Dyma fy ngholofn ddiweddaraf i’r Free Press
Yn yr etholiadau Ewropeaidd diweddar bwriodd mwyafrif o bobl a wnaeth drafferthi i bleidleisio yn Sir Ddinbych eu pleidlais dros blaid oedd a nemor ddim polisiau, ond sydd ar y cyfan yn cyflwyno syniadau rhyfedd a chreulon.
Dyma ddywed rhai o ladmeryddion Ukip: dylid lladd plant a phobl efo trafferthion meddyliol; mai pobl hoyw achosodd y llifogydd diweddar; bod menywod mewn gwaith yn llai gwerthfawr na dynion; bod angen cael gwared ar dal mamolaeth; cyflwyno treth wastad – fydd yn golygu fod miliwnydd yn talu’r un faint o dreth a’r tlotaf.
Rwy’n eithaf hyderus nad ydy’r rhelyw ohonoch a bleidleisiodd dros Ukip yn cytuno â’r polisiau lloerig yma.
Ond eto dyma’r blaid a ddaeth i’r brig. Er ei bod hi’n blaid atgas, siofinistaidd, senoffobaidd, rwy’n gwrthod credu fod y mwyafrif a bleidleisiodd drosti yn coleddu’r syniadau yma.
Yn hytrach rwy’n credu fod y bleidlais yn adlewyrchiad o’r ofn sydd gan nifer ynghylch y newidiadau y mae’n nhw’n eu gweld o’u hamgylch. Boed hynny’n dechnolegol; gwasanaethau’n diflanu; diwydiannau’n mynd. Mae cymdeithas yn newid yn sydyn, ac mae’n anodd dal i fyny efo’r newid. Mae ein cymdeithas wedi newid fwy yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf na’r hyn a welwyd yn y pum can mlynedd cyn hynny.
Mae ofn, anwybodaeth a rhagfarn yn bwerus iawn mewn cymdeithas sy’n newid, ac mae Ukip yn feistri ar fanteisio ar hyn. Mewn amgylchiadau tebyg mae’n hawdd chwilio am fwch dihangol a rhoi bai ar yr ‘arall’.
Dyma yr oedd Ukip yn ei gynnig. Cyfle i bobl fynegi rhwystredigaeth eu bont yn teimlo eu bod nhw’n colli rheolaeth dros eu bywydau a’u cymdeithas. Dyma ganlyniad gwleidyddiaeth sydd mor bell oddi wrth yr unigolyn. Dyna pam fod angen dod a gwleidyddiaeth a grym i lawr i’r lefel mwyaf lleol. Trwy rymuso pobl mae posib cyflwyno rheswm a chael gwared ar rhagfarnau di-sail. Brysied y dydd y bydd Cymru yn rheoli ei dyfodol ei hun!