Dydd Gwyl Dewi Hapus

GwylDdewiNeges Gwyl Dewi

“Mae dydd Gwyl Dewi Sant yn ddiwrnod arbennig, pan rydym yn dathlu Cymru, ei phobl, a’i chyfraniad i’r byd. Rydym yn cofio am ein nawddsant Dewi a’i neges i ni wneud y pethau bychain.

“Mae’r neges honno yr un mor wir heddiw. Mae gwneud y pethau bychain yn golygu edrych ar ol ein cymdogion, cefnogi ein cymunedau, a rhoi beth fedrwn ni pan fedrwn ni. Mae digwyddiadau rhyngwladol a phethau o bwys cenedlaethol yn medru ein llethu yn llawer rhy aml gan ein gadael i deimlo yn ddi-rym. Ond mae’n bwysig ein bod yn sylweddoli fod ganddom ni oll ran i’w chwarae er mwyn gwella ein cymuned. Wedi’r cyfan mae nifer o bethau bychain yn arwain at un peth mawr.

“Mae Dydd Gwyl Dewi Sant ar gyfer pawb sy’n caru Cymru ac am weld Cymru’n ffynnu, beth bynnag eu cefndir. Mae Cymreictod yn golygu pethau gwahanol i wahanol bobl. Mae fy Nghymreictod i wedi ei wreiddio yn hanes balch y wlad fach hon, o greu’r GIG, y Siartwyr a Merched Beca, i un o feibion y fro yma, Owain Glyndwr. Ond mae’r hanes yma hefyd yn llywio’r dyfodol, a dyfodol fy mhlant, gan fy annog i frwydro’n barhaol dros ein hawliau a chymdeithas well. Dim ond trwy gyd-weithio, yn gwneud y pethau bychain, y caiff hyn ei wireddu.

“Hoffwn ddymuno i bob un ohonoch Ddyd Gwyl Dewi hapus iawn, a gobeithio y gwnaiff pob un ohonom gofion wneud y pethau bychain”.