Haint: achos govid neu obaith?

Mae’n hawdd iawn meddwl fod pob dim yn mynd i ddifancoll.

Sylw cyffredin iawn, yn enwedig gan y genhedlaeth hyn, ydy, ‘Dydy pethau ddim fel ag yr oedd’, neu fod pethau yn gwaethygu yn y byd.

Mae newyddion drwg yn ein hamgylchynu beunydd – rhyfeloedd, ymosodiadau, lladradau a llu o bethau eraill.

Y diweddaraf i achosi pryder byd eang ydy Covid-19/Coronafeirws.

Yng nghanol y argyfwng yma rydym wedi gweld hunanoldeb rhai wrth iddynt barhau a’u bywydau gan fygwth iechyd eraill, gyda rhai yn dweud yn glir nad ydynt yn poeni am eraill gan eu bont hwy yn iawn.

Ond gadewch i ni gymryd cam yn ôl am enid.

Er gwaethaf penawdau newyddion negyddol, mae llai o bobl yn cael eu lladd mewn rhyfeloedd y dyddiau hyn nag unrhyw adeg arall yn ein hanes. Mae llai o lofruddiaethau. Mae fwy o fabanod yn goroesi eu blwyddyn cyntaf o fodolaeth. Mae mwy o famau yn goroesi genedigaeth plant. Mae pobl yn byw yn llawer hŷn. Mae gennym bob mathau o feddyginiaethau ar gyfer llu o afiechydon. Mae gallu pobl wedi datblygu technoleg i rybuddio pobl am tswnamïau, daeargrynfeydd, a chorwyntoedd.

Hyd yma, wrth i Covid-19 ledu ar draws y wlad, mae’n wir dweud ein bod wedi gweld sawl enghraifft o hunanoldeb a ffolineb pobl.

Ond…

Ystyriwch pam fod pob gwlad ar wyneb daear, pob llywodraeth, a’r rhan helaethaf o bobl y byd yn cymryd y camau eithafol yma? Camau sydd yn sicr o niweidio economïau pob gwlad; camau sydd yn golygu fod pobl am weld safon bywyd yn dirywio am gyfnod; hyn oll a mwy… pam ein bod ni’n gwneud hyn?

Yn syml rydym yn gwneud hyn er mwyn achub bywydau.

Yn ystadegol bydd y rhan halaethaf ohonom yn berffaith iawn. Canran bach iawn fydd yn dioddef, a chanran llai fyth fydd yn marw, sef, yn ôl yr arbenigwyr, y rhai mewn oedran neu sydd efo afiechyd arall.

Dyma’r bobl, mewn oes a fu, a fyddai wedi cael eu gadael i farw neu eu halltudio. Dyma’r bobl sy’n cael eu cyfeirio atynt gan rai fel pobl ‘aneconomaidd’ sydd ddim yn cyfrannu’n economaidd at gymdeithas.

Ond yn yr argyfwng yma mae dynoliaeth ar draws y byd yn cymryd camau eithriadol i geisio gwneud yn siŵr fod cyn lleied o bobl a phosib am ddioddef.

Mae’n hawdd meddwl fod y byd yn mynd a’i ben iddi. Ond, er gwaethaf y argyfwng presennol, mae’r ffaith fod gwladwriaethau ar draws y byd yn cymryd y camau eithafol yma i achub bywydau yn fy llenwi a gobaith.

Dyma ddynoliaeth ar ei orau, yn gweithio er mwyn achub bywydau pobl na fyddwn byth yn eu hadnabod.

Mae dynoliaeth, ar ei orau, yn beth hardd, hyfryd, a gwych.

Ni fydd pethau fyth yr un fath eto. Mae’r haint yma am newid cymdeithas mewn sawl ffordd. Fy ngobaith yw ei fod hefyd yn ddechrau ar gyfnod newydd i ddynol ryw – dyfodol newydd wedi ei osod ar dair sylfaen:

Ffydd. Gobaith. Cariad.