Egwyddor meddal hunan-reolaeth

MurlunBeth yw egwyddor?

Ydy egwyddor yn rhywbeth meddal a hyblyg, i’w fowldio a’i siapio yn dibynnu ar yr amgylchiadau, yntau ai rhywbeth pendant, cadarn na ellir ei symud ydyw?

Wel, yno consensws gwleidyddol ein hoes, Jeremy Corbyn yw un o’r gwleidyddion mwyaf egwyddorol yn San Steffan. Mae hyd yn oed y rhai hynny sy’n anghytuno a’i ddaliadau yn cydnabod ei fod yn ddyn o egwyddor, ac wedi cadw’n driw at yr egwyddorion hynny dros y blynyddoedd.

Ymddengys fod yr egwyddorion hynny yn rhai cyfiawn ac anrhydeddus wrth feddwl am drallod cenhedloedd di-wladwriaeth ar draws y byd, ond ddim wrth feddwl am Gymru.

 

Mae ganddo lygad dall pan ei fod yn dod i Gymru, sydd mewn gwirionedd yn nodweddiadol o’r ‘chwith Brydeinig’ (chwedl Seimon Brooks).

Amlygwyd hyn yn gynharach yr wythnos yma wrth i erthygl o wefan y Kurdish Question ymddangos ar fy nhudalen Facebook,

picture2

 

 

Ac mae’n ei ddyfynu:

“I have been following Kurds closely for years, I know their history. Their identity was rejected as of the 1920’s. Their national rights were denied and rejected with the Sykes–Picot Agreement and other conventions led by international powers that have their eyes on those lands. Today, we are still facing with the problems caused by these agreements.

“Kurds have always been denied up to date. If peace is wanted in the region, the Kurdish people’s right to self-determination must be accepted.”

Rwy’n cytuno ag ef.

Ystyriwch ei safbwynt ar Balesteina

I fully support a two state solution based on 1967 borders where a fully independent Palestinian state can exist alongside an Israeli state in peace.

Papua:

“…the right of people to be able to make their own choice on their own future.

“…allows the people of West Papua to make the choice of the kind of government they want and the kind of society in which they want to live,” he said. “That is a fundamental right.”

Chechnya:

“The Chechens should be free to decide their own future.”  (dyfyniad gan drefnydd rali yr oedd Corbyn yn ei gefnogi)

Iwerddon:

“…those of us who wish to see a united Ireland …”

Tamil

Britain’s main Opposition party leader Jeremy Corbyn Monday said his Labour Party fully supports Tamils in their prolonged struggle to achieve self-determination and justice in Sri Lanka.

Oll yn safbwyntiau anrhydeddus iawn, ac un nad yw’r mab yma o genedl ddi-wladwriaeth yn anghytuno a hwynt.

Bron y gallwch chi newid enw unrhyw un o’r cenhedloedd di-wladwriaeth uchod gyda Chymru, a byddai’r un yn sefyll.

Ond mae Corbyn yn erbyn annibyniaeth i Gymru.

Nawr, bydd rhai yn dadlau mai ar sail hawliau dynol a heddwch y mae Corbyn yn gwneud y datganiadau yma. Eto, dadl digon anrhydeddus sydd a’i rhinweddau. Ond mae’n ddadl ffals, oherwydd dro ar ôl tro mae Corbyn yn dweud fod gan y bobl/genedl arbennig y mae’n son amdani hawl i annibyniaeth neu self-determination. Does dim ‘caveats’ i hyn, nid yw’n amodol ar ddim byd, mae’n ddiamod ac yn ddigamsyniol.

Y gwahaniaeth mawr ydy fod y gwledydd yma y mae o’n amddiffyn wedi gwneud neu yn defnyddio dulliau trais i gyrraedd amcanion gwleidyddol.

Nid yw cenedlaetholwyr Cymru na’r Alban, ar y cyfan, wedi mynd ati i ladd na niweidio eraill er mwyn cyrraedd ein nod gwleidyddol ni.

Yr eironi trist felly ydy fod Corbyn, dyn heddwch, dim ond yn ymateb i drais a rhyfel.

Os ydy annibyniaeth i wledydd di-wladwriaeth yn egwyddor mewn rhannau eraill o’r byd, yna mae’n egwyddor yma hefyd, ac mae angen i Corbyn sefyll i fyny dros hawl Cymru i’w hannibyniaeth.

3 Comments

  1. Hmm. Dw i’n cytuno efo chdi bod Jeremy Corbyn yn ddyn o egwyddor, ac ar wahan i’r peth am annibyniaeth Cymru, dw i’n cytuno efo’i egwyddorion, fel ydw i’n cytuno efo egwyddorion ti ac egwyddorion Leanne Wood a llawer erall sy’n hybu syniadau tegwch, cyfiawnder cymdeithasol a heddwch. A dw i’n cytuno efo llawer o’r bethau wyt ti’n dweud yma. Ond dw i’n meddwl bod hi’n annheg priodoli rhesymau dros rywun methu deall rhywbeth i achos neilltuol, pan does gent ti ddim tystiolaeth (hyd a gwn i) fod hyn y rhesymau.

    Dw i’n cytuno bod hi’n biti mawr nad yw Jeremy Corbyn wedi deall eto bod gan Cymru’r un rhesymau am eisiau annibyniaeth, a’r un hawl moesol i’w gael, a’r llefydd eraill wyt ti’n son amdanynt, ond dw i ddim yn meddwl fod hi’n rhesymol neidio o hynny i hawlio fod o’n ‘dim ond ymateb i drais a rhyfel’ – oni bai wyt ti’n gwybod rhywbeth mod i ddim?

