Cyhoeddi ymgeisydd Plaid Cymru yn Ne Clwyd

MM-17Yr economi a swyddi fydd prif neges ymgeisydd etholiadol Plaid Cymru yn etholaeth De Clwyd yn etholiad San Steffan y flwyddyn nesaf.
Cyhoeddodd y Blaid eu bont wedi dewis Mabon ap Gwynfor, o Gynwyd, fel eu hymgeisydd yn yr etholaeth.

Meddai Mabon fod sicrhau na fydd Cymru yn cael ei thynnu allan o Ewrop, fyddai’n golygu colledion arianol anferthol i’r byd amaethyddol, a sicrhau fod y Gwasanaeth Iechyd yn aros yn gyhoeddus, hefyd ar frig ei flaenoriaethau.

“Bydd yr economi a swyddi yn ganolog i’r etholiad nesaf”, meddai Mabon. “Mae incwm y pen yn yr ardal hon yn is nag yn unrhyw ran arall o’r Deyrnas Gyfunol, gyda nifer fawr yn dioddef o dlodi mewn gwaith. Mae sicrhau Cyflog Byw – sy’n gyfwerth i £7.65 yr awr – yn angenrheidiol er mwyn codi safonau byw nifer o deuluoedd yn yr etholaeth hon. Mae 2,354 o deuluoedd yn byw gyda dyled anghynaladwy yn Ne Clwyd, ac mae oleiaf 20% o bobl mewn gwaith yn ennill llai na’r cyflog byw. Byddai menywod yn enwedig ar eu hennill o gael cyflog byw gan bod mwy o fenywod yn gweithio mewn swyddi tal isel a rhan amser. Byddaf hefyd yn galw am ostwng TAW yn sylweddol i’r diwydiant twristaidd, i lawr i 5%.”

Mae Plaid Cymru eisioes wedi sicrhau Cyflog Byw i weithwyr Cyngor Gwynedd.

Esboniodd Mabon ap Gwynfor fod sicrhau arianu teg i Gymru er mwyn buddsoddi mewn swyddi ac yn yr economi yn allweddol. “Mae’r HS2, cynllun tren cyflymder uchel o Leeds i Lundain, am gostio £50bn, ond ni fyddwn ni’n gweld unrhyw fudd o’r cynllun yma. Yr unig ardal fydd yn elwa mewn gwirionedd bydd Llundain a de ddwyrain Lloegr. O gael gwared ar y cynllun trachwantus yma gall olygu y bydd cynghorau Sir Ddinbych a Gwynedd ar ei hennill o £9.5m y flwyddyn am y deuddeg mlynedd nesaf.”

Mae Mabon yn wr priod ac yn dad i dri o blant, ac yn byw yn Edeyrnion. Mae wedi arwain ymgyrchoedd iechyd yn yr ardal ers sawl blwyddyn, yn cynnwys gwella darpariaeth deintyddol Corwen, a chadw gwlau ysbytai yn Llangollen. Mabon yw sylfeinydd a chadeirydd Cyngrhair Iechyd Gogledd Cymru. Mae’n lywodraethwr yn Ysgol Bro Dyfrdwy, ac yn Gyfarwyddwr ar Fwrdd Theatr Genedlaethol Cymru.