clwstwr, ynghyd â chwmniau eraill sy’n bodoli er mwyn bwydo rhyfeloedd.

Yn wir mae pob un o’r prif fanciau yn elwa ar drail rhyfel a dioddefaint eraill.

Yna mae ein pensiynau. Tan yn ddiweddar iawn roedd Prifysgol Aberystwyth yn buddsoddi yng nghwmniau megis BAe Systems a Raytheon, a phensiynau’r staff yno’n yn elwa yn sgil hyn. Chwarae teg i’r Brifysgol fe newidion nhw eu polisi yn ddiweddar i fod yn un fwy moesol. Ond dim ond un enghraifft yn unig oyw hyn o gwmniau Cymreig sydd wedi bod yn byddsoddi arian penswin eu gweithwyr mewn cwmniau sy’n achosi dinistr a dioddefaint.

Mae cwmniau megis Shell ac Exxon Mobil yn elwa yn sylweddol o’r rhyfel cartref erchyll sy’n cael ei frwydro yn Nigeria ar y foment, heb son wrth gwrs am y lladd a’r dioddefaint nas gwyr neb amdanynt yng ngwledydd canoldir Asia – Kazakhstan, Uzbekistan, Tajikistan er mwyn naill ai cael rheolaeth o’r cyfoeth o adnoddau naturiol gwerthafwr sydd yno neu er mwyn cael eu cludo dros eu tiroedd i orllewin Ewrop. Yn wir olew yw un o’r adnoddau sydd wedi achosi’r nifer mwyaf o drafferth yn ein byd yn ddiweddar.

Efallai y bydd rhai ohonoch yn cofio’r son am gyflafan Darfur ychydig flynyddoedd yn ôl. Dyma dystiolaeth dirdynol Mirian:

“They took the men and killed them. My husband disappeared – i don’t know what happened to him. They took all the boys from their parents and murdered them. My baby boy was thrown on te fire in front of me. My daughter was older. They thought she was a boy so they slaughtered her too – they snapped her neck like a chicken. Some of the children they threw down a well.”

Hyn oherwydd y brwydro ffyrnig yn Narfur er mwyn cael rheolaeth a pherchnogaeth yr olew, yn yr achos yma olew ar gyfer China, ond wrth gwrs China yw ffatri y byd.

Dim ond detholiad bychan iawn yw hyn o’r ffordd yr ydyn ni’n cyfranu at arianu rhyfeloedd a dioddefaint ar draws y byd o ddydd i ddydd trwy ein cefnogaeth weithiau yn uniongyrchol ond yn aml yn anuniongyrchol o gwmniau sy’n elwa o ryfel er mwyn bwydo ein trachwantau ni.

Ond rydyn ni’n ddall i’r cyfan. Yn rhanol oherwydd ei fod yn anghyfleus ac nad ydyn ni eisiau gwybod; yn rhanol oherwydd fod ein Llywodraethau, y cyfryngau, yr awdurdodau sy’n cynnal ein cymdeithas yn ‘complicit’ hefyd; ac yn rhanol oherwydd fod y cwmniau yma yn gwneud eu gorau glas i guddio’r wybodaeth oddi wrthym. Gan wybod felly fod hyn yn digwydd yr her i ni heddiw yw ceisio ein gorau I sicrhau nad ydyn ni’n rhan o’r gadwyn ryfelgar yma.

Ar ddechrau’r ddarlith fe soniais mai’r cymhelliad y tu ol i ryfel yw hunanoldeb a balchder. Rhaid cadw hyn mewn cof bob tro ein bod ni’n clywed am ryfel, a gofyn beth yw’r gwir reswm dros y rhyfel yma, y tu hwnt i’r hyn sy’n amlwg ac yn cael ei dwdeud i ni gan y rhai hynny sydd a diddordeb hunanol yn y rhyfel. Efallai y byddai’n well cadw mewn cof y dyfyniad o’r ffilm All The President’s Men, pan ddywedodd y Swyddog o Lywodraeth Richard Nixon y linell anfarwol honno “Follow The Money”.

Beth ydyn ni i’w wneud felly? Rhaid gwneud rhywbeth wedi’r cwbl! Os ydyn ni o ddifri am ddilyn llwybr tangnefedd a gweithio dros heddwch rhaid i ni yn gyntaf beidio aros yng nghyfforddusrwydd pellter gan feiriniadu o’r gader glud o flaen y teledu. Mae’n hawdd colli deigryn wrth weld plant sy’n edrych yn wahanol iawn i ni yn dioddef mewn rhyw wlad bellenig ar ein teledu, a beuo’r llywodraeth pell, neu ddyfyrio rhyw un-ben dieithr. Nid heddychiaeth mo hynny. Ond yn hytrach rhaid i ni newid ein harferion a gwneud yr hyn sydd o few nein gallu i ddod a heddwch i’r byd. Gall hyn olygu newid ein pleidlais adeg etholiad i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwrthwynebu militareiddio a rhyfel; gall olygu defnyddio ein grym economaidd unigol yn well – newid banciau, prynu nwyddau gwahanol; gall olygu unrhyw nifer o bethau sydd, efallai yn debygol o achosi niwsans bach i ni ond all olygu achub bywyd rhywun arall.

Rwy am orffen y ddarlith trwy ein hatgoffa o’r dyn mawr sydd wedi ein hysbrydoli i fod yma heddiw, a’n hatgoffa o neges oedd yn ganolog i’w genhadaeth ef.

Wrth baratoi ar gyfer y ddarlith hon fe ddoes i ar draws llyfryn a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas Heddwch hon nol yn 1986, ac a etifeddais innau ar ol marw Tadcu. ‘Lewis Valentine yr heddychwr’ oedd y teitl – sef darlith Pryderi Llwyd Jones i’r Gymdeithas hon 26ain mlynedd yn ol.

Ynddo mae Pryderi yn dweud hyn:

“Un o allweddeiriau Lewis Valentine, a gair allweddol yn y beibl hefyd, yw ‘Cyfrifoldeb’. Cyfrifoldeb: yr hyn a roddodd Duw i Ddyn a’r hyn y gwrthododd dyn ei dderbyn. Cyfrifoldeb: yr hyn a gafodd dyn am ei gyd-ddyn, a’r hyn a methodd ei gyflawni.”

Ac mae’n mynd ymlaen i esbonio sut oedd Lewis Valentine yn ddyn oedd yn derbyn ei gyfrifoldebau.

I mi dyma yw sylfaen heddychiaeth unrhyw berson. Mae’n neges sydd mor bwysig i’r Cristion fel ei fod yn cael ei ddweud ddwy-waith ym mhenodau cyntaf llyfr cyntaf y Beibl.

Gadewch i ni atgoffa ein hunen:

Genesis 3-8

“A chlywsant swn yr Arglwydd Dduw yn rhodio yn yr ardd gyda hwyr y dydd, ac ymguddiodd y dyn a’i wraig o olwg yr Arglwydd Dduw ymysg coed yr ardd. (9) Ond galwodd yr Arglwydd Dduw ar y dyn, a dweud wrtho, “Ble’r wyt ti?” (10) Atebodd yntau “Clywais dy swn yn yr ardd, ac ofnais oherwydd fy mod yn noeth, ac ymguddiais.” (11) Dywedodd yntau, “Pwy a ddywedodd wrthyt dy fod yn noeth? A wyt ti wedi bwyta o’r pren y gorchmynais i ti beidio ohono?” (12) A dywedodd y dyn, “Y wraig a roddaist i fod gyda mi a roes i mi ffrwyth y pren, a bwyteais innau.” (13) Yna dywedodd yr Arglwydd Dduw wrth y wraig, “Pam y gwnaethost hyn?” A dywedodd y wraig, “Y sarff a’m twyllodd, a bwyteais innau.”

Yna yn y bennod nesaf:

Genesis 4

(9) Yna dywedodd yr Arglwydd wrth Cain, “Ble mae dy frawd Abel?” Meddai yntau, “Ni wn i. Ai fi yw ceidwad fy mrawd?”

Mae cymryd cyfrifoldeb yn greiddiol i neges yr Efengyl. Wrth ryfela rydyn ni’n rhoi ein hunain yn gyntaf a hynny ar drail lles eraill gan wrthos ein cyfrifoldeb drostyn nhw.

Mae ffugurau trist rhyfel yn dyst i hynny. Yn yr ugeinfed ganrif yn unig lladdwyd tua 100,000,000 o bobl o ganlyniad uniongyrchol i ryfel – dros 60,000,000 ohonyn nhw’n ‘non-combatants’, neu i ddefnyddio’r term ffiaidd cyfoes – ‘collateral damage’.

Ond rydyn ni’n Heddychwyr. Chwaraeson ni ddim rhan yn y rhyfeloedd yma. Yn wir fe wnaethon ni y peth yn ddigon clir ein bod ni yn eu gwrthwynebu. Mae ganddon ni hyd yn oed sticer car CND i brofi ein heddychiaeth! Gall neb amau ein hymroddiad ni i heddychiaeth. Na?

Yntau gadewch i ni ofyn i’n hunain pwy ran ydw i’n chwarae yn y dioddefaint sydd yn y byd a beth fedra i ei wneud i’w stopio? Wrth brynu ein moduron, dillad, offer trydanol, bwyd, ac ati ydyn ni’n siwr nad yw’r elw yn mynd i arianu rhyfel neu ddioddefaint. Wrth i ni symud ein harian o un gyfrif banc i’r llall er mwyn cael gwell llog, ydyn ni’n gwybod pwy sy’n talu am y llog hwnnw a sut?

Ai Bertrand Russell arall ydym yn gwisgo heddychiaeth fel bathodyn gwleidyddol, ond yn barod iw ddi-arddel pan yn anghyfleus? Yntau ydyn ni’n fodlon cymryd cyfrifoldeb dros ein gweithredoedd a thros ein brodyr a’n chwiorydd?

“Fy mrodyr, pa les yw i ddyn ddweud fod ganddo ffydd, ac yntau heb weithredoedd? A all ei ffydd ei achub ef? Os yw brawd neu chwaer yn garpiog ac yn brin o fara beunyddiol, ac un ohonoch yn dweud wrthynt, “Pob bendith ichwi; cadwch yn gynnes a mynnch ddigon o fwyd”, ond heb roi dim iddynt ar gyfer rheidiau’r corf, pa les ydyw? Felly hefyd y mae ffydd, os nad oes ganddi weithredoedd, yn farw ynddi ei hun.”

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.