“Mae’r diwydiant llaeth yn wynebu dyfodol ansicr”.
“Mae’r diwydiant amaeth yn gorfod arallgyfeirio”.
Mae’r rhain yn frawddegau cyffredin, ond yn hytrach na mynd ar ôl pris llaeth neu ddyfodol ffermio, rwy am edrych ychydig yn ehangach ar y testun. Oherwydd mae’n gas gen i glywed am ffermio yn y cyd-destun hwn.
Wrth gyfeirio atynt fel ‘diwydiannau’ rydym yn eu hisraddio i fod yn ddim mwy na gweithgarwch economaidd sy’n prosesu deunydd amrwd. Wrth eu trafod yn y termau hyn mae posib rhesymegu’r amrywiadau sy’n golygu bod ffermydd teuluol cefn gwlad Cymru’n diflannu.
Ond, tra nad oes amheuaeth fod amaethyddiaeth yn cyfrannu at yr economi; ei fod yn cyflogi degau o filoedd o bobl yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol trwy Gymru benbaladr; a bod ffermwyr hefyd yn prosesu deunyddiau amrwd i’w cynhyrchu i fod yn fwyd; mae amaethyddiaeth yn gymaint fwy na diwydiant.
Mae’n ffordd o fyw. Mae’r fferm deuluol Gymreig wedi creu’r Gymru wledig yr ydym wedi ei fabwysiadu oddi wrth ein cyndadau. Mae wedi cynnal y Gymraeg, a thafodiaethau cyfoethog hefyd. Mae arferion amaethyddol wedi ymdreiddio i mewn i fywyd cymunedol. O golli ein ffermydd teuluol Cymreig, byddwn hefyd yn colli ffordd o fyw, ein cyswllt efo’r tir, ac, os nad ydym yn ofalus, ein hiaith.
Felly wrth gefnogi ffermwyr Cymru, rydym yn cefnogi llawer mwy na diwydiant, rydyn hefyd yn cefnogi ac yn cynnal ein diwylliant.