Gwersi Cymuned Mawddwy

image

Roeddwn yng nghwmni Taid Dinas ddoe. Taid Nia, fy ngwraig, yw Taid Dinas, ac yn frodor o Gwm Cywarch, ger Dinas Mawddwy.

Mae Taid yn gymeriad hyfryd, a chanddo straeon lu am Cywarch, Llanymawddwy a Dinas Mawddwy a sut mae’r ardal odidog honno wedi newid yn ystod ei 96 mlynedd o. Er enghraifft, aredig a cheffyl oedd Taid pan yn iau, a chanddo ddau fochyn, 6 buwch, a ieir yn ogystal a rhai cannoedd o ddefaid – fferm wahanol iawn i ffermydd heddiw.

Ond rhannodd un stori a agorodd fy llygaid.
Rydym wedi dysgu am hanes creu y GIG (NHS) a’r hyn a ddylanwadodd Aneurin Bevan. Ond ynghanol ein swgrs ddoe dechreuodd Taid son am bensiwn Lloyd George. Roedd Taid yn cofio’r straeon o sut yr oedd bywydau pobl wedi cael eu cyfoethogi gyda chyflwyniad y pensiwn. Aeth y sgwrs yn ei flaen i son am y GIG, a minnau’n holi sut oedd bywyd cyn creu’r GIG.

Mae’n debyg fod Taid yn aelod o Glwb y Rottweilers yn Dinas. Roedd pob aelod yn rhoi pres i fewn i sicrhau nad oedd yn rhaid i aelodau’r gymuned dalu gormod am ymweliad meddyg neu nyrs. Roedden nhw hefyd yn penodi un cog (llanc) ifanc y mis i ymweld a hen drigolion cymunedau cylch Mawddwy i sicrhau eu bont yn iawn. Dyma gymuned oedd yn poeni am eu gilydd; yn gwerthfawrogi cyfraniad pob unigolyn; ac yn rhoi gwerth ar eu cymdogion.

Mae gwreiddiau cydweithio; brawd a chwaergarwch; a rhannu yn ddyfn yn y mynyddoedd a’r dyffrynoedd hyn. Hir oes iddo, a bydd yn cymryd llawer iawn mwy na Cameron, Osborne a glweidyddion dihud a didostir fel nhw i ladd yr ysbryd yma.