    Dydy taflu baw ddim yn helpu efo dim byd – dw i’n gwybod fod ti’n gwybod hyn.

    Dw i’n sgwennu hwn fel ffrind, Mabon – gobeithio fod ti’n gwybod hyn, hefyd.

    Cofion cynnes.

    1. Haia Maria.
      Cytuno i raddau.
      Ti’n iawn nad oes gen i dystiolaeth y tu hwnt i’r patrwm yr wyf wedi ei nodi uchod. Ond mae’r patrwm yn un cyson.
      Mae ei ymateb yn nodweddiadol o un y chwith Brydeinig – sef yn gweld camweddau ac anghyfiawnder ar draws y byd, ond yn methu a’i weld yn agosach i adref.
      Rydym yn gwybod fod Corbyn yn gwrthwynebu annibyniaeth i Gymru a’r Alban. Mae ei ymosodiadau cyson ar yr SNP yn enwedig yn ddiweddar wedi amlygu hynny hyd yn oed ymhellach. Ac nid ymosodiadau ar sail polisi chwith/dde ydyn nhw.
      Plaid Cymru a’r SNP sydd wedi bod yn cynnal yr ymgyrch gwrth-gynni (anti austerity) ers 2010. Mae’r Blaid wedi coleddu polisiau megis gwladoli y diwydiant trenau ers degawdau. Yn wir mae’r gair Sosialaidd yn rhan o gyfansoddiad y Blaid.
      Mewn unrhyw fyd paralel arall byddai Corbyn yn gefnogwr i’r Blaid ac i’r SNP, ond eto mae’n gwrthwynebu y syniad o annibyniaeth (ac felly y pleidiau hynny sy’n hyrwyddo annibyniaeth).
      Wn i ddim pam. Wel, mae gen i syniad. Mae Corbyn yn dod o’r hen draddodiad Llafuraidd Prydeinig, un oedd yn credu fod cenedlaetholdeb yn gyfystyr a Natsiaeth (yr eirioni rhyfeddol yn hyn ydy, fel y noda Hans Kohn, does yna neb yn fwy o genedlaetholwyr na phleidiau sy’n canoli grym – ond mater arall yw hynny!)
      Hwyrach mai cyd-ddigwyddiad ydyw ei fod yn cefnogi annibyniaeth i genhedloedd ddi-wladwriaeth sydd hefyd yn defnyddio dull trais. Ond fel rwy’n nodi uchod, eu cefnogi ar sail yr egwyddor o annibyniaeth mae o’n eu gwneud, nid ar sail y ffaith fod hawliau dynol yn cael eu tramgwyddo.
      Hyd nes fod Corbyn yn rhoi dadl resymegol ac esboniad o paham na ddylai Cymru a’r Alban ennill eu hannibyniaeth, mae pobl fel fi am ddod i gasgliadau yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael.
      Byddwn yn falch o gael fy mhrofi’n anghywir. Byddwn hyd yn oed yn fwy falch o groesawi Corbyn i’r ymgyrch am annibyniaeth. Cawn weld 🙂

      1. Dw i’n meddwl fod ti wedi taro’r hoelen ar ei phen, Mabon, pan wyt ti’n dweud bod gan lawer o bobl dda y chwith y syniad bod cenedlaetholdeb yn gyfystyr a Natsiaeth. A dw i’n deall pam, hefyd – pan fod cenedlaetholdeb yn golygu jingoism, mae ‘na debygrwydd efo Natsiaeth. (Wele’r EDL!) Wrth gwrs, fel wyt ti a fi a lot o bobl eraill yn gwybod, mae mwy nag un fath o genedlaetholdeb. Mae cenedlaetholdeb Cymru ac yr Alban yn hollol wahanol i genedlaetholdeb yr EDL. Annibynniaeth a hunan-rheolaeth y dan ni eisiau, nid cyfle goroesi eraill.

        Ond mae geiriau sy’n golygu pethau hollol wahanol i bobl wahanol yn eiriau sy’n medru arwain at gamddeallturiaeth – ac o achos y cysylltiad efo Natsiaeth a grwpiau fel y NF, yr EDL ac ati, mae ‘cenedlaetholdeb’ yn un o’r geiriau anodd ‘ma. Mae’n anffodus, ond mae’n wir. Mae ‘na eiriau eraill efo’r un broblem. Er mwyn trio cyfathrebu’n glir, dw i’n trio osgoi eu defnyddio – hyd yn oed pan fo hynny’n golygu bod rhaid i mi egluro mewn brawddeg neu ddwy am be’ dw i’n siarad. Hefyd, dw i’n nabod pobl dda o’r chwith sydd yn cysylltu cenedlaetholdeb efo agweddau plwyfol ‘little Englanders’. Mae’n syrpreis iddyn nhw pan fod nhw’n clywed bod Plaid Cymru’n blaid efo agwedd rhyngwladol, sy’n croesawu pobl i’n gwlad a sy wedi hynu ‘Aros’ yn y Refferendwm. Rhaid i ni barhau gwneud hyn mor glir a phosib, achos yr hyn mae lot o bobl wedi clywed ydy’r BBC yn cyfeirio at Blaid Cymru fel ‘the Welsh Nats’.

        Yn anffodus, mae’n rhy hawdd i bobl efo agenda arall am atal annibyniaeth Yr Alban, Cymru ac Iwerddon apelio at y cysylltiad rhwng cenedlaetholdeb o’r fath ddrwg a’r awydd yng Nghymru, yr Alban ac Iwerddon am annibynniaeth. Rhaid i ni barhau esbonio’r gwahaniaeth, ac rhywbryd, efallai, mi fydd pobl fel Jeremy Corbyn a’i gefnogwyr ddeall!

Comments are closed.