Pwy ydyn ni? O ble’r ydyn ni’n dod? I ble’r ydyn ni’n mynd?

Palestiniad yn chwarae pibgodCaewch eich llygaid am funud, a dychmygwch eich bod ar lan loch Albanaidd, joch o chwisgi yn eich llaw, a dyn mewn cilt yn chwarae hen alaw ar offeryn hynafol gerllaw. Rwan dychmygwch eich bod mewn tafarn yn yr Iwerddon, tanllwyth o dân mawn yn y grât, a chriw o offerynwyr yn chwarae jigs a rîls. Yn olaf dychmygwch eich bod yn paratoi i weld gem rygbi rhyngwladol yn Stadiwm y Mileniwm a chôr meibion yn codi canu cyn bod yr anthem yn taranu.

 

Pa offerynnau oedd yr Albanwr a’r Gwyddelod yn eu chwarae? Pa alaw oedd y côr yn canu? Gaf i fentro fod yr Albanwr yn chwythu ar bibgod Ucheldir yr Alban (Highland Pipes); bod y Gwyddelod yn chwarae Gitâr, Banjo, Ffidil, a Bodhran; a’r côr meibion yn canu Gwahoddiad.

 

Pam mod i’n holi hyn? Wel, un cwyn cyson yr ydym yn ei glywed gan rai yw mai aml-ddiwyllianedd (multi-culturalism) yw gwraidd pob dim sydd o’i le yn ein cymdeithas. Diogi meddyliol yw hyn. Aml-ddiwyllianedd sydd wedi creu’r gwledydd a’r diwylliannau sydd ganom heddiw. Offeryn o ardal Palestina yw’r bibgod yn wreiddiol, sydd hefyd i’w chanfod yng Nghymru, Ffrainc a hyd yn oed yr India. Offeryn o’r Eidal yw’r ffidl; daw’r banjo o ddeheudir yr Unol Daleithiau â gwreiddiau yn Affrica; a’r gitâr o Sbaen. Alaw a gyfansoddwyd gan weinidog yn America, L Hartsough, yw Gwahoddiad, a daw alaw hen Wlad Fy Nhadau o draddodiad canu poblogaidd Llundain y ddeunawfed ganrif.

 

Ond does dim amau perthnasedd y pethau hyn i’w diwylliannau cyfoes. Does dim amau Cymreictod ein hanthem. Oherwydd nid o ble’r do nhw’n wreiddiol yw’r pwynt, ond ym mhle maen nhw heddiw, a phwy sy’n eu magu, eu cofleidio, a gofalu amdanyn nhw. Yr un peth a’n hiaith sy’n benthyg geiriau a bathu termau newydd yn gyson, felly hefyd y mae gweddill ein diwylliant, a ninnau yn ein tro yn cael ein cyfoethogi. Felly cyn beirniadu aml-ddiwyllianedd yn ddifeddwl, meddyliwch faint o roddion y mae diwylliannau eraill wedi ei roi i ni. Heb aml-ddiwyllianedd ni fyddai ein diwylliant yn bodoli, dyna’r gwir